Brian Thomas

Brian Thomas Ganwyd Brian Thomas ar fferm laeth yng Ngogledd Sir Benfro, yr hynaf o dri o blant. Ar ôl gadael yr ysgol yn 15 oed heb unrhyw gymwysterau, aeth i weithio ar fferm laeth y teulu. Pan oedd yn 23 oed, priododd Eiryth gan ymgymryd â thenantiaeth o 70 erw o dir wrth ei rieni, a dechreuodd odro 25 o fuchod godro. Ar ôl adeiladu cartref ar y tir, dechreuodd ystyried y cam o ehangu'r fuches ond er mwyn gwneud hynny, byddai angen cryn fuddsoddiad yn y cyfleusterau godro a chadw. Ar yr adeg honno, nid oedd ganddo unrhyw gyfalaf, felly penderfynodd ganolbwyntio ar fagu heffrod ac erbyn yr oedd ganddo ddigon o gyfalaf, roedd y cwotâu llaeth wedi cael eu cyflwyno, gan roi terfyn ar ei gynlluniau.

O ganlyniad, penderfynodd newid cyfeiriad gan symud i weithgarwch cynhyrchu cig eidion a defaid. Yn ogystal â hyn gwelodd gyfle gwych i gymryd awenau storfa amaethyddol fach yn y pentref, a dyma oedd cychwyn ar weithgareddau arallgyfeirio ei fusnes.

Ym 1988, etifeddodd y tir a phenderfynodd fanteisio'n llawn ar yr ased trwy ei werthu a phrynu ei fferm bresennol 280 erw sef Llwyncelyn Lan. Erbyn 1996, roedd y daliad yn cynnwys 200 o wartheg eidion a 600 o famogiaid, ynghyd â rhywfaint o gnydau grawn, ond yn yr un modd â'r hyn a ddigwyddodd i nifer o bobl, gwelwyd ei fusnes yn dioddef yn fawr oherwydd BSE ac fe ddilynwyd hyn gan dair blynedd anodd. Ar yr un pryd, effeithiwyd ar ei fuches gan glefyd TB buchol ac er ei fod wastad wedi dymuno ffermio, roedd yn gallu gweld yr angen i arallgyfeirio ei fuddiannau busnes.

O ganlyniad, prynodd orsaf betrol a gweithdy MOT nad oedd yn cael ei ddefnyddio i'w botensial llawn yng Nghrymych, ynghyd â'r siop grefftau a llyfrau Cymraeg drws nesaf. Gan ddatblygu'r busnes gyda'i wraig, roeddent yn cyflogi pum gosodwr a dau weithiwr yn y siop a gwelwyd y trosiant yn cynyddu bedair gwaith. Yn 2005, penderfynodd brydlesu'r gweithdy yn y garej ac yn 2008, cafodd Eiryth ag ef gynnig am y busnes cyfan, a phenderfynodd ei werthu er mwyn treulio mwy o amser yn ffermio.

Ar hyn o bryd, mae'n sefydlu buches o wartheg eidion byrgorn pedigri, mae'n cynyddu maint ei ddiadell ac mae'n tyfu 50 erw o ydau gwanwyn. Mae’r datblygiad garej a gorsaf MOT newydd yng Nghrymych nawr wedi’i gwblhau a sefydlodd y tenant ei fusnes yn nyddiau cynnar mis Mawrth.

Ym 1996 pan wnaeth argyfwng BSE daro'r diwydiant, daeth Brian yn un o'r prif ymgyrchwyr yn Ne Orllewin Cymru a fu'n gwrthwynebu'r cam o fewnfudo cig eidion israddol i Gymru. Ar ôl clywed adroddiad ar y BBC ynghylch protestiadau yn harbwr Caergybi, trefnodd gyfarfod yng Nghrymych gan annerch dros 1500 o ffermwyr. Ym 1997, arweiniodd gr?p o 10 ffermwr i stondin Tesco yn Sioe Frenhinol Cymru a'u hannerch am y ffordd annheg yr oeddent yn trin y diwydiant. Rhwng 1996 a 1998, bu Brian yn treulio llawer o amser yn delio gyda'r wasg, gan gyfleu sefyllfa'r diwydiant a chysylltu gyda ffermwyr hefyd. Yn ogystal, bu'n mynychu cyfarfodydd yn y Swyddfa Gymreig er mwyn trafod BSE ar gais Robert Foster o’r Gymdeithas Cig Eidion Genedlaethol (NBA).

Mae TB Buchol yn fater y mae Brian yn teimlo'n angerddol amdano hefyd. Pan ddioddefodd ei fuches y clefyd tua diwedd y 1990au, dywedodd mewn cyfweliadau y byddai'r clefyd yn fwy o broblem nag y byddai BSE erioed os na fyddai sylw yn cael ei roi iddo. Yn anffodus, fe'i profwyd yn gywir i nifer, ac ar hyn o bryd, mae'n eistedd ar y gweithgor lleol ar gyfer Ardal Weithredu Ddwys y Cynlluniad ynghylch TB buchol yng Ngogledd Sir Benfro, gan gynrychioli ffermwyr yn yr ardal.

Mae Brian yn gyn Gadeirydd Sirol UAC yn Sir Benfro, mae wedi bod yn aelod o Bwyllgor Tenantiaid canolog yr Undeb yn y gorffennol ac etholwyd ef yn Aelod De Cymru ar y Pywllgor Canolog Cyllid a Threfn yn 2011.

Mae wedi bod yn un o lywodraethwyr ysgol gynradd leol ers sawl blynedd. Yn ystod ei gyfnod, bu ei allu i wrthsefyll pwysau ac i ymladd ei achos o gymorth wrth sicrhau bod un o'i ysgolion cynradd lleol yn cael ei hachub ar ôl penderfynu y byddai'n cau. Yn ogystal, bu'n aelod o Gyngor Cymuned Clydau am dros ugain mlynedd, a helpodd i sefydlu adran iau Clwb Rygbi Crymych, y mae bellach yn croesawu cannoedd o blant bob wythnos.

Mae gan Brian ac Eiryth ddau fab sydd wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd mewn meysydd gwahanol tu allan i amaethyddiaeth.

Cysylltwch â ni

Undeb Amaethwyr Cymru
Llys Amaeth
Plas Gogerddan
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3BT

 01970 820820
 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Dweud eich dweud

Defnyddiwch y teclyn hyn i ddod o hyd i'ch cynrychiolwyr etholedig lleol, ac yna bydd modd i chi ddewis pwy i anfon neges at drwy e-bost ynglŷn â pam bod #AmaethAmByth

Cod Post
FUW Logo