Mae hyn yn gwd thing!

Baler cord, cap stabal, rigger boots a mwstash - delwedd weddol gyffredin o ffermwyr yng Nghymru dros y degawdau, ond diolch i un dyn o Gwmfelin Mynach, mae’r ddelwedd bellach yn un eithaf eiconig. Dyma ddelwedd y Welsh Whisperer, sy’n prysur wneud enw iddo’i hun fel perfformiwr gwerin, cyflwynydd radio a phersonoliaeth deledu boblogaidd.

Mae caneuon y Welsh Whisperer yn cael eu canu fflat owt gan Ladi Fach t? ni ers misoedd, ac felly cam naturiol yn ddiweddar oedd mynd i glywed y dyn ei hun yn canu yn fyw.  Felly allan a’r baler cord a’r crysau siec, a gwledd o ganu am Loris Mansel Davies, Bois y JCB, Bois y Loris, Classifieds y Farmers Guardian a Ni’n Belo Nawr, ond o ble daw’r ysbrydoliaeth tu ôl i’r caneuon unigryw? Yn ddiweddar cafodd Cornel Clecs egsliwsif er mwyn cael holi bola berfedd y Welsh Whisperer:

1.  Lle mae’r ysbrydoliaeth ar gyfer dy ganeuon yn dod o?

Dechreuodd y cyfan o ran ysgrifennu caneuon ar gyfer cynulleidfa cefn gwlad ar ôl gweld eisiau cynrychioli cefn gwlad Cymru, yn enwedig y Gorllewin a’r angen i greu hwyl a hiwmor yn ein cymunedau cefn gwlad ni sydd, yn dda neu'n ddrwg, yn gallu bod yn unigryw iawn! Mae rhai digwyddiadau arferol pob dydd yn ysbrydoliaeth digon clir i ysgrifennu cân fel bod yn styc tu ôl i lori Mansel Davies, ond mae syniadau eraill yn dod o gyfarfod cymeriadau lliwgar o gwmpas y wlad a gweld neu glywed dywediad.

2. A oes yna negeseuon ymhob un o dy ganeuon?

Dydw i ddim pob tro yn anelu at gyfleu unrhyw neges benodol ym mhob cân ond un peth sy’n rhedeg yn glir ym mhopeth dwi’n ei wneud (gobeithio) yw’r balchder o fod yn Gymro. Max Boyce oedd y person cyntaf dwi’n meddwl gwelais i oedd yn cynrychioli Cymru a’r Cymry ar lefel mor amlwg ac unigryw. Roeddwn i eisiau creu rhywbeth tebyg, rhywun oedd mor Gymraeg a Chymreig bydde dim amheuaeth o gwbl pa wlad a pa boblogaeth oedd e’n eu cynrychioli, a dyma fi, y Welsh Whisperer! Dwi wrth fy modd mewn nosweithiau llawn dop lle mae ambell un yn dod lan ar y diwedd a dweud “I didn't understand a word but we’ve had a great night.” Mae plethu adloniant i’r Cymry Cymraeg a’r rhai sydd ddim yn siarad yr iaith yn bwysig iawn i fi hefyd. Y nod pob tro yw dangos bod adloniant cefn gwlad Cymraeg yn gallu bod yn fwy diddorol na adrodd a bwyta bara brith ar y diwedd (er pob parch i’r rhan yna o'n diwylliant). Rydw i hefyd yn awyddus i drosglwyddo’r balchder i blant sy’n hoffi'r caneuon, er mwyn iddynt fwynhau steil gwahanol o gerddoriaeth ac adloniant ond hefyd i ddangos does dim angen perthyn i rywun i wneud yn dda yn y diwydiant adloniant yng Nghymru. Mae eisiau dathlu’r ffordd yma o fyw, bach llai o boeni a mwy o fynd. Rwy’n fawr obeithiol bydd mwy o bobl yn rhoi cynnig ar roi adloniant cefn gwlad yng Nghymru i’r Cymry, sydd wrth gwrs yn rheswm arall i gadw pobl yma. Ar ddiwedd y dydd, os ydy’r gwaith canu yn sychu i fyny mae ‘na hen ddigon o waith yn llenwi potholes beth bynnag.

3.         Wyt ti’n gweld dy hun fel llysgennad ar gyfer y diwydiant amaethyddol?

Dwi wedi dod yn rhyw fath o wyneb cyfarwydd o fewn nifer o gymunedau amaethyddol oherwydd cynnwys y caneuon, y baler cord a’r cap stabal si?r o fod! Rwy’n si?r bod yna llawer mwy o bobl mewn gwell sefyllfa i fod yn llysgennad amaethyddol i’r wlad ond dwi yn teimlo cyfrifoldeb i gynhyrchu mwy a mwy o adloniant i’r Cymry cefn gwlad o bob oedran. Mae’r berthynas agos rhwng iaith a thir yng Nghymru yn dangos yn ddigon clir bod diwydiant sy’n aros yn y teulu yn dod ag iaith sydd hefyd yn cael ei throsglwyddo, felly os allai gyfrannu mewn unrhyw ffordd at gadw’r ddau beth yna i fynd byddai’n cysgu’n sownd. Mae’r busnes adloniant yn mynd â fi i bob man yng Nghymru ac weithiau mae rhaid cyfaddef mae’n hawdd teimlo fel rhyw fath o Justin Bieber Cymraeg, ond mae'r rigger boots trwm yn sicrhau bod fy nhraed ar y ddaear er dwi ddim wedi gorffen y gwaith eto. Mewn noson yn Llanfynydd, Sir Gâr yn ddiweddar rwy’n cofio dweud ‘wnâi stopio canu pan fyddai wedi bod i bob pentref yng Nghymru’ ac yn fuan ar ôl hynny daeth Jonathan Edwards AS Plaid Cymru Dwyrain Caerfyrddin atai a dweud ‘Ma da ti’r ‘gift of the gab’, dyle ti fynd mewn i wleidyddiaeth’ A beth oedd fy ateb? ‘Welai di yn Westminster!’

Un peth sy’n sicr, mae’r Welsh Whisperer yn denu sylw pob oedran, ond yn bwysicaf oll, y to ifanc. Dyna’n union beth sydd angen ar hyn o bryd, ynghanol ansicrwydd beunyddiol Brexit, mae angen i gefn gwlad fod yn ddeniadol ac mae’r Welsh Whisperer yn diwallu’r angen hynny, ac rwy’n si?r bydd ei ddymuniad o ganu ymhob pentref yng Nghymru yn cael ei wireddu diolch i’w boblogrwydd cynyddol. Hir oes i’r baler cord, cap stabal, rigger boots a’r mwstash! Gwd thing!