Swydd Ddisgrifiad - Dirprwy Swyddog Gweithredol Sirol - Meirionnydd

Cyflog: £16,500 (Cyfatebol i £25,000 Llawn Amser)
Oriau: 21 awr yr wythnos. Bydd rhaid bod yn barod i weithio ar benwythnosau a gyda’r nos fel bo’r angen.
Manteision: Cynllun Cymorth Staff, Cyfnod Mamolaeth Estynedig, mynediad at lwyfan arbedion, mynediad at fanteision ac arbedion aelodau, gwyliau estynedig am wasanaeth hir, y gallu i weithio’n hyblyg, absenoldeb o’r gwaith er mwyn astudio, cyfle i ddatblygu gyrfa.
Lleoliad swyddfa: Dolgellau
Dyddiad cau: 12fed Rhagfyr 2023


Ynglŷn â'r swydd:

Byddwch yn darparu ystod o wasanaethau i aelodau Undeb Amaethwyr Cymru (UAC).  Bydd ganddoch wybodaeth a phrofiad o gynlluniau amaethyddol cyfredol Llywodraeth Cymru a hefyd dealltwriaeth o gyfeiriad posib cefnogaeth i ffermwyr fydd ar gael yn y dyfodol.  Fe fyddwch yn gallu cwblhau'r mwyafrif o geisiadau grant ar gyfer ffermwyr ac yn fodlon datblygu eich dealltwriaeth o’r maes.  Yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad o ddarparu cyngor i amaethwyr a bydd gennych wybodaeth weithredol gref o'r sector amaeth.

Cewch eich cefnogi gan dîm o staff yn lleol a chenedlaethol a byddwch yn gweithio'n agos gyda'n tîm polisi amaethyddol yn ogystal â staff sirol mewn 12 sir ledled Cymru.  Byddwch yn cefnogi eich cydweithwyr o fewn y Sir i wasanaethu ein haelodau ym Meirionnydd.

Amdanoch chi:

Byddai gradd mewn Gwyddor Amaethyddol / Amgylcheddol neu bwnc cysylltiedig yn ddymunol a / neu brofiad o'r sector amaethyddol yma yng Nghymru.  Bydd gennych hefyd ddealltwriaeth o agendau amgylcheddol amaethyddol a materion cysylltiedig ar lefel Gymreig a Prydeinig. Yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad o gwblhau ffurflenni grant, ac adroddiadau / asesiadau amgylcheddol ar ran ffermwyr.

I lwyddo yn y swydd hon fe fyddwch yn:
· gyfathrebwr naturiol sy’n mwynhau cyfarfod a helpu pobl
· yn gyfrifol am hyrwyddo nodau a gwerthoedd yr Undeb
· yn canolbwyntio ar ddenu aelodau newydd a gweithio gyda'ch cydweithwyr i gefnogi anghenion ein haelodau
· gwerthu a hyrwyddo’r holl wasanaethau a ddarperir gan UAC
· cefnogi eich cydweithwyr i sefydlu a chynnal rhwydweithiau lleol cryf

 

Anfonwch CV at This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.