Archebu eich apwyntiad SAF 2024

Mae’r amser o’r flwyddyn wedi cyrraedd unwaith eto wrth i ni ddechrau meddwl am y Ffurflenni Cais Sengl (SAF). Mae’r cyfnod ymgeisio yn agor ar Fawrth 4ydd ac mae UAC yn atgoffa ei haelodau bod ein staff sirol yma i helpu ac yn barod i ysgwyddo’r baich o lenwi’r ffurflen.

Mae UAC yn darparu’r gwasanaeth hwn fel rhan o becyn aelodaeth, sydd wedi bod yn amhrisiadwy i filoedd o aelodau dros y blynyddoedd - gan arbed amser a phenbleth gwaith papur.

Dywedodd Ymgynghorwr Polisi Arbennig Rebecca Voyle: “Yn ôl pob tebyg, y broses o gwblhau’r SAF yw’r un ymarferiad cwblhau ffurflen bwysicaf sy’n cael ei wneud gan ffermwyr Cymru ers 2004, ac mae canlyniadau gwallau ariannol ar y ffurflenni yn ddifrifol. Mae ein staff nid yn unig wedi’u hyfforddi’n dda ond mae ganddynt brofiad helaeth o ymdrin â’r broses ymgeisio gymhleth.” 

Ers i Lywodraeth Cymru orchymyn y dylid gwneud pob cais ar-lein, mae UAC yn canolbwyntio ar ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’w haelodau.

“Rwy’n annog ein haelodau a’r rhai sy’n llenwi ffurflenni am y tro cyntaf i gysylltu â’u swyddfa leol cyn gynted ag y bo modd i drefnu apwyntiad os oes angen help i lenwi’r ffurflen,” ychwanegodd Rebecca Voyle.

Undeb Amaethwyr Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailfeddwl y Cynllun Ffermio Cynaliadwy drwy gydlunio ystyrlon yn ystod eu trafodaethau brys

Yn ystod trafodaethau brys a gynhaliwyd heddiw (19 Ionawr) gyda’r Gweinidog dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths, a’i swyddogion, galwodd Undeb Amaethwyr Cymru am ail ystyried y cynllun a chydlunio’r gwaith o ddifrif.

Wrth siarad yn syth ar ôl y cyfarfod, dywedodd Llywydd UAC, Ian Rickman: “Fel ffermwyr, rydym yn deall cryfder y teimladau a rhwystredigaeth ein haelodau ar hyn o bryd. Mynegwyd y pryderon dwys a dyfnder y teimladau sydd gan ein haelodau a’r gymuned wledig ehangach wrth y Gweinidog heddiw.

“Rydym wedi galw am gynnal asesiad annibynnol ar effaith economaidd-gymdeithasol a baich biwrocrataidd polisïau amaethyddol Llywodraeth Cymru, i gynnwys rheoliadau’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS), TB mewn gwartheg a Rheoli Llygredd Amaethyddol o fewn yr NVZ.

“Dywedom yn glir hefyd y dylid defnyddio’r amser hwn i sicrhau cyfres cyson o gyfarfodydd rhwng y ddwy undeb amaethyddol â’r Gweinidog dros Faterion Gwledig a’i swyddogion er mwyn ailfeddwl y cynigion drwy gydlunio ystyrlon. Mae hyn yn cynnwys sefydlu panel annibynnol â'r dasg o edrych ar ddewisiadau eraill yn lle plannu coed fel y gallwn weithio tuag at sero net mewn ffordd fwy cynaliadwy,” meddai.

Mae’r FUW wedi nodi’n glir ers tro bod yn rhaid i’r SFS fod yn hygyrch i bob busnes ffermio gweithredol, gan ddarparu sefydlogrwydd hirdymor i fusnesau o’r fath yn ogystal a’r economi wledig ehangach sy’n dibynnu ar amaethyddiaeth. Mae angen iddo hefyd ddarparu ffrwd incwm ystyrlon sy’n gwobrwyo ffermwyr yn briodol, drwy fynd y tu hwnt i’r costau a dynnir a’r incwm a gollir, ac sy’n sail i bwysigrwydd cadwyn gyflenwi bwyd o ansawdd uchel yma yng Nghymru.

“O’r hyn y gwelwn ni, ni fydd yr SFS ar ei ffurf bresennol yn gynaliadwy ac mae’n amlwg nad yw’n barod. Ail adroddodd y Gweinidog ei sicrwydd na fyddai’n lansio’r Cynllun nes ei fod yn barod.

“Rhaid felly ystyried parhad y Cynllun Taliad Sylfaenol ar y cyfraddau presennol hyd nes ein bod yn hyderus bod yr SFS yn barod. Oni wneir hyn, byddwn mewn perygl o ail-adrodd y cangymeriadau sydd wedi ei gwneud yn Lloegr gyda diflaniad taliadau sylfaenol a bron yr holl gyllid yn ddibynol ar weithredoedd amgylcheddo.

“Rydym yn croesawu’r cyfarfod adeiladol gyda’r Gweinidog a’i swyddogion ar adeg sy’n dyngedfennol bwysig i’r diwydiant. Fodd bynnag, mae'r cam nesaf bellach yn eu dwylo nhw ac rydym yn mawr obeithio y byddant yn cymryd ein sylwadau o ddifrif.

“Unwaith eto, ni allaf or bwysleisio pa mor bwysig yw hi i bob unigolyn a busnes y bydd y cynllun hwn yn effeithio arnynt ymateb yn ffurfiol i’r ymgynghoriad erbyn 7 Mawrth. Mae’n parhau i fod yn gwbl hanfodol ein bod ni i gyd yn gwneud hynny er mwyn sicrhau’r fod y Llywodraeth yn clywed ein barn,” ychwanegodd Ian Rickman.

Pwysigrwydd cael y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn gywir, yn hanfodol bwysig, meddai UAC

Mae Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman, wedi ysgrifennu at bob aelod o’r Undeb yn annog unigolion a busnesau i ymateb yn ffurfiol i ymgynghoriad Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC) Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn lleisio barn.

“Does dim ond angen i ni edrych ar ystadegau’r Arolwg Busnes Fferm i ddeall arwyddocâd cyllid amaethyddol a datblygu gwledig i’n cadwyni cyflenwi bwyd a’r economi wledig ehangach.

“Dyma’r trydydd ymgynghoriad a’r olaf ar gynigion yr CFfC ac mae’r pwysau i’w gael o’n gywir, yn hanfodol bwysig i’r diwydiant.

“Rydym wedi siarad yn uniongyrchol â thros 1500 o ffermwyr yn ein cyfarfodydd sirol ledled Cymru dros yr wythnosau diwethaf. Ar ben hynny, mae ein tîm o arbenigwyr amaethyddol wedi bod yn pwyso am newidiadau a diwygiadau i gynlluniau Llywodraeth Cymru dros sawl blwyddyn. Mae hwn yn gyfnod tyngedfennol bwysig i amaethyddiaeth Cymru a’i dyfodol 

Mae modelu ar effeithiau economaidd posibl y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’r ymgynghoriad yn awgrymu:

  • gostyngiad mewn incwm busnesau fferm o hyd at £199 miliwn
  • gostyngiad o £125 miliwn mewn allbwn ffermydd
  • 122,000 yn llai o unedau da byw
  • gostyngiad o 11% mewn gofynion llafur ar ffermydd. 

“Y gwir amdani yw, os bydd y cynllun yn parhau yn ei ffurf bresennol, ac os yw’r adroddiad modelu’n gywir, bydd y nifer sy’n manteisio ar y cynllun yn fychan iawn a bydd pawb ar eu colled – ffermwyr Cymru, yr amgylchedd, y cyhoedd ac yn y pen draw, Llywodraeth Cymru hefyd.

“Mae yna bryder gwirioneddol, hyd yn oed mewn sefyllfa lle nad yw taliadau’r cynllun newydd yn agos at wneud iawn am golli Cynllun y Taliad Sylfaenol, na fydd gan rai busnesau fferm unrhyw ddewis heblaw cymryd rhan yn yr CFfC. Bydd hyn, heb os, yn rhoi pwysau pellach ar lwyth gwaith ac iechyd meddwl ffermwyr.

“Rhaid i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy fod yn hygyrch i bawb, a darparu sefydlogrwydd hirdymor i fusnesau ffermio a’r economi wledig ehangach sy’n dibynnu ar amaethyddiaeth. Mae angen i’r CFfC ddarparu incwm ystyrlon i ffermwyr ac sy’n tanategu pwysigrwydd cadwyn gyflenwi bwyd o ansawdd, a gynhyrchir yma yng Nghymru,” meddai Ian Rickman. 

Daw’r ansicrwydd ynglŷn â dyfodol cymorth ariannu amaethyddol yng Nghymru yn erbyn cefndir o achosion parhaus o’r diciâu mewn gwartheg a cholli miloedd o wartheg o’r diwydiant bob blwyddyn. Mae hyn ar ben polisi Llywodraeth Cymru o ymdrin â rheoliadau llygredd biwrocrataidd a fydd yn costio dros £400 miliwn i’r diwydiant gydymffurfio â nhw.

“Gwnaeth y cyfarfodydd diweddar ym marchnadoedd da byw Y Trallwng a Chaerfyrddin ddatganiad clir am y rhwystredigaeth a deimlir gan lawer o ffermwyr. Roedd yn dangos y pryder ynglŷn â'r sefyllfa bresennol a chyfeiriad polisi amaethyddol yma yng Nghymru i’r dyfodol.

“Fel ffermwr fy hun dwi’n deall y rhwystredigaethau a welwyd yn y cyfarfodydd. Ond mae angen i ni sicrhau ein bod yn gweithio gyda’n gilydd a bod llais ffermwyr Cymru yn cael ei glywed gan y rhai sy’n gwneud y penderfyniadau yng Nghymru ac yn San Steffan. Bydd y ddwy undeb amaethyddol yn cyfarfod â’r Gweinidog dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths, i drafod y ffordd ymlaen.

“Fodd bynnag, mae’n hanfodol bwysig bod pob unigolyn a busnes a effeithir gan y cynigion hyn yn ymateb yn ffurfiol i’r ymgynghoriad erbyn 7 o Fawrth. Mae’n gwbl hanfodol ein bod ni gyd yn gwneud hynny.

“Awgrymwn hefyd ein bod, fel amaethwyr, yn cysylltu â’ch cynrychiolwyr etholedig lleol ar bob cyfle, boed yn gynghorwyr sir, yn Aelodau Senedd lleol a/neu ranbarthol neu’n Aelodau Seneddol yn San Steffan.

“Mae angen i ni sicrhau eu bod nhw hefyd yn clywed eich llais a’ch pryderon er mwyn sicrhau ein bod ni’n parhau i ddwyn pwysau ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r cynllun mewn ffordd sy’n hybu diwydiant amaeth cynaliadwy yng Nghymru ac yn ei ddiogelu i’r dyfodol.”

Diwedd

Ymatebwch i ymgynghoriad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yma:

Cymraeg: https://www.fuw.org.uk/index.php/cy/sfs-consultation-cy 

English: https://www.fuw.org.uk/index.php/en/sfs-consultation

UAC yn cynnal sioe deithiol Cynllun Ffermio Cynaliadwy i aelodau

Mewn ymgais i ymgysylltu ffermwyr Cymru â chynigion terfynol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn cynnal sioe deithiol wybodaeth i aelodau.

Lansiodd Llywodraeth Cymru'r ymgynghoriad allweddol ar ddyfodol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ym mis Rhagfyr 2023 - y modd bydd ffermwyr yng Nghymru’n derbyn cymorth fferm o 2025 ymlaen.

Wrth siarad am yr ymgynghoriad, dywedodd Llywydd UAC Ian Rickman: “Rydym wedi ymgynghori dro ar ôl tro gyda’n haelodau ar sawl fersiwn o’r cynllun hwn ers 2018 ac rydym bellach ar y cam mwyaf allweddol o’i ddatblygiad. Rwy’n annog ein haelodau i wneud pob ymdrech i ymuno â digwyddiad gwybodaeth yn eu sir a chymryd rhan weithredol yn y gwaith o lunio ymateb yr Undeb i’r cynigion.”

Ychwanegodd Mr Rickman, er bod yr Undeb wedi bod yn llwyddiannus yn lobïo am rai newidiadau hanfodol i'r cynllun ers ei sefydlu, gan gynnwys darparu taliad sylfaenol, mae nifer o rwystrau a chwestiynau sylweddol yn parhau ynghylch rhai manylion.

Mewn ymateb i ymgynghoriad cychwynnol Brexit a’n Tir, roedd UAC yn dadlau bod yn rhaid i unrhyw gynllun talu yn y dyfodol sy’n seiliedig ar ganlyniadau amgylcheddol a nwyddau cyhoeddus hefyd ddiogelu ffermydd teuluol, cefnogi cymunedau gwledig a swyddi Cymru a sicrhau bod amaethyddiaeth yn gynaliadwy ac yn werth chweil. Byddai methu â gwneud hynny yn debygol o arwain at niwed difrifol i ffermydd teuluol Cymru a’r rôl y maent yn ei chwarae yn economi, cymdeithas, diwylliant a thirwedd Cymru.

“Mae’r blaenoriaethau polisi hyn yn parhau i fod yn sail i’n gofynion allweddol mewn perthynas â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy – rhaid i’r cynllun hwn fod yn ymarferol i holl ffermwyr Cymru a chyflawni ein cynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol,” meddai Llywydd yr Undeb.

Mae digwyddiadau gwybodaeth yn cael eu cynnal ar y dyddiadau a’r lleoliadau canlynol:

Mawrth, 23 Ionawr, 7.30yh - Ceredigion, Clwb Rygbi Aberaeron

Mercher, 24 Ionawr, 7.30yh - Dinbych & Fflint, Canolfan Genus, Rhuthun

Iau, 25 Ionawr, 7.30yh - Caerfyrddin, Clwb Rygbi Athletic Caerfyrddin

Iau 25 Ionawr, 12yp - Sir Benfro, Neuadd Goffa Treglarbes, Treglarbes

Iau, 25 Ionawr, 7.00yp - Morgannwg, Clwb Golff Grove Ltd, Porthcawl, Morgannwg Ganol

Llun 29 Ionawr, 7yh - Brycheiniog a Maesyfed, Pafiliwn UAC, Maes y Sioe Frenhinol Llanelwedd, Llanfair ym Muallt

Mawrth 30 Ionawr, 7.30yh - Ynys Môn, Canolfan CFfI, Cae Sioe Môn  

Mercher 31 Ionawr, 7.30yh - Caernarfon, Pwllheli Golf Club, Pwllheli

Iau 1 Chwefror, 7yh - Gwent, Marchnad Da Byw Sir Fynwy,  Ffordd y Fenni, Rhaglan

Iau, 1 Chwefror, 10.00yb - Meirionnydd, Fferm Sylfaen, Bermo, Gwynedd

Mawrth 6 Chwefror, 7.30yh - Sir Drefaldwyn, Marchnad Da Byw Y Trallwng

Neges Nadolig gan y Llywydd UAC

Mae’n anodd credu ein bod ni eisoes ym mis olaf 2023 - mae eleni wedi hedfan. Mae’n debyg bod hynny’n rhannol yn ymwneud a mynd yn hŷn, ac mae amser i’w weld yn mynd yn gyflymach, ond hefyd mae wedi bod yn flwyddyn brysur iawn am sawl rheswm.

Wrth inni ddechrau’r flwyddyn, Bil Amaethyddiaeth Cymru oedd ein prif ffocws. Ni ellir diystyru pwysigrwydd cael y ddeddfwriaeth hollbwysig hon yn gywir, y fframwaith y bydd  rhaid i’n cynlluniau ar gyfer cefnogi amaethyddiaeth yma yng Nghymru yn y dyfodol weithredu o fewn. Nid yn unig i bob un ohonom ni sy’n ffermio yng Nghymru heddiw, ond hefyd i genedlaethau o ffermwyr y dyfodol sydd mor hanfodol i’n diwydiant wrth symud ymlaen. 

Bydd y ddeddfwriaeth hollbwysig yma yn darparu’r fframwaith ar gyfer cymorth amaethyddiaeth yng Nghymru yn y dyfodol a dyma’r tro cyntaf i Gymru ddeddfu yn y modd hwn. Rydym wedi dadlau ers cyflwyno’r bil fod absenoldeb hyfywedd economaidd busnesau amaethyddol a ffermydd teuluol o amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy yn bryder sylweddol ac yn un y byddwn yn parhau i fynd i’r afael ag ef. 

Wythnos brecwast ffermdy UAC

Brecwast yw un o brydau pwysicaf y dydd ac mae’n gyfle gwych i siarad a rhannu eich meddyliau cyn dechrau’r diwrnod, gan helpu hefyd i wella iechyd meddwl pobl.

Felly er mwyn hybu’r buddion iechyd a chael cyfle am sgwrs cyn i’r diwrnod ddechrau, unwaith eto, mae timau Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) ar draws y wlad yn cynnal amrywiaeth o frecwastau ffermdy yn ystod yr wythnos rhwng dydd Llun 15 a dydd Sul 21 Ionawr 2024.  Bydd UAC, unwaith eto hefyd yn cynnal brecwast ffermdy yng Nghaerdydd ar ddydd Mawrth, Ionawr 16.

Dywedodd Llywydd UAC Ian Rickman: “Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen yn arw at ein brecwastau ffermdy blynyddol. Gallwn ddechrau’r diwrnod gyda’n teulu, ffrindiau a chymdogion, mewn ffordd gadarnhaol ac iach, a chodi arian ar yr un pryd at ein hachos elusennol, sef Ambiwlans Awyr Cymru. Mae pob un ohonom yn edrych ymlaen at gefnogaeth wych eto. Mae’n deg dweud bod dechrau iach i’r diwrnod nid yn unig yn dda i galon iach, ond hefyd i feddwl iach.”