fas fa-person-walking-dashed-line-arrow-right

JOIN

CONTACT

ACHOS A HANES

Sefydlwyd UAC ym 1955 ymhlith pryderon y byddai buddiannau ffermwyr Cymru bob amser yn dod yn ail i'r rhai oedd yn ffermio mewn ardaloedd âr mwy ffrwythlon yn Lloegr.

Ar yr 8fed o Ragfyr 1955, trefnodd JB Evans, ysgrifennydd sirol yr NFU lleol gyfarfod anffurfiol yn ei swyddfa gyda cadeirydd y sir Ivor T Davies.

Wedi cael llond bol o ffermwyr Cymru yn cael eu hanwybyddu gan y llywodraeth yn Llundain ac agwedd negyddol yr NFU tuag at Gymru, penderfynwyd gwneud rhywbeth am y peth.

Yng nghyfarfod nesaf o bwyllgor yr NFU yn Sir Gaerfyrddin, gofynnwyd i’r rheiny oedd yn teimlo bod ffermwyr Cymru’n cael cam i aros ar ôl i ffurfio Undeb Amaethwyr Cymru.

Arhosodd 12 ffermwyr, a dyna gychwyn ar bethau!

DATHLU 70 MLYNEDD O'R FUW - 1955 I 2025!

Yn anrhydeddu saith degawd o sefyll dros ffermwyr Cymru

Image

Ni yw'r unig gorff sy'n cynrychioli ffermwyr ac yn canolbwyntio yn llwyr ar amaethyddiaeth yng Nghymru, heb unrhyw benderfyniadau allanol neu ddylanwadau ariannol.

Gwaith UAC yw datgan safbwyntiau ffermwyr Cymru yn ddiduedd ac yn rhydd o unrhyw fuddiannau ariannol allanol. Prif neges UAC yw ‘Amaeth Am Byth’ gan ein bod yn gwybod bod amaethyddiaeth yn angor mewn nifer o ffyrdd. Nid yn unig mae ffermydd yn cynhyrchu bwyd, ond maent hefyd yn un o gonglfeini ein heconomïau gwledig.  

Fel Undeb rydym yn gwybod bod ffermydd teuluol yn arbennig yn ganolog i'n heconomi wledig, yn gofalu am ein tirwedd, a’n diwylliant wrth gwrs, ac yn cyfrannu mewn nifer o ffyrdd eraill i les Cymru a'r DU

Image
Rydyn ni'n dathlu 70 mlynedd o'r FUW ledled Cymru!
Ewch i'n tudalen Digwyddiadau i weld ble gallwch ymuno yn y dathliadau
👉 Ewch Yma

Y TIR DRWY'R BLYNYDDOEDD

Y Tir yw papur newydd swyddogol Undeb Amaethwyr Cymru, a gyhoeddir yn arbennig ar gyfer aelodau Undeb Amaethwyr Cymru.

Ers ei rifyn cyntaf ar Ionawr 1af 1957, mae Y Tir wedi darparu newyddion hanfodol, mewnwelediad i'r diwydiant a diweddariadau i gymuned ffermio Cymru.

Gan roi sylw i faterion amaethyddol allweddol, ymgyrchoedd Undeb Amaethwyr Cymru, a straeon aelodau, mae'n parhau i fod yn ffynhonnell hanfodol o wybodaeth. Cymerwch olwg isod ar rifynnau'r gorffennol a gweld sut mae Y Tir wedi datblygu dros y degawdau..

Ionawr 1957 | Y Tir First Edition

Gorffennaf 1959 | A Message from the President

Ionawr 1960 | FUW Grows in Strength

Chwefror 1965 | The Voice of Welsh Farming

Haf 1970 | Subscriptions Go Up

Chwefror 1975 | A Welsh Spring Scene

Awst 1981 | Faces of Welsh Farming

Chwefror 1984 | Farm Finance in Focus

Awst1995 | Tougher Times for Farming?

Medi 2005 | Revealing the Real Concerns

O Archifau'r FUW!

Newyddion Diweddaraf

Cysylltwch â ni

Ffôn : 01970 820820

Ebost : post@fuw.org.uk

Cyfryngau Cymdeithasol

  • fas fa-x
  • fab fa-facebook-f
  • fab fa-instagram
Image