
Amlygu pryderon am seilwaith lladd-dai lleol yng Nghymru
Mae nifer o fudiadau, gan gynnwys Undeb Amaethwyr Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru er mwyn amlygu eu pryderon ynghylch seilwaith lladd-dai lleol yng Nghymru.
Mae’r llythyr i Huw Irranca-Davies AS, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, wedi'i gyd-lofnodi gan 8 sefydliad, gan gynnwys, Y Rhwydwaith Ffermio sy'n Gyfeillgar i Fyd Natur, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Pasture for Life, Plantlife Cymru, Rare Breeds Survival Trust, RSPB Cymru, Sustainable Food Trust ac Undeb Amaethwyr Cymru.
Ym 1990 roedd 58 o ladd-dai cig coch yng Nghymru, dim ond 15 sydd erbyn heddiw, gyda phump o'r rhain yn cael eu galw’n rhai bach. Mae hyd yn oed llai yn gallu darparu'r holl wasanaethau sydd angen ar ffermwyr er mwyn gwerthu'n uniongyrchol i ddefnyddwyr lleol, fel cigydda, pecynnu, prosesu niferoedd bach o anifeiliaid, anifeiliaid amlrywogaeth, cael ardystiad organig, a'r gallu i ddelio ag anifeiliaid corniog, neu'r rhai 'dros dri deg mis' (OTM).
Mae'r mater hwn yn peryglu gallu ffermwyr Cymru i werthu ac yn gwahaniaethu eu cynhyrchion oddi wrth fewnforion a gynhyrchir i safonau amgylcheddol a lles anifeiliaid is.
Amlygodd cydlofnodion y llythyr yn rôl greiddiol da byw sy’n pori wrth reoli a gwella cynefinoedd ledled Cymru, o fawndiroedd i forfeydd heli, glaswelltiroedd sy’n gyfoeth o rywogaethau i rostiroedd, ffriddoedd a 'Choetiroedd Celtaidd'. Mae ategu'r pori hwn gyda'r gallu i werthu'n uniongyrchol i'r defnyddiwr, yn cefnogi cynaliadwyedd economaidd busnesau ffermio trwy werthiannau 'gwerth ychwanegol'.
Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman: “Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi bod yn glir, os yw Llywodraeth Cymru eisiau hyrwyddo ‘economi gylchol’ a sicrhau y gellir marchnata cynnyrch Cymru a gynhyrchir i safonau amgylcheddol uchel fel y cyfryw, yna mae seilwaith lladd-dai yn hanfodol. Nid yw’r ffaith bod mewnforion cig oen Awstralia a Seland Newydd wedi cynyddu 78%, ar yr un pryd â bod ffermwyr yng Nghymru yn cael trafferth gwerthu eu cynnyrch yn lleol, yn gwneud unrhyw synnwyr. Mae sefyllfa o’r fath yn tanseilio’r ymdrechion y mae ffermwyr yn eu gwneud i wella bioamrywiaeth, gwerth maethol, a chynnyrch carbon isel a werthir i ddefnyddwyr Cymru, yn ogystal ag uniondeb statws ‘Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig’ Cig Oen a Chig Eidion Cymru.
"Mae Pwyllgor Da Byw a Ffermio Mynydd Undeb Amaethwyr Cymru yn dymuno gweld y Llywodraeth yn darparu cefnogaeth ychwanegol i ladd-dai yn sgil rheoleiddio cynyddol a beichus, costau rhedeg a phroblemau capasiti milfeddygol. Mae'r llythyr hefyd yn annog y Llywodraeth i sicrhau bod gostyngiad Asiantaeth Safonau Bwyd i ladd-dai bach yn cael ei gynnal, eu bod yn cydnabod rhwydwaith y lladd-dai fel 'seilwaith hanfodol i Gymru', a gweithio gyda'r diwydiant i archwilio atebion fel cynlluniau grant cyfalaf.”
Mae problemau eraill sy'n wynebu lladd-dai yn cynnwys 'sgil-gynhyrchion anifeiliaid' (fel crwyn neu offal) a oedd yn arfer bod yn ffrwd o incwm i ladd-dai ac a gyfrannodd at economi gylchol, ond sydd bellach yn gost ychwanegol oherwydd ffioedd gwaredu.
Ychwanegodd Teleri Fielden, Swyddog Polisi Undeb Amaethwyr Cymru: “Mae ffermwyr yng Nghymru yn falch o’n safonau lles anifeiliaid uchel ac ansawdd bywyd ein hanifeiliaid sy’n pori. Er eu bod allan o reolaeth y ffermwyr, mae teithiau byr i’r lladd-dy yn rhan o hyn, fel y mae mynediad at wasanaethau lladd brys. Fodd bynnag, dim ond un lladd-dy yng Nghymru sydd â’r ‘contract’ i dderbyn adweithyddion TB, gan greu teithiau hir a straen ychwanegol i’r anifail a’r ffermwr sy’n profi achos o TB mewn gwartheg.
"Fel mae'r llythyr yn ei amlinellu, mae'r golled syfrdanol o ladd-dai bach a lleol yng Nghymru, fel ar draws gweddill y DU, yn peri bygythiad i ffermio cynaliadwy, adfer bioamrywiaeth, cynnyrch Cymru, economi gylchol Cymru a lles anifeiliaid. Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn edrych ymlaen at ddod o hyd i atebion i'r mater hwn drwy weithio gyda Llywodraeth Cymru a'r diwydiant ehangach.”
Gellir darllen y llythyr yn llawn drwy ddilyn y ddolen yma: https://fuw.org.uk/en/wales-local-abattoir-network