CONTACT
Undeb Amaethwyr Cymru yn ymateb i ad-drefnu Llywodraeth y DU
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi ymateb i newidiadau i'r tîm Gweinidogol yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA), gan alw ar Lywodraeth y DU i gydweithio’n agos â ffermwyr Cymru yn wyneb tirwedd amaethyddol gynyddol heriol.
Yn dilyn ad-drefnu diweddar gan y Prif Weinidog, Keir Starmer, mae Emma Reynolds AS, cyn Ysgrifennydd Economaidd y Trysorlys, wedi’i phenodi’n Ysgrifennydd Gwladol yn DEFRA, tra bod Angela Eagle AS, cyn Weinidog yn y Swyddfa Gartref, wedi’i phenodi’n Weinidog Gwladol.
Mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol a’r Gweinidog Gwladol newydd, llongyfarchodd Llywydd FUW, Ian Rickman, y ddwy ar eu penodiad, gan fynegi’r awydd cryf i feithrin perthynas gynhyrchiol ac adeiladol.
Dywedodd Ian Rickman: “Hoffem longyfarch y tîm Gweinidogol newydd ar eu penodiad. Edrychwn ymlaen at ymgysylltu â nhw ar yr ystod eang o faterion sy’n wynebu amaethyddiaeth Cymru.
"Ar hyn o bryd, mae ffermwyr Cymru yn wynebu ‘storm berffaith’ o newidiadau a heriau, ac mae’n hanfodol bod polisïau Llywodraeth y DU yn cydnabod yn llawn bwysigrwydd diogelwch bwyd, yr economi wledig, a nodweddion unigryw amaethyddiaeth Cymru.
"Er bod amaethyddiaeth yn fater datganoledig, mae sawl mater allweddol megis trafodaethau masnach, fframweithiau cyllido, a’r newidiadau niweidiol i ryddhad eiddo amaethyddol yn parhau i fod yn nwylo Llywodraeth y DU. Mae’n hanfodol felly bod buddiannau ffermio Cymru yn cael eu cynrychioli mewn trafodaethau polisi ledled y DU, gan fod y penderfyniadau hyn yn effeithio’n uniongyrchol ar gynaliadwyedd a chystadleurwydd ein diwydiant.”
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi galw am gyfarfod â’r tîm Gweinidogol newydd i sicrhau bod pryderon ffermydd Cymru yn cael eu cynrychioli’n deg mewn datblygiad polisïau.
Yn ogystal, mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi ysgrifennu at Aelod Seneddol Gogledd Caerdydd, Anna McMorrin, yr Is-ysgrifennydd Seneddol newydd yn Swyddfa Cymru. Gan ei llongyfarch ar ei phenodiad a phwysleisio’r angen am gydweithio agos, dywedodd Ian Rickman: “Hoffem hefyd estyn ein llongyfarchiadau i Anna McMorrin yn ei rôl newydd. Edrychwn ymlaen at gydweithio i sicrhau bod anghenion ffermydd teuluol Cymru a’n cymunedau gwledig yn ganolog i bolisi Llywodraeth y DU.
"Hoffem hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r Fonesig Nia Griffith am ei chydweithrediad yn ystod ei chyfnod yn y swydd. Wrth i Anna ddechrau ei gwaith, rydym yn ei hannog i gydnabod y rôl hollbwysig ac unigryw y mae cefn gwlad Cymru a ffermio yn ei chwarae yn ein heconomi, ein hamgylchedd a’n diwylliant.”

