CONTACT
Undeb Amaethwyr Cymru yn cyhoeddi Maniffesto Etholiad y Senedd 2026
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi cyhoeddi ei maniffesto ar gyfer Etholiad y Senedd 2026, ‘Tir – Teulu – Treftadaeth’, gan ddatgan ei blaenoriaethau polisi allweddol ar gyfer sector amaethyddol Cymru wrth i’r etholiad nesáu.
Lansiwyd y ddogfen yn Sioe Brynbuga, Sir Fynwy, ar ddydd Sadwrn 13 Medi. Mae’r maniffesto’n galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i ddarparu sefydlogrwydd, cynaliadwyedd a chefnogaeth hirdymor i ffermydd teuluol, a ddisgrifir gan yr Undeb fel sylfaen economi, diwylliant a thirwedd y Gymru wledig.
Craidd y maniffesto yw’r galwad am gydweithio parhaus i sicrhau bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, fydd yn cael ei gyflwyno ar 1 Ionawr 2026, yn deg, yn realistig ac yn addas i’r sector. Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn galw am gynnydd i’r gyllideb y haen gyffredinol bresennol gan alw am gyllideb fydd yn adlewyrchu chwyddiant er mwyn rhoi sicrwydd ariannol. Mae’r Undeb hefyd yn gofyn am sefydlu fframwaith pum mlynedd i alluogi ffermwyr i wneud penderfyniadau busnes gyda elfen o hyder.
Mae’r maniffesto hefyd yn pwysleisio’r angen i gryfhau system fwyd Cymru drwy feithrin cadwyni cyflenwi byrrach, buddsoddi’n hirdymor mewn lladd-dai bach, a sicrhau cefnogaeth gadarn i gynnyrch Cymreig. Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn galw am gamau deddfwriaethol clir i wella diogelwch bwyd a sicrhau bod cynhyrchu, prosesu a chaffael cyhoeddus yn gweithio o blaid cynnyrch lleol.
Mae cefnogaeth i ffermwyr ifanc a newydd-ddyfodiaid hefyd yn ganolog i’r ddogfen, gan adeiladu ar argymhellion y ddogfen "Mandad i Ffermwyr y Dyfodol" gyhoeddwyd gan yr Undeb yn y Sioe Fawr eleni. Ymhlith y blaenoriaethau eraill y mae Undeb Amaethwyr Cymru yn amlygu mae'r angen i fynd i’r afael â biwrocratiaeth ddiangen a moderneiddio prosesau gweinyddol i wneud bywyd ffermwyr yn haws.
Ar faterion iechyd anifeiliaid, mae’r maniffesto’n galw am ddull cyfannol, dan arweiniad gwyddoniaeth, i fynd i’r afael â TB mewn gwartheg – sy’n cynnwys ystyried cyfraniad bywyd gwyllt yn ogystal â da byw i’r aflwydd. Mae hefyd yn galw am adolygiad o reoliadau ansawdd dŵr, gan ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar risg er mwyn sicrhau bod y polisïau’n gymesur, yn fforddiadwy ac yn effeithiol.
Mae’r maniffesto’n pwysleisio’r angen am bolisïau defnydd tir sy’n cydbwyso nodau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol, gan sicrhau bod ffermwyr yn cael eu gwobrwyo’n deg am eu cyfraniad at weithredu ar yr hinsawdd a bioamrywiaeth.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru hefyd yn galw am gryfhau cymunedau gwledig a chefnogaeth ymarferol i’r iaith Gymraeg fel rhan annatod o fywyd a diwylliant ffermio. Mae’r ddogfen hefyd yn tynnu sylw at y pwysigrwydd o wella bioddiogelwch Cymru drwy gydweithio agosach â Llywodraeth y DU a rhanddeiliaid i fynd i’r afael â mewnforion cig anghyfreithlon a bygythiadau iechyd eraill.
Dywedodd Ian Rickman, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru:
“Wrth i ni nodi 70 mlynedd o fod yn gefn i ffermydd teuluol Cymru, rydym yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i barhau gyda’r cynnydd diweddar mewn ymgysylltu adeiladol fu’n rhan allweddol o ddatblygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Ffermydd teuluol yw asgwrn cefn ein heconomi, ein cymunedau a’n diwylliant. Mae’r maniffesto hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i sicrhau dyfodol cryf a chynaliadwy i’r sector.
Edrychwn ymlaen at ymgysylltu ag ymgeiswyr yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad, a gweithio gyda’r Llywodraeth nesaf er lles ffermydd a chymunedau gwledig ledled Cymru.”
Mae'r maniffesto ar gael i'w ddarllen yn llawn yma (sgroliwch lawr ar gyfer y fersiwn Cymraeg).

