fas fa-person-walking-dashed-line-arrow-right

JOIN

CONTACT

Undeb Amaethwyr Cymru'n nodi'r saith deg yn y Senedd

Undeb Amaethwyr Cymru'n nodi'r saith deg yn y Senedd

Dathlodd Undeb Amaethwyr Cymru ei ben-blwydd yn saith deg oed gyda derbyniad arbennig a gynhaliwyd yn y Senedd ddydd Mawrth, 2il Rhagfyr 2025. 

Daeth y digwyddiad â swyddogion, gwleidyddion, ffermwyr a rhanddeiliaid ynghyd i ddathlu ac edrych yn ôl ar saith degawd o gefnogaeth yr Undeb i ffermydd teuluol Cymru.

Roedd y derbyniad yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau a gynhaliwyd drwy’r flwyddyn er mwyn nodi saith degawd o waith diflino’r Undeb dros amaethyddiaeth Cymru. Cafodd digwyddiadau blaenorol eu cynnal yn Sioe Frenhinol Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a sioeau sirol ym mhob rhan o’r wlad. 

Cafodd y mynychwyr gyfle i ail-fyw hanes yr Undeb, ei llwyddiannau a’r newidiadau sylweddol sydd wedi siapio amaethyddiaeth Cymru dros y 70 mlynedd diwethaf.

Cadeiriwyd y digwyddiad gan Ann Beynon OBE, Cadeirydd Gwasanaethau Yswiriant FUW, gan dynnu sylw at ymrwymiad cadarn yr Undeb i ddiogelu buddiannau ffermydd teuluol. Yn ei araith, amlygodd Ian Rickman, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, y newidiadau gwleidyddol, cymdeithasol ac amaethyddol y saith degawd diwethaf gan bwysleisio for yr Undeb wedi hyrwyddo anghenion ffermydd teuluol a chymunedau gwledig trwy’r blynyddoedd ers 1955.

Noddwyd y digwyddiad gan Elin Jones AS, Llywydd y Senedd ac Aelod o’r Senedd dros Geredigion.  Talodd Elin deyrnged i’w hewythr, J.B. Evans, ffigwr allweddol yn hanes sefydlu’r Undeb yn Sir Gaerfyrddin ym 1955 aeth yn ei flaen i wasanaethu fel Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf yr Undeb. Cafwyd sawl atgof hefyd gan Elin ynghylch ei pherthynas â’r Undeb yn ystod ei chyfnod fel Gweinidog Materion Gwledig rhwng 2007 a 2011.

Fel rhan o’r derbyniad, cafwyd amrywiaeth o ddogfennau hanesyddol eu harddangos gan roi cipolwg unigryw ar sefydlu’r Undeb, ei cherrig milltir allweddol, ac esblygiad amaethyddiaeth yng Nghymru dros y 70 mlynedd diwethaf.

Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman:

“Am 70 mlynedd, mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi sefyll law yn llaw â ffermydd teuluol ym mhob rhan o Gymru. Ers y dyddiau cynnar yn 1955, mae’r Undeb wedi tyfu o ran cryfder a dylanwad, gan hyrwyddo anghenion ein ffermydd teuluol a’n cymunedau gwledig.

Mae’r dathliadau eleni yn gyfle i edrych yn ôl ar ein hanes balch, ond hefyd yn gyfle i bwysleisio ein hymrwymiad i gefnogi amaethyddiaeth Cymru a sicrhau dyfodol cynaliadwy i genedlaethau’r dyfodol.”

Ychwanegodd Ann Beynon OBE, Cadeirydd Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf:

“Rydym yn ddiolchgar iawn i Elin Jones AS am noddi’r digwyddiad hwn, ac i bawb a ymunodd â ni i ddathlu’r garreg filltir hon.

Mae’n arbennig o addas cynnal y digwyddiad yn y Senedd – nid yn unig fel tystiolaeth on gwaith lobïo gwleidyddol ar ran ffermydd teuluol, ond hefyd gan fod Caerdydd, ein prifddinas, hefyd yn dathlu 70 mlynedd ers dod yn brifddinas Cymru.

Fel Cadeirydd Gwasanaethau Yswiriant FUW, rwy’n falch o helpu arwain busnes sydd wedi tyfu gyda’r Undeb dros y degawdau, gan gefnogi ffermwyr, teuluoedd a chymunedau trwy gyfnodau o newid, heriau, a chyfleoedd newydd i gefn gwlad Cymru.”

Newyddion Diweddaraf

Cysylltwch â ni

Ffôn : 01970 820820

Ebost : post@fuw.org.uk

Cyfryngau Cymdeithasol

  • fas fa-x
  • fab fa-facebook-f
  • fab fa-instagram
Image