fas fa-person-walking-dashed-line-arrow-right

JOIN

CONTACT

Sulwyn Thomas (chwith), Meurig Voyle, Emyr Jones a Brian Walters

Cofio Sulwyn

Gyda thristwch mawr daeth y newyddion ddechrau mis Rhagfyr 2025 am farwolaeth Sulwyn Thomas.

Dros y degawdau, yn ei rôl fel newyddiadurwr a chyflwynydd, daeth Sulwyn yn gyfaill agos i Undeb Amaethwyr Cymru, gan gyflwyno amrywiaeth o raglenni megis Stodin Sulwyn, rhaglenni o Sioe Llanelwedd, ac fel cyflwynydd Ffermio rhwng 1997 a 2004.

Fel cyflwynyd Stondin Sulwyn ar Radio Cymru, manylodd ar nifer fawr o’r heriau a newidiadau wynebai cefn gwlad Cymru, gan gynnwys sylw cyson i argyfwng Clwy’ Traed a'r Genau ddechrau’r 2000au. Daeth yn ffrind agos i sawl aelod a swyddog o’r Undeb, gan gynnwys un o selogion o’r Undeb, a’i gyd-frodor o Sir Gaerfyrddin, y diweddar Meurig Voyle. 

Yn 2005, cafodd ei anrhydeddu gan yr Undeb am ei wasanaeth i gymunedau gwledig Cymru gan ennill gwobr allanol Undeb Amaethwyr Cymru am ei gyfraniad i amaethyddiaeth, gyda’r Undeb yn Sir Gaerfyrddin hefyd yn cynnal cinio i’w anrhydeddu wedi’i ymddeoliad.

Wrth dalu teyrnged, dywedodd Brian Walters, Aelod Oes Undeb Amaethwyr Cymru:

“Ar hyd ei yrfa bu Sulwyn yn gyfaill agos i Undeb Amaethwyr Cymru, ac yr Undeb iddo yntau.  Drwy ei raglenni a’i gyflwyno daeth ag heriau, newidiadau a chymeriadau'r clos fferm a chae'r Sioe i gartrefi ledled Cymru. Estynnwn ein cydymdeimladau dwysaf i’w deulu a'i ffrindiau ar eu colled, gan ddiolch iddo am ei gefnogaeth a’i gwmni dros y blynyddoedd.”

Newyddion Diweddaraf

Cysylltwch â ni

Ffôn : 01970 820820

Ebost : post@fuw.org.uk

Cyfryngau Cymdeithasol

  • fas fa-x
  • fab fa-facebook-f
  • fab fa-instagram
Image