fas fa-person-walking-dashed-line-arrow-right

JOIN

CONTACT

Cyflwyno Gwobr Cyflawniad Oes Undeb Amaethwyr Cymru i Terry Bayliss

Cyflwyno Gwobr Cyflawniad Oes Undeb Amaethwyr Cymru i Terry Bayliss

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi cyflwyno Gwobr Cyflawniad Oes Undeb Amaethwyr Cymru 2025 i Terry Bayliss, gan gydnabod ei gyfraniad maith i sector defaid y DU a mentrau prosesu dan arweiniad ffermwyr.

Cyfrannodd Terry yn sylweddol i’r diwydiant ym 1998, pan sefydlodd ef a phedwar ffermwr arall Farmers Ferry mewn ymateb i elw gwael cynhyrchwyr defaid y DU. Eu nod oedd creu llwybr mwy effeithlon ar gyfer allforio ŵyn yn uniongyrchol o ffermydd i farchnadoedd cyfandirol. Erbyn ei ail flwyddyn, roedd Farmers Ferry yn allforio tua 1.2 miliwn o ŵyn, gan ddatblygu’n gyflym o fewn y sector. Mae Terry wedi gwasanaethu fel Cyfarwyddwr a Chadeirydd y Cwmni ers 27 mlynedd.

Arweiniodd llwyddiant cynnar Farmers Ferry at ffurfio Farmers First, a ddenodd dros 2,750 o ffermwyr i fuddsoddi, ac yn ddiweddarach at greu Farmers Fresh yn 2000, yn gweithredu o ladd-dy yn Kenilworth. Darparodd yr ehangiad hwn fynediad dan reolaeth ffermwyr i farchnadoedd Ewropeaidd ar gyfer carcasau ŵyn a helpodd i gynyddu cystadleuaeth o fewn marchnad y DU.

Yn 2018, prynodd y cwmni ladd-dy cig Fairfield yn Wrecsam, gan greu Farmers Fresh Wales. Dros y blynyddoedd, mae'r busnes wedi llywio heriau mawr yn y sector, gan gynnwys clwy'r traed a'r genau, ansicrwydd yn gysylltiedig â Brexit a phandemig Covid-19, gan gynnal masnach yn yr UE a datblygu marchnadoedd newydd yn y DU, Canada a'r Dwyrain Canol.

Nid dyma’r tro cyntaf i gyfraniad Terry gael ei gydnabod.  Derbyniodd Gwobr Goffa John Gittins yn 2021 a Thlws Daucanmlwyddiant Clwb Royal Smithfield yn 2019, a rhoddwyd enwebiad gan Undeb Amaethwyr Cymru i’r ddwy wobr yma.

Wrth gyflwyno Gwobr Cyflawniad Oes Undeb Amaethwyr Cymru i Terry Bayliss, dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman:

“Mae Terry Bayliss wedi chwarae rhan sylweddol yn natblygiad strwythurau prosesu a marchnata a reolir gan ffermwyr dros nifer o flynyddoedd. O ddechreuad digon cyffredin i fod yn ddylanwad mawr ar sector prosesu’r DU, mae cyfraniad Terry wedi bod yn nodedig iawn.

Mae ei ymrwymiad i gefnogi buddiannau cynhyrchwyr, a'i rôl wrth gryfhau mynediad i'r farchnad ar gyfer cig oen, wedi gwneud cyfraniad sylweddol i'r sector ac i ffermwyr Cymru. Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn hynod o fach o fedru cydnabod ei waith gyda'r wobr hon.”

Newyddion Diweddaraf

Cysylltwch â ni

Ffôn : 01970 820820

Ebost : post@fuw.org.uk

Cyfryngau Cymdeithasol

  • fas fa-x
  • fab fa-facebook-f
  • fab fa-instagram
Image