Pryder y Parc: Undeb Amaethwyr Cymru'n ymateb i ymgynghoriad
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi amlinellu pryderon unwaith eto ynglŷn â’r cynigion i sefydlu Parc Cenedlaethol newydd yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, gan dynnu sylw at oblygiadau posib i ffermwyr, cymunedau gwledig a gwasanaethau cyhoeddus.
Yn dilyn trafodaethau helaeth ag aelodau sy'n byw ac yn gweithio o fewn ac o amgylch y ffin arfaethedig, mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi cyflwyno ymateb i ymgynghoriad diweddaraf Cyfoeth Naturiol Cymru, gan amlinellu nifer o bryderon ynglŷn â’r Parc Cenedlaethol arfaethedig.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn parhau i bryderu ynglŷn â chyllid a llywodraethiant hirdymor Awdurdod Parc Cenedlaethol newydd. Er bod cyllid wedi'i gynnig drwy grantiau Llywodraeth Cymru ac ardoll arfaethedig ar awdurdod lleol, mae aelodau'n parhau i fod yn ansicr a fyddai hyn yn darparu digon o sefydlogrwydd dros amser, yn enwedig yng nghyd-destun pwysau parhaol ar gyllid cyhoeddus a chyllidebau Awdurdodau Parciau Cenedlaethol presennol.
Mae'r Undeb hefyd wedi tynnu sylw at y straen y gallai cyfrifoldebau ariannol ychwanegol roi ar awdurdodau lleol ac, yn eu tro, ar wasanaethau y mae cymunedau gwledig yn dibynnu arnynt.
Mae aelodau Undeb Amaethwyr Cymru hefyd wedi mynegi amheuon ynglŷn ag effaith posibl dynodiad Parc Cenedlaethol ar gynllunio a datblygu. Mae profiad o ardaloedd dynodedig presennol yn awgrymu y gall prosesau datblygu fod yn fwy cymhleth a chymryd mwy o amser, gyda goblygiadau ar seilwaith fferm hanfodol, arallgyfeirio a chydymffurfio â rheoliadau cyfredol.
Mae'r Undeb hefyd wedi nodi pryderon y gallai cyfyngiadau ar ddatblygiadau ynni adnewyddadwy ar ffermydd o fewn rhai Parciau Cenedlaethol gyfyngu ar gyfleoedd i wella effeithlonrwydd ffermydd a chyfrannu at amcanion amgylcheddol ehangach.
Mae pryderon hefyd wedi’u codi ynglŷn ag effaith bosib dynodiad Parc Cenedlaethol ar y farchnad tai yn lleol, yn enwedig mewn cysylltiad â fforddiadwyedd i deuluoedd lleol, ffermwyr ifanc a busnesau fferm aml-genhedlaeth.
Er yn cydnabod y gwerth economaidd a ddaw yn sgil twristiaeth, mae aelodau Undeb Amaethwyr Cymru yn pwysleisio’r pryderon ynghylch y pwysau ar seilwaith gwledig mewn ardaloedd dynodedig, gan gynnwys parcio, diogelwch ffyrdd, gwasanaethau brys a throseddau gwledig.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn mynnu y gellid cyflawni llawer o'r amcanion amgylcheddol a thirwedd sy'n gysylltiedig â dynodiad Parc Cenedlaethol drwy ddulliau partneriaeth a mecanweithiau polisi presennol.
Dywedodd Tim Faire, Cadeirydd Pwyllgor Defnydd Tir a Newid Hinsawdd Undeb Amaethwyr Cymru:
“Mae cwestiynau’n parhau ynghylch sut y bydd Parc Cenedlaethol newydd yn cael ei ariannu a’i reoli yn y tymor hir, a’r cwestiwn ynghylch goblygiadau ymarferol i fusnesau ffermio a chymunedau lleol yn parhau heb ei ateb.
Mae llawer o ardaloedd gwledig eisoes yn wynebu pwysau ar seilwaith a chyfleusterau lleol, a allai waethygu oherwydd gofynion newydd a ddaw yn sgil dynodiad Parc Cenedlaethol. Gallai rheoliadau a chyfyngiadau pellach hefyd rwystro datblygiad ac arallgyfeirio ffermydd.
Er ein bod yn cydnabod pwysigrwydd gwarchod ein tirweddau, credwn fod y dynodiad Tirwedd Cenedlaethol presennol eisoes yn darparu sylfaen gref. Mae'n debygol y gall amcanion rheoli tir yn y dyfodol gael eu cyflawni'n fwy effeithiol trwy ymgysylltu lleol a mecanweithiau polisi presennol - heb gyflwyno haen arall o fiwrocratiaeth costus a chymhleth.”
Mae'r Undeb yn galw ar Gyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru i asesu’r effeithiau economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol posib yn llawn cyn gwneud unrhyw benderfyniadau pellach ynglŷn â'r cynnig.

