Undeb Amaethwyr Cymru yn pwysleisio’r angen am gyllid digonol ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi pwysleisio’r angen am gyllid teg a digonol ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS), wrth symud o’r broses dylunio i’r cyfnod cyflawni.
Mewn cyfarfod ag arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, a llefarydd Materion Gwledig y blaid, Llyr Gruffydd AS, pwysleisiodd yr Undeb ei phrif alwad o’i maniffesto Senedd 2026 am yr angen i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy gael ei gefnogi gan fframwaith ariannol priodol sy’n rhoi sicrwydd i ffermwyr Cymru yn y tymor canolig a’r tymor hir.
Yn gynharach yr wythnos hon, croesawodd Is-lywydd Rhanbarthol Undeb Amaethwyr Cymru, Alun Owen â’i wraig Marian a’r mab Siôn, gynrychiolwyr Plaid Cymru i’w fferm, Gallt-y-Celyn ym Mhentrefoelas. Mae Gallt-y-Celyn yn fferm eidion ac oen ucheldirol ar stâd y Foelas yn Uwchaled, rhwng 600 a 800 troedfedd uwchlaw lefel y môr.
Yn ystod taith o amgylch y fferm, trafodwyd nifer o’r heriau sy’n wynebu amaethyddiaeth Cymru, gan gynnwys rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol (‘NVZ’) Llywodraeth Cymru, ynghyd â’r heriau ymarferol a ddaw o weithredu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Pwysleisiodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman, a Tim Faire, Cadeirydd Pwyllgor Defnydd Tir a Newid Hinsawdd yr Undeb, yr angen brys am setliad ariannu teg. Yn benodol, bu iddynt alw am gynnal cyfraddau talu blynyddol o leiaf yn unol â chwyddiant ar gyfer ffermydd sy’n ymuno â’r Cynllun o 2026 ymlaen.
Yn yr hydref, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru'r dystiolaeth sy’n sail i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Er bod gwelliannau wedi’u gwneud yn dilyn ymgysylltu a lobïo helaeth gan y diwydiant, mae’r asesiadau effaith yn dal i dynnu sylw at ostyngiad posibl mewn unedau da byw ac incwm busnesau fferm – gan danlinellu’r angen clir am gyllid ychwanegol.
Fel rhan o’u Maniffesto Senedd 2026, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i ddarparu cyllid digonol ar gyfer y Cynllun, gan alw am gyflwyno fframwaith ariannol aml-flwyddyn sy’n rhoi sicrwydd economaidd i ffermydd Cymru.
Yn dilyn yr ymweliad, dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman:
“Wrth i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy symud o’r broses ddylunio i’r cyfnod gweithredol , mae’n hanfodol bod Llywodraeth bresennol Cymru, a llywodraethau’r dyfodol, yn darparu cyllideb a fframwaith ariannol priodol. Mae angen sicrwydd a chefnogaeth ar ffermwyr Cymru er mwyn i’r Cynllun lwyddo a chyflawni’r bwriad ar gyfer yr amgylchedd, cymunedau gwledig a busnesau fferm ledled Cymru.
“Wrth i etholiad allweddol y Senedd ym mis Mai agosáu, byddwn yn parhau i gwrdd a thrafod gyda gwleidyddion o bob plaid er mwyn sicrhau dyfodol lle mae cynhyrchu bwyd a ffermydd teuluol Cymru wrth wraidd polisi amaeth y llywodraeth.”
Ychwanegodd Is-lywydd Rhanbarthol Undeb Amaethwyr Cymru, Alun Owen:
“Roedd hi’n bleser croesawu cynrychiolwyr Plaid Cymru i’n fferm i drafod yr heriau a’r newidiadau sylweddol sy’n wynebu amaethyddiaeth Cymru. Mae’n hollbwysig bod gwleidyddion yn deall y pwysau mae ffermydd yn wynebu, o reoliadau amgylcheddol i weithredu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
“Pwysleisiais hefyd yr angen hanfodol am fframwaith ariannol pum mlynedd ar gyfer y Cynllun, er mwyn darparu sicrwydd economaidd tymor canolig i fusnesau ffermio Cymru. Heb sicrwydd o gyllid parhaus, bydd yn anodd i ffermwyr fuddsoddi, addasu a pharhau i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy.”

