fas fa-person-walking-dashed-line-arrow-right

JOIN

CONTACT

Cyhoeddi enillwyr cystadleuaeth calendr 2026

Cyhoeddi enillwyr cystadleuaeth calendr 2026

Diolch i ffotograffwyr brwd ar draws Cymru, cyrhaeddodd toreth o ddelweddau bendigedig, pob un yn cyfleu bywyd gwledig, pencadlys Undeb Amaethwyr Cymru dros y misoedd diwethaf. Ar ôl didoli a beirniadu ceisiadau ar gyfer calendr 2026, y ddelwedd hyfryd o lo yn ymlacio mewn glaswellt hir sy’n cipio’r brif wobr.

Mae Gwenllian Evans o Drefenter, Ceredigion wrth ei bodd mae ei llun buddugol hi fydd yn ymddangos ar glawr calendr Undeb Amaethwyr Cymru 2026 ac yn hapus iawn i dderbyn y brif wobr o £250. 

Bydd delweddau’r unarddeg cystadleuydd buddugol arall sy’n ymddangos yn y calendr, sef Adrienne Thorpe, Elain Gwilym, Berwyn Jones, Tracey Evans, Chris Morgan, Greta Hughes, Colin & Janet Evans, Bethan Evans, Eleri Messham, Siân Morris ac Lorenza-Lee Lockyer yn derbyn copi dwyieithog o’r calendr a het beanie Undeb Amaethwyr Cymru. 

Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru Ian Rickman: “Mae’r gystadleuaeth wedi bod yn hynod boblogaidd eleni eto ac roeddwn wrth fy modd yn edrych trwy dros 100 o ddelweddau gwledig bendigedig. Roedd y safon yn uchel ac nid oedd yn dasg rhwydd i’w dewis i ddeuddeg.

“Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr a diolch am gymryd yr amser i dynnu’r lluniau hyn, sy’n portreadu ffermio a’n cefn gwlad bendigedig mewn ffordd mor fedrus.” 

Cyflwynwyd y brif wobr o £250 i Gwenllian yn y Ffair Aeaf eleni gan Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman.

Newyddion Diweddaraf

Cysylltwch â ni

Ffôn : 01970 820820

Ebost : post@fuw.org.uk

Cyfryngau Cymdeithasol

  • fas fa-x
  • fab fa-facebook-f
  • fab fa-instagram
Image