Croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar newidiadau i'r dreth etifeddiant
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi heddiw y bydd y cap arfaethedig ar Ryddhad Eiddo Amaethyddol (APR) a Rhyddhad Eiddo Busnes (BPR) yn cael ei godi o £1 miliwn i £2.5 miliwn y pen, gyda rhyddhad o 50% i'w gymhwyso i asedau uwchlaw'r terfyn hwn.
Yn dilyn y cyhoeddiad yn ystod Cyllideb y DU y mis diwethaf, bydd unrhyw ryddhadau yn drosglwyddadwy rhwng cwpwl priod, gyda'r newidiadau hyn yn arwain at lwfans o £5 miliwn i gyplau priod mewn teulu ffermio.
Gan groesawu’r cyhoeddiad, dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman:
“Bydd y newyddion heddiw yn anrheg Nadolig i’w groesawu i nifer ffermwyr ledled Cymru sydd wedi dioddef misoedd o ansicrwydd a phryder yn sgil newidiadau Llywodraeth y DU i’r Dreth Etifeddiant.
“Achosodd cynigion cychwynnol y Llywodraeth ar gyfer diwygio’r Dreth Etifeddiant bryder sylweddol i deuluoedd ffermio, gan danseilio hyder ar draws y sector a’r economi wledig ehangach. Roedd nifer o ffermwyr yn ofni am olyniaeth hirdymor eu busnesau a dyfodol eu teuluoedd ar y fferm”.
“Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi galw’n gyson am ddull tecach a mwy cymesur o ddiwygio’r Dreth Etifeddiant, ac wedi lobïo’n ddwys drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf er mwyn annog Llywodraeth y DU i newid cwrs. Mae’r galwadau hyn wedi’u hatgyfnerthu gan bleidiau’r wrthblaid, nifer o bwyllgorau seneddol trawsbleidiol, a gan nifer cynyddol o Aelodau Seneddol y Llywodraeth ei hun.
“Ar adeg o ansicrwydd ac ansefydlogrwydd sylweddol i ffermwyr Cymru, mae’r newidiadau yma i’r trothwy treth gan Lywodraeth y DU yn cynrychioli newid oedd wirioneddol ei angen.
“Er bod Undeb Amaethwyr Cymru yn parhau i fod yn rhwystredig ynghylch y modd y mae Llywodraeth y DU wedi ymdrin â’r diwygiadau hyn, hoffwn ddiolch i Weinidogion Swyddfa Cymru am eu parodrwydd i ymgysylltu â ni ar y mater hwn hyd yma.”

