Wythnos Frecwast Undeb Amaethwyr Cymru’n codi dros £21,000
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi dathlu Wythnos Brecwast Fferm lwyddiannus arall, gyda 23 o frecwastau wedi’u cynnal ledled Cymru fis Ionawr gan godi dros £21,000 ar gyfer elusennau ac achosion lleol, gan gynnwys dros £17,000 i elusen Ambiwlans Awyr Cymru.
Unwaith eto, daeth ein wythnos brecwast fferm â aelodau Undeb Amaethwyr Cymru, gwleidyddion a rhanddeiliaid ynghyd i fwynhau brecwast blasus tra’n rhoi’r cyfle i drafod materion amaethyddol allweddol gyda staff a swyddogion yr Undeb tra’n codi arian at achosion elusennol.
Cynhaliwyd digwyddiadau ledled Cymru, gan ddangos y gorau o gynnyrch Cymreig. Mwynhaodd y rhai oedd yn bresennol facwn, selsig, wyau a chynnyrch llaeth o gynhyrchwyr lleol gyda’r cynnyrch wedi ei ddarparu trwy garedigrwydd nifer o fusnesau o bob cwr o’r wlad. Mae haelioni o’r fath yn tynnu sylw at gryfder a chynaliadwyedd sector bwyd a ffermio Cymru.
Fel rhan o’r wythnos, cynhaliwyd brecwast Seneddol yn Eglwys Norwyaidd Bae Caerdydd. Noddwyd y digwyddiad gan Samuel Kurtz AS, ac fe’i mynychwyd gan nifer o Aelodau’r Senedd a rhanddeiliaid allweddol. Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS, oedd y prif anerchiad gyda Llywydd yr Undeb yn cloi’r digwyddiad. Heb amheuaeth fe lwyddodd y brecwast yng Nghaerdydd i roi llwyfan pwysig i dynnu sylw at brif ofynion maniffesto’r Undeb cyn etholiad Senedd fis Mai.
Wrth ddathlu llwyddiant yr wythnos, dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman:
“Mae ein Wythnos Brecwast Fferm yn parhau i fod yn llwyddiant ysgubol a hoffwn ddiolch i’n staff, aelodau, gwirfoddolwyr a chefnogwyr am y cymorth gafwyd wrth gyflwyno digwyddiadau mor fywiog ym mhob rhan o Gymru.
“Hoffwn hefyd ddiolch i’r busnesau lleol hynny a gyflwynodd gynnyrch tuag at y brecwastau. Diolch i’w cefnogaeth hael ‘rydym wedi codi swm anhygoel o arian, gan gynnwys dros £17,000 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru, elusen sy’n darparu gwasanaeth achub bywyd hanfodol i gymunedau ledled Cymru.
“Mae hefyd yn bwysig nodi fod yr wythnos yn gwneud llawer mwy na dim ond codi arian – mae’n dod â phobl ynghyd, yn arddangos y gorau o fwyd Cymreig ac yn darparu cyfle gwerthfawr i dynnu sylw at y materion a’r blaenoriaethau allweddol sy’n wynebu teuluoedd ffermio Cymru.”
Dywedodd Dr Sue Barnes, Prif Weithredwr Elusen Ambiwlans Awyr Cymru:
“Rydym yn hynod ddiolchgar i Undeb Amaethwyr Cymru a’i haelodau am godi swm sylweddol o arian unwaith eto a fydd o fudd, nid yn unig i’n helusen ni, ond hefyd i achosion lleol pwysig eraill.
“Dyma’r drydedd Wythnos Brecwast Fferm i ni fod yn ffodus o elwa ohoni yn dilyn penderfyniad Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman, i’n enwebu fel ei elusen ar gyfer 2023–26.
“Eleni, byddwn yn nodi ein pen-blwydd yn 25 oed. Dros y chwarter canrif diwethaf yr ydym wedi cefnogi cymunedau amaethyddol ledled Cymru a byddwn yn parhau i wneud hynny – nid yn unig ar gyfer y presennol, ond ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol hefyd. Mae ein hymrwymiad a’n cysylltiad â chefn gwlad Cymru yn gryf iawn.
“Rydym yn diolch am y cyfraniad amhrisiadwy y mae’r gymuned ffermio yn ei wneud i gymdeithas Cymru, yn ogystal a diolch iddynt am y cynnyrch o ansawdd uchel sy’n cael ei fwynhau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.”

