Cefnogi wythnos ‘Gwyliwch eich Pen’
Mae’r wythnos hon yn nodi ymgyrch ‘Gwyliwch eich Pen’ y Sefydliad Diogelwch Ffermydd – ymgyrch hollbwysig sy’n amlygu’r heriau iechyd meddwl ac emosiynol sy’n wynebu ffermwyr ledled Cymru a’r DU.
Mae ffermwyr Cymru yn enwog am y gofal a roddant i’w da byw, eu cnydau a’u peiriannau. Ond mae’r wythnos hon yn ein hatgoffa’n glir fod angen i ni roi’r un gofal i ni ein hunain. Mae rhedeg fferm yn heriol; ond mae gofalu am y person y tu ôl i’r fferm yr un mor hanfodol.
Amlygwyd graddfa’r her yn ddiweddar gan ymchwil newydd gan Sefydliad Diogelwch Ffermydd (Yellow Wellies), sy’n dangos bod lles meddyliol ffermwyr y DU wedi gostwng i’w lefel isaf mewn pedair blynedd. Yn ogystal, mae ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod 47 o hunanladdiadau wedi’u cofrestru yng Nghymru a Lloegr ymhlith pobl sy’n gweithio mewn ffermio ac amaethyddiaeth yn ystod 2024 yn unig.
Datgelodd yr ymchwil fod lles meddyliol ffermwyr dros 40 oed ar ei lefel isaf ers pedair blynedd, gyda’r rhai 61 oed a throsodd yn profi’r dirywiad mwyaf. Mae hyn yn peri pryder arbennig, gan fod y grŵp oedran hwn wedi cael ei ystyried fel un o’r rhai mwyaf gwydn. Yn gyffredinol, mae lles ffermwyr ledled y DU yn parhau i syrthio y tu ôl i les y boblogaeth ehangach.
Gall y ffactorau sy’n effeithio ar iechyd meddwl o fewn y gymuned ffermio amrywio o fferm i fferm. Fodd bynnag, mae natur amaethyddiaeth yn aml yn golygu bod ffermwyr yn fwy agored i bwysau penodol: oriau gwaith hir, unigrwydd, straen ariannol, tywydd eithafol, a phwysau cynyddol o bolisïau a rheoliadau. Mae’r rhain i gyd yn gallu cael effaith sylweddol dros amser.
Wrth i’r sector wynebu cymaint o newid ac ansicrwydd, mae wythnos ‘Gwyliwch eich pen’ yn ein hatgoffa nid yn unig i wirio ein lles ein hunain, ond hefyd i estyn allan at ffrindiau, teulu a chymdogion. Gall sgwrs syml dros baned neu alwad ffôn wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae rhannu pryderon - boed yn anffurfiol neu drwy chwilio am gymorth proffesiynol - yn gam dewr ac adeiladol.
Mae cymorth cyfrinachol ar gael drwy’r sefydliadau canlynol:
- Sefydliad DPJ: 0800 587 4262
- Tir Dewi: 0800 121 4722
- FCN: 03000 111 999
- RABI: 0800 188 4444
Ni ddylai neb deimlo bod yn rhaid wynebu’r heriau hyn ar ei ben ei hun. Drwy gymryd amser i siarad, gwrando a chefnogi ein gilydd, gallwn gryfhau nid yn unig ein busnesau, ond ein cymunedau hefyd.

