CONTACT

Undebau’n amlinellu galwadau am gyllid ffermio teg

Undebau’n amlinellu galwadau am gyllid ffermio teg

Defnyddiodd Undeb Amaethwyr Cymru ac NFU Cymru eu cyfarfod ymylol yng Nghynhadledd Wanwyn Plaid Cymru, a gynhaliwyd yn yr ICC Casnewydd, i atgyfnerthu eu blaenoriaethau maniffesto cyffredin ac annog Llywodraeth nesaf Cymru i gyflwyno cyllideb deg sy’n cefnogi amaethyddiaeth Cymru a’r cymunedau gwledig y mae’n eu cynnal.

Dan gadeiryddiaeth Llyr Gruffydd AS, llefarydd Amaethyddiaeth a Materion Gwledig Plaid Cymru, rhoddodd y digwyddiad lwyfan i’r ddwy undeb amlygu’r pwysau ariannol parhaus sy’n wynebu’r sector. Tynnwyd sylw at yr hyn a ddisgrifiwyd fel mwy na degawd o ddiffyg cynnydd yn y gyllideb amaethyddol, gyda rhybudd nad yw’r cyllid yn adlewyrchu’r cynnydd mewn costau na’r disgwyliadau rheoleiddiol ac amgylcheddol cynyddol sy’n wynebu ffermwyr.

Nododd yr undebau y byddai’r gyllideb amaethyddol bellach yn fwy na £500 miliwn pe bai cyllid amaethyddol Y Llywodraeth wedi adlewyrchu chwyddiant dros y 13 mlynedd diwethaf - gan amlygu’r hyn sydd bellach yn fwlch sylweddol a chynyddol rhwng yr arian sydd ar gael a gwir anghenion y sector.

Wrth siarad yn y digwyddiad, amlinellodd Llywydd NFU Cymru, Abi Reader, alwadau allweddol maniffesto’r ddwy undeb am gyllideb aml-flwyddyn wedi’i chlustnodi i gefnogi twf cynaliadwy bwyd a ffermio yng Nghymru. Dywedodd:

“Ni ddylid disgwyl i ffermwyr Cymru wneud mwy am lai. Rhaid i’r llywodraeth nesaf ymrwymo i ddarparu cyllideb aml-flwyddyn wedi’i chlustnodi sy’n cyd-fynd â’n uchelgais ar gyfer twf cynaliadwy’r sector.

Rhaid i’r cyllid hwn gefnogi gwydnwch ariannol ein ffermydd teuluol a’n cymunedau gwledig, gan weithio ochr yn ochr â’n rhwymedigaethau amgylcheddol. Rydym yn galw am gyllideb o dros £500 miliwn y flwyddyn, gyda’r rhan fwyaf o’r cyllid yn cael ei gyfeirio at sefydlogrwydd, cynhyrchiant ac enillion effeithlonrwydd ar ffermydd.

Rydym hefyd yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i herio Llywodraeth y DU i sicrhau bod unrhyw gynnydd yn y dyfodol i gyllid cymorth amaethyddol yn adlewyrchu anghenion Cymru yn deg, yn hytrach na chael ei gyfyngu gan weithrediad fformiwla Barnett.”

Adleisiwyd y galwadau hyn yn ystod y sesiwn gan Swyddog Seneddol Undeb Amaethwyr Cymru, George Lewes, a bwysleisiodd fod yn rhaid i’r llywodraeth nesaf sicrhau cefnogaeth gyllidebol gadarn ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS)newydd.

Dywedodd fod y newid i’r fframwaith gyllidol yma yng Nghymru yn cynrychioli newid strwythurol sylweddol i fusnesau fferm, ac felly bod angen cefnogaeth ariannol hirdymor a digonol i sicrhau llwyddiant y cynllun. Wrth anerch y gynulleidfa dywedodd:

“Os ydym am gyflawni ein amcanion ar gyfer diogelwch bwyd, yr hinsawdd a bioamrywiaeth, rhaid i’r cynllun newydd gael ei gefnogi gan gyllideb sy’n cyfateb i’r disgwyliadau hynny.”

Rhoddodd y cyfarfod ymylol gyfle hefyd i’r undebau amlinellu uchelgais ehangach y ddwy undeb ar gyfer y sector cyn etholiad y Senedd. Roedd y rhain yn cynnwys lleihau biwrocratiaeth ar y fferm, cyflwyno strategaeth sy’n dilyn y wyddoniaeth ac sydd â’r adnoddau priodol i fynd i’r afael â bTB mewn gwartheg ac ymdrin â phryderon parhaus ynghylch rheoliadau NVZ a’r canlyniadau anfwriadol y maent yn achosi o fewn ein ffermydd teuluol.

Wrth gloi, dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman:

“Mae’r ddwy undeb wedi pwysleisio bod cyllid teg a chynaliadwy, ynghyd â diwygio rheoleiddio ystyrlon a pholisïau ymarferol sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn hanfodol i ddiogelu a chynnal amaethyddiaeth Cymru yn yr hirdymor.

Cyn etholiad y Senedd, edrychwn ymlaen at barhau i ymgysylltu’n adeiladol â phob plaid er mwyn sicrhau bod y blaenoriaethau hyn yn cael eu cyflawni er budd ein ffermwyr, ein cymunedau gwledig, ac economi ehangach Cymru.”

Newyddion Diweddaraf

Cysylltwch â ni

Ffôn : 01970 820820

Ebost : post@fuw.org.uk

Cyfryngau Cymdeithasol

  • fas fa-x
  • fab fa-facebook-f
  • fab fa-instagram
Image