CONTACT
Undeb Amaethwyr Cymru yn cryfhau’r tîm lleol i gefnogi ffermwyr Sir Benfro
Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn cryfhau ei phresenoldeb lleol ar draws Sir Benfro a gorllewin Cymru gyda phenodiad Elizabeth King a Bethan Morgan, sy’n pwysleisio’r buddsoddiad parhaus gan yr Undeb mewn cefnogaeth rheng flaen i ffermwyr ar adeg o newid sylweddol i'r diwydiant.
Mae Elizabeth King yn ymuno â Undeb Amaethwyr Cymru yn y swydd newydd sbon o Arweinydd Rhanbarthol, gan weithio ar draws gorllewin Cymru i oruchwylio a chefnogi gwasanaethau aelodau’r Undeb. Mae hi’n dod â phrofiad helaeth o swyddi blaenorol mewn polisi amaethyddol a gwasanaethau cynghori, gan gynnwys gweithio i elusen wledig genedlaethol a chynghori ar brosiectau arallgyfeirio ffermydd.
Mae Bethan Morgan yn ymuno â swyddfa Sir Benfro fel Cydlynydd Gwasanaethau Aelodau sy'n cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau dyddiol i aelodau Undeb Amaethwyr Cymru yn lleol. Wedi'i geni a'i magu yn Sir Benfro, treuliodd y 27 mlynedd diwethaf yn gweithio mewn practis milfeddygol cymysg.
Maent yn ymuno â thîm profiadol Rebecca Voyle, Rheolwr Gwasanaethau Aelodau Sir Benfro, a Susan James, Cydlynydd Gwasanaethau Aelodau, gan ffurfio presenoldeb cryfach i Undeb Amaethwyr Cymru yn y Sir sy'n canolbwyntio ar ddarparu cefnogaeth ymarferol ar lawr gwlad i ffermwyr.
Wrth groesawu’r penodiadau dywedodd Prif Weithredwr Grŵp Undeb Amaethwyr Cymru, Guto Bebb: “Fel Undeb, ‘rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi yn ein pobl a chryfhau’r gwasanaeth i aelodau. Mae’r penodiadau hyn yn adlewyrchu ein bwriad o sicrhau fod gan ffermwyr fynediad at y wybodaeth leol, yr arbenigedd a’r gefnogaeth sydd ei angen arnynt.
"Gan weithio gyda Rebecca a Susan, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd Elizabeth a Bethan yn ychwanegiadau ardderchog i’r tîm yn Sir Benfro gan gynorthwyo i gefnogi aelodau a chymunedau gwledig wrth i ffermwyr wynebu’r newidiadau mwyaf mewn cefnogaeth i amaethwyr a welwyd mewn cenedlaethau.”
Gyda chyfnod ceisiadau y Ffurflen Gais Sengl ar agor tan 15 Mai 2026, mae Undeb Amaethwyr Cymru Sir Benfro yn parhau i gefnogi aelodau wrth iddynt ystyried y dewis rhwng y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) a’r Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS).
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa Sir Benfro ar

