CONTACT

Undeb Amaethwyr Cymru yn croesawu apwyntiad Llŷr Gruffydd fel Gweinidog Cabinet

Undeb Amaethwyr Cymru yn croesawu apwyntiad Llŷr Gruffydd fel Gweinidog Cabinet

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu penodiad Llŷr Gruffydd AS yn Weinidog Cabinet newydd Llywodraeth Cymru dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd yn dilyn etholiad diweddar y Senedd.

Mae’r Undeb wedi llongyfarch Mr Gruffydd ar ymgymryd â’r rôl ar gyfnod hollbwysig i’r sector amaeth, gyda ffermio Cymru yn parhau i wynebu newidiadau a heriau economaidd, amaethyddol a gwleidyddol sylweddol, gyfochr â chyfleoedd pwysig ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Llywydd yr Undeb, Ian Rickman, ei fod yn edrych ymlaen at barhau â’i berthynas waith agos ac adeiladol gyda Mr Gruffydd, ar ôl cydweithio’n rheolaidd gydag ef dros nifer o flynyddoedd ar faterion sy’n effeithio ar deuluoedd ffermio, cynhyrchu bwyd a’r economi wledig ehangach.

Talodd yr Undeb deyrnged hefyd i’r Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig blaenorol, Huw Irranca-Davies AS, gan ddiolch iddo am ei ymgysylltiad â’r sector a chydnabod pwysigrwydd cynnal deialog gref rhwng Llywodraeth Cymru a’r diwydiant amaethyddol.

Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman: “Ar ran Undeb Amaethwyr Cymru, hoffwn ymestyn ein llongyfarchiadau gwresog i Llŷr Gruffydd ar ei benodiad yn Weinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd.

“Mae’r Undeb wedi gweithio’n agos gyda Llyr Gruffydd dros nifer o flynyddoedd, ac rydym bob amser wedi gwerthfawrogi ei ddealltwriaeth o’r heriau sy’n wynebu amaethyddiaeth Cymru a phwysigrwydd y sector i wead cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd Cymru.

“Mae Mr Gruffydd yn ymgymryd â’r swydd ar gyfnod tyngedfennol i amaethyddiaeth Cymru a’n cymunedau gwledig, ac rydym yn edrych ymlaen at ddeall sut y bydd ffermio a chynhyrchu bwyd yn cael eu blaenoriaethu o fewn y portffolio newydd hwn, a beth fydd hynny’n ei olygu’n ymarferol i’r sector.

“Edrychwn ymlaen hefyd at barhau â’r ymgysylltiad adeiladol hwn, a gweithio’n agos i sicrhau cyflawniad ymrwymiadau maniffesto ar flaenoriaethau allweddol, gan gynnwys cymorth ffermio’r dyfodol, bTB, rheoliadau ar y fferm, a sicrhau dyfodol cynaliadwy a llewyrchus i ffermydd teuluol a chynhyrchu bwyd yng Nghymru.”

Ychwanegodd yr Undeb y bydd tymor nesaf y Senedd yn arbennig o bwysig i amaethyddiaeth Cymru, wrth i’r sector barhau i lywio newidiadau polisi, pwysau’r farchnad a disgwyliadau cynyddol ynghylch cyflawni amcanion amgylcheddol.

Pwysleisiodd yr Undeb bwysigrwydd sicrhau bod polisïau amaethyddol y dyfodol yn taro’r cydbwysedd cywir rhwng cynhyrchu bwyd, uchelgeisiau amgylcheddol a’r angen i gynnal ffermydd teuluol cynhyrchiol a phroffidiol ledled Cymru.

Defnyddiodd yr Undeb y cyfle hefyd i longyfarch holl aelodau newydd ac aelodau a ail-etholwyd i’r Senedd yn dilyn yr etholiad, gan nodi pwysigrwydd ymgysylltu trawsbleidiol cryf ar faterion gwledig ac amaethyddol yn ystod tymor newydd y Senedd.

Yn ystod yr ymgyrch etholiadol, cynhaliodd Undeb Amaethwyr Cymru raglen sylweddol o weithgareddau ymgysylltu gydag ymgeiswyr ledled Cymru. Roedd y rhain yn cynnwys ymweliadau fferm, digwyddiadau hustyngau a sesiynau briffio polisi, gan roi cyfle i ymgeiswyr glywed yn uniongyrchol gan ffermwyr a chynrychiolwyr yr Undeb am y newidiadau a’r heriau sy’n effeithio ar y sector.

Ymhlith y materion allweddol a amlygwyd gan yr Undeb yn ystod yr ymgyrch oedd dyfodol cyllid ffermio, diogelwch bwyd, mynd i’r afael â bTB, rheoliadau ansawdd dŵr a mesurau i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr.

Dywedodd yr Undeb Amaethwyr Cymru eu bod wedi’i calonogi gan lefel yr ymgysylltiad a ddangoswyd gan ymgeiswyr drwy gydol yr ymgyrch ac yn croesawu’r cyfle i barhau â’r trafodaethau hynny gydag Aelodau o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol yn y Senedd newydd.

Dywedodd Is-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Dai Miles: “Roedd yr ymgyrch etholiadol yn gyfle pwysig i ymgysylltu ag ymgeiswyr o bob plaid ac i dynnu sylw at flaenoriaethau a phryderon ein haelodau.

“Roeddem yn falch o’r ymgysylltiad cadarnhaol a gawsom ledled Cymru ac edrychwn ymlaen at adeiladu ar y perthnasoedd hynny dros gyfnod tymor newydd y Senedd.

“Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn parhau’n ymrwymedig i weithio’n adeiladol gyda Llywodraeth Cymru ac Aelodau o bob rhan o’r Siambr er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy a llewyrchus i ffermydd teuluol Cymru a’n cymunedau gwledig.”

Ychwanegodd yr Undeb y bydd cydweithio rhwng y Llywodraeth a’r diwydiant ffermio yn hanfodol wrth fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu’r sector, gan sicrhau ar yr un pryd fod ffermio Cymru yn parhau i chwarae rhan ganolog yn economi, diwylliant ac amgylchedd y genedl.

Newyddion Diweddaraf

Cysylltwch â ni

Ffôn : 01970 820820

Ebost : post@fuw.org.uk

Cyfryngau Cymdeithasol

  • fas fa-x
  • fab fa-facebook-f
  • fab fa-instagram
Image