CONTACT

Dyfodol amaeth Cymru yn ganolbwynt i ymweliad â fferm yn Abertawe

Dyfodol amaeth Cymru yn ganolbwynt i ymweliad â fferm yn Abertawe

Cafodd John Davies, Aelod Senedd newydd Gŵyr Abertawe, ei groesawu ar ymweliad fferm i Cathelyd Isaf ar gyrion Abertawe gan Undeb Amaethwyr Cymru, gan drafod y cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu amaeth yng Nghymru.

Cynhaliwyd yr ymweliad ar fferm Ann Lewis, gan arddangos llwyddiant y busnes wrth arallgyfeirio. Ar ôl rhedeg menter buches sugno cig eidion yn flaenorol, mae Ann wedi arallgyfeirio i fagu moch, gan werthu’r cig trwy ei busnes, Mochyn Mawr. Bellach mae'r fferm yn magu sawl brîd brodorol gan gynnwys moch Large Black, Welsh, Saddleback a Pietrain.  Mae’r cynnyrch yn cael ei werthu'n uniongyrchol o'r fferm ac mewn amrywiaeth o farchnadoedd lleol.

Roedd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn ganolog i’r drafodaeth ar y fferm, gyda Ann Lewis a Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman, yn pwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod y cynllun yn parhau i ddatblygu mewn cydweithrediad agos â'r diwydiant amaethyddol.

Pwysleisiodd swyddogion yr Undeb yr angen i fynd i'r afael â phryderon parhaus ynghylch elfennau o'r cynllun, gan gynnwys costau milfeddygol a materion ymarferol eraill sy'n effeithio ar fusnesau fferm.  Byddai hyn yn ei dro yn sicrhau fod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn ymarferol, yn hygyrch ac yn gallu cefnogi cynaliadwyedd hirdymor amaethyddiaeth Cymru.

Cafwyd hefyd ffocws ar alwadau maniffesto yr Undeb oedd yn gofyn i Lywodraeth newydd Cymru sefydlu fframwaith ariannol pum mlynedd ar gyfer cyllideb y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Mae'r Undeb yn dadlau y byddai’r math yma o gytundeb ariannu amlflwyddyn yn darparu'r sicrwydd sydd ei angen er mwyn cefnogi buddsoddiad, gwydnwch a hyder ymhlith busnesau ffermio Cymru.

Yn dilyn yr ymweliad dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman: "Rydym yn ddiolchgar i Ann am y croeso cynnes i Gathelyd Isaf ac am rannu ei phrofiad o ffermio ac arallgyfeirio. Roedd yr ymweliad yn gyfle ardderchog i drafod yr heriau a'r cyfleoedd sy'n deillio o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ac i atgyfnerthu'r angen i'r cynllun barhau i ddatblygu drwy gydweithio adeiladol gyda’r sector amaethyddol.

"Fe wnaethom hefyd bwysleisio pwysigrwydd sicrhau fframwaith ariannu pum mlynedd ar gyfer y Cynllun. Mae darparu mwy o sicrwydd ariannol yn hanfodol os ydym am roi'r hyder i ffermwyr Cymru fuddsoddi yn eu busnesau a pharhau i gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel tra hefyd yn cyfrannu at gynnal yr amgylchedd."

Newyddion Diweddaraf

Cysylltwch â ni

Ffôn : 01970 820820

Ebost : post@fuw.org.uk

Cyfryngau Cymdeithasol

  • fas fa-x
  • fab fa-facebook-f
  • fab fa-instagram
Image