CONTACT
Y fraint fwyaf i’r ffermwr o Bontsenni
Croesawu, cefnogi, diolch, a gwerthfawrogi! Dyna’n syml yw blaenoriaethau un gŵr prysur iawn o Sir Frycheiniog ar hyn o bryd!
Mae gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru strwythur unigryw o siroedd nawdd sy’n sicrhau bod pobl Cymru yn cadw perchnogaeth o ddigwyddiadau’r Gymdeithas. Cyfle Brycheiniog yw hi eleni i fod yn sir nawdd, a hynny dan arweiniad medrus eu Llywydd, Gethin Havard, un o aelodau’r Undeb yn Sir Frycheiniog ac mae’n dod â phrofiad helaeth a dealltwriaeth ddofn o amaethyddiaeth Cymru i’r rôl.
Ynghanol y prysurdeb wrth agosáu at un o brif ddigwyddiadau’r Gymdeithas, sef y Sioe Fawr a fydd yn digwydd mewn ychydig dros ddau fis, manteisiais ar y cyfle i gael sgwrs gyflym gyda Gethin gan holi iddo i ddechrau ynglŷn â sut deimlad yw cael bod yn Llywydd Sir Frycheiniog eleni? Dechreuodd ymateb trwy ddyfynnu geiriau’r diweddar Dai Jones Llanilar - “Dyma’r fraint fwyaf y gallwch ei rhoi i ffermwr yng Nghymru”. Aeth Gethin ymlaen i ddweud fod ei ddiolch ef yn fawr i bobol Brycheiniog am ymddiried ynddo a’i ddewis yn Llywydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru 2026.
“Ffarmwr fy ‘milltir sgwâr’ ydw i,” eglurodd Gethin. “Daeth yr Havardiaid i Sir Frycheiniog gyda’r Normaniaid yn 1093, ac mae ein teulu ni wedi bod yn amaethu yng Nghwm Senni a’r cyffiniau ers hynny. Does dim syndod, felly, fod cymunedau cefn gwlad yn bwysig iawn i mi, ac mae’r cyfle i gydweithio, cymdeithasu a chodi ymwybyddiaeth ac arian at elusennau - ochor yn ochor â’r Sioe wedi bod yn brofiad hynod werthfawr ac yn destun balchder mawr i mi.”
Wrth holi am syniad bras o’i brif gyfrifoldebau yn ystod ei flwyddyn fel Llywydd, yr ateb yn syml oedd “Croesawu, cefnogi, diolch, a gwerthfawrogi!”
“Roedd hi’n bwysig iawn i mi sicrhau bod pobl o bob cwr o’r sir yn cael cyfle i fod yn rhan o’r daith arbennig hon - Brycheiniog 2026,” eglurodd Gethin. “Trwy fanteisio ar bob cyfle i ymgysylltu, boed hynny drwy siarad yn gyhoeddus gyda’r Cyngor Sir a’r Parc Cenedlaethol, neu drwy gysylltu â noddwyr a chymunedau lleol, rwy’n teimlo bod y neges wedi cyrraedd cynulleidfa eang, a’r amrywiaeth o weithgareddau wedi bod yn boblogaidd. Un o’r uchafbwyntiau oedd sefydlu Côr Sirol y llynedd. Roedd llawer o’r aelodau’n canu mewn côr am y tro cyntaf, ac mae wedi bod yn braf gweld pawb yn dod ynghyd i ymarfer, cymdeithasu a pherfformio.
“Yn rhinwedd fy swydd fel Llywydd y Gymdeithas, rwy’n cael sedd ar Fwrdd Cyfarwyddwyr y Sioe. Mae gweld ymroddiad y staff, swyddogion ar holl wirfoddolwyr yn agoriad llygad - mae cymaint o waith yn mynd ymlaen tu ôl i’r llenni.”
O blith yr holl weithgareddau a digwyddiadau, holais i Gethin beth mae’n edrych ymlaen ato fwyaf eleni? “Mae’n amhosib dewis un digwyddiad!” dywedodd. “Mae calendr y misoedd nesaf yn llawn o amrywiol weithgareddau ar draws y sir, ac rwy’n hynod ddiolchgar i bawb sy’n gweithio mor galed i drefnu pob dim. Yn sicr, bydd Diwrnod Tir Glas yn arbennig iawn i ni fel teulu. Mae’n fraint eich croesawu i gyd i Gwmbrynich ar y 12fed o Fehefin. Mae’r Pwyllgor Gwaith lleol wedi gweithio’n ddiflino dros y flwyddyn ddiwethaf wrth baratoi at ddiwrnod sy’n argoeli i fod yn addysgiadol yn ogystal â chymdeithasol. Dewch yn llu, a chofiwch ddod â’r haul gyda chi!
“Bydd y Sioe Fawr, wrth gwrs, yn brofiad unigryw i mi eleni, a pha well ffordd o ddechrau’r wythnos na chael Côr y Sir yn codi’r to ym Moliant y Maes!”
Yn sicr, mae’n argoeli i fod yn flwyddyn i’w chofio i drigolion Sir Frycheiniog fel sir nawdd eleni, a diolch i’w Llywydd Gethin Havard am y sgwrs, a hynny ynghanol prysurdeb y trefniadau munud ddiwethaf ar gyfer digwyddiadau’r haf! Pob hwyl i chi Gethin a mwynhewch bob eiliad o’ch rôl.

