CONTACT

Mynd i'r afael â materion allweddol cysylltedd gwledig yn Sioe Frenhinol Cymru

Mynd i'r afael â materion allweddol cysylltedd gwledig yn Sioe Frenhinol Cymru

Bydd gwella cysylltedd symudol a band eang yn fater allweddol yn Sioe Frenhinol Cymru eleni wrth i'r rheoleiddiwr telathrebu Ofcom, ynghyd ag arweinwyr y diwydiant a llunwyr polisi, gyfarfod i archwilio'r heriau sy'n wynebu cymunedau gwledig yng Nghymru.

Wrth i gysylltedd digidol ddod yn gynyddol bwysig i ffermio, busnesau gwledig, gwasanaethau cyhoeddus a bywyd bob dydd, mae sicrhau bod cymunedau gwledig yn gallu cael mynediad at wasanaethau dibynadwy, o ansawdd uchel yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Er bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf o fewn mentrau fel y Rhwydwaith Gwledig a Rennir (Shared Rural Network) a buddsoddiad ar raddfa fawr mewn seilwaith band eang, mae ardaloedd yng nghefn gwlad Cymru o hyd yn cael eu heffeithio gan wasanaethau gwael neu anghyson.

Bydd cyflwr presennol cysylltedd symudol a band eang yng nghefn gwlad Cymru, gan gynnwys y cynnydd a wnaed a'r heriau sy'n parhau i effeithio ar y ddarpariaeth a’r perfformiad, ymhlith y materion a drafodir yn ystod sesiwn banel ym mhafiliwn Undeb Amaethwyr Cymru ddydd Mawrth 21 Gorffennaf.

Mae ymchwil ddiweddaraf Ofcom yn dangos mai dim ond 59% o eiddo gwledig yng Nghymru oedd â mynediad at gysylltiad band eang gigabit, o'i gymharu ag 87% mewn cymunedau mwy trefol. Mewn papur trafod a gyhoeddwyd yn ddiweddar, dangosodd Ofcom fod perfformiad symudol hefyd yn is mewn ardaloedd gwledig, sef 71% o'i gymharu ag 83% mewn dinasoedd mawr .

Bydd y sesiwn hefyd yn edrych tua’r dyfodol gan ystyried beth ddylai cysylltedd da ei olygu i gymunedau a busnesau gwledig, ac a all technolegau sy'n dod i'r amlwg neu arloesedd newydd ddarparu atebion ystyrlon a fforddiadwy.

Dywedodd Andy Sutton, Cyfarwyddwr Technoleg a Symudol yn Ofcom:

'Mae cysylltedd symudol cryf yn hanfodol i gymunedau a busnesau ledled Cymru, ond gall pobl mewn ardaloedd gwledig wynebu heriau penodol.

Yn y Sioe Frenhinol, rwy'n edrych ymlaen at glywed profiadau pobl a thrafod sut y gall diwydiant, llywodraeth a phartneriaid lleol gydweithio i wella cysylltedd ar gyfer cefn gwald Cymru.'

Ychwanegodd Alan Gardner, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Gwledig yn Undeb Amaethwyr Cymru:

'Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn cydnabod yn llawn y gall cofleidio technoleg newydd a defnyddio gwasanaethau digidol i gefnogi cymunedau gwledig, fodd bynnag, gall hynny ond fod yn effeithiol os oes cysylltedd da a fforddiadwy.

Nid ydym am weld busnesau gwledig dan anfantais ac mae'n rhaid i ni i gyd gydweithio â'r diwydiant a'r Llywodraeth i ddiogelu cysylltedd i'n haelodau a'r gymuned wledig ehangach.

Mae'r sesiwn yn agored i ffermwyr, busnesau gwledig, sefydliadau cymunedol, awdurdodau lleol a thrigolion yng nghefn gwlad Cymru sydd â diddordeb mewn cysylltedd symudol a band eang. Bydd cyfle i fynychwyr rannu eu profiadau, codi cwestiynau a chyfrannu at drafodaethau ynghylch sut y gall cysylltedd gefnogi cymunedau gwledig ledled Cymru yn well.

Newyddion Diweddaraf

Cysylltwch â ni

Ffôn : 01970 820820

Ebost : post@fuw.org.uk

Cyfryngau Cymdeithasol

  • fas fa-x
  • fab fa-facebook-f
  • fab fa-instagram
Image