CONTACT

Cyllideb amlflwydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn rhoi'r sicrwydd y mae ffermydd teuluol Cymru ei angen

Cyllideb amlflwydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn rhoi'r sicrwydd y mae ffermydd teuluol Cymru ei angen

Mae Llywodraeth Cymru heddiw wedi cyhoeddi y bydd cyllideb y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cael ei chynnal ar £340 miliwn y flwyddyn dros y tair blynedd nesaf, gyda £238 miliwn y flwyddyn yn cael ei ddyrannu i haen gyffredinol y cynllun.

Trafodwyd y cyhoeddiad ymhellach gyda Undeb Amaethwyr Cymru fore Llun yn Sioe Fawr mewn cyfarfod gyda Phrif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, a Gweinidog y Cabinet Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llŷr Gruffydd.

Arweiniodd ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd at golli'r sefydlogrwydd tymor canolig a ddarparwyd gan fframwaith ariannol amlflwydd saith mlynedd yr Undeb Ewropeaidd. O ganlyniad, mae cyllid ar gyfer materion gwledig a chymorth i ffermydd yng Nghymru wedi cael ei bennu'n flynyddol ers hynny.

Bydd ffermwyr Cymru yn derbyn dros £1 biliwn o gyllid dros dymor presennol y Senedd, gyda'r cyhoeddiad yn cyflawni addewid a wnaed gan Lywodraeth Plaid Cymru yn ei 100 diwrnod cyntaf i ddarparu cyllideb amlflwydd ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Gan groesawu’r cyhoeddiad, dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman: "Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi dod â lefel sylweddol o ansicrwydd ariannol i'r sector amaethyddol yng Nghymru, gan ei gwneud yn fwyfwy anodd i fusnesau gynllunio'n hyderus a gwneud penderfyniadau ariannol hirdymor ar sail gwybodaeth gadarn.

"Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi galw'n gyson am fframwaith cyllido pum mlynedd, felly mae'r ymrwymiad heddiw i ddarparu sicrwydd tan fis Mawrth 2030 yn rhyddhad i'w groesawu i ffermydd teuluol Cymru. Mae'n darparu sefydlogrwydd mawr ei angen a sylfaen gryfach ar gyfer gweddill y degawd, gan roi mwy o hyder i fusnesau wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol.

"Dylid hefyd ystyried ymrwymiad y Gweinidog yng nghyd-destun pwysau cynyddol ar gyllidebau a phenderfyniadau sy'n datblygu yn San Steffan, a allai gael goblygiadau sylweddol i Gymru dros y blynyddoedd nesaf.

"Pwysleisiodd ein Maniffesto ar gyfer Etholiad y Senedd na ddylai ffermwyr Cymru gael eu rhoi dan anfantais wrth drosglwyddo i system newydd o gymorth sy'n gosod mwy o ofynion cymdeithasol ac amgylcheddol ar eu busnesau. Ar y sail honno, rydym yn parhau i dynnu sylw at yr angen i gynyddu lefel sylfaenol cyllid y Cynllun Ffermio Cynaliadwy er mwyn lliniaru unrhyw effeithiau economaidd a chyfateb i uchelgeisiau polisi Llywodraeth Cymru.

"I'r perwyl hwnnw, byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cyfraddau taliadau sylfaenol y cynllun yn briodol, a bod pob ceiniog o gyllideb y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cyrraedd ffermwyr gweithredol Cymru."

Newyddion Diweddaraf

Cysylltwch â ni

Ffôn : 01970 820820

Ebost : post@fuw.org.uk

Cyfryngau Cymdeithasol

  • fas fa-x
  • fab fa-facebook-f
  • fab fa-instagram
Image