CONTACT
Cyflwyno Gwobr i Elwen Roberts am ei Chyfraniad i Amaethyddiaeth
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi anrhydeddu Elwen Roberts â'i Gwobr Allanol am Wasanaethau i Amaethyddiaeth yn Sioe Frenhinol Cymru eleni, gan gydnabod ei chyfraniad rhagorol at hyrwyddo cynnyrch ffermio Cymru a diwydiant cig coch y wlad.
Am fwy na 25 mlynedd, mae Elwen wedi bod yn un o lysgenhadon amlycaf Cymru dros gig coch Cymreig, gan ymroi ei gyrfa i addysgu defnyddwyr am fanteision maeth cig eidion a chig oen a gynhyrchir yn lleol fel rhan o ddeiet iach a chytbwys.
Yn wreiddiol o Fetws Gwerfil Goch, dechreuodd Elwen ei gyrfa gyda MLC Cymru yn 1999 cyn mynd ymlaen i wasanaethu fel Swyddog Gweithredol Defnyddwyr gyda Hybu Cig Cymru (HCC). Ers hynny, mae wedi dod yn wyneb cyfarwydd ar aelwydydd ledled Cymru drwy filoedd o arddangosiadau coginio, gweithdai addysgol, ymddangosiadau yn y cyfryngau a digwyddiadau byw, gan ysbrydoli cynulleidfaoedd gyda'i brwdfrydedd dros gynnyrch Cymreig.
Mae ei gwaith wedi cyrraedd pobl o bob oed a chefndir, o ddisgyblion ac athrawon mewn ysgolion cynradd gwledig i gynulleidfaoedd teledu ac ymwelwyr â rhai o ddigwyddiadau amaethyddol mwyaf Cymru, gan gynnwys y Sioe Frenhinol. Yn adnabyddus am gyfuno sgiliau coginio ymarferol â chyngor syml ynghylch maeth mae Elwen wedi gwneud cyfraniad allweddol wrth gryfhau dealltwriaeth a gwerthfawrogiad y cyhoedd o werth cig coch Cymreig a thrwy hynny hyrwyddogwaith y ffermwyr sy'n ei gynhyrchu.
Wrth gyflwyno'r wobr yn nerbyniad Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, dywedodd Ian Rickman, Llywydd yr Undeb:
"Mae Elwen wedi ymroi ei gyrfa i hyrwyddo amaethyddiaeth Cymru a chodi proffil ansawdd eithriadol ein cig coch Cymreig.
Drwy ei brwdfrydedd, ei phroffesiynoldeb a'i gallu i ymgysylltu â phobl o bob oed, mae wedi helpu i gryfhau'r cysylltiad rhwng y cyhoedd a'r ffermwyr sy'n cynhyrchu’r cig gorau yn y byd.
Ar ran Undeb Amaethwyr Cymru, rwy'n hynod falch i gael llongyfarch Elwen ar y gydnabyddiaeth haeddiannol hon a diolch iddi am ei chyfraniad arbennig i amaethyddiaeth Cymru."

