CONTACT
Llosgi i Amddiffyn
Wrth i'r hydref gyrraedd, bydd delweddau trawiadol o danau gwyllt yr haf diweddar, yr haf poethaf a gofnodwyd erioed, yn parhau'n fyw ym meddyliau llawer.
O'r 3,500 o danau glaswellt a gofnodwyd ledled Cymru yn ystod 2026, ymleddodd mwy na 170 ohonynt dros ardal o hectar neu fwy.
Yn erbyn cefnlen haf hynod heriol i wasanaethau tân ac achub Cymru, mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru wedi lansio ‘Llosgi i Amddiffyn’, ymgyrch sy'n dod â sefydliadau ynghyd i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o'r risg o danau gwyllt a chydlynu’r ymdrech i leihau eu heffaith.
Mae'r cyhoeddiad yn amserol, gan fod y 1af o Hydref yn nodi dechrau'r cyfnod pan fo llosgi rheoledig mewn ardaloedd ucheldir yn cael ei ganiatáu, cyfnod sy'n para tan y 31ain o Fawrth (o'r 1af o Dachwedd tan y 15fed o Fawrth mewn ardaloedd eraill).
Mae'r rheolau ar gyfer llosgi rheoledig wedi'u nodi yn Cod Llosgi Grug a Glaswellt yng Nghymru 2008.
Mae'r Cod yn cydnabod y gall llosgi rheoledig, cyfnodol a gynlluniwyd yn ofalus fod o fudd i amaethyddiaeth, rheoli hela, cadwraeth bywyd gwyllt a'r amgylchedd ehangach.
Heb os, bydd darllenwyr sy'n bwriadu gwneud gwaith llosgi dan y rheolau hyn yn gyfarwydd â'r gofynion manwl a nodir yn y Cod, ac wedi paratoi ‘cynlluniau llosgi’ yn unol â'r rhai sydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru (Cynllun Rheoli Llosgi yng Nghymru).
Mae ymgyrch ‘Llosgi i Amddiffyn’ yn atgyfnerthu gofynion y Cod ac yn tynnu sylw at ystyriaethau allweddol:
- Peidiwch â llosgi rhwng machlud haul a chodiad haul.
- Sicrhewch fod digon o adnoddau ar gael i reoli'r tân yn effeithiol a'i ddiffodd os oes angen.
- Rhowch wybod i gymdogion a sicrhewch fod da byw mewn lle diogel, i ffwrdd o lwybr y tân.
- Ystyriwch dorri ‘llinell atal tân’ i atal y tân rhag lledaenu.
- Cofiwch y bydd tân yn teithio i fyny'r allt yn gynt ac yn llosgi'n fwy dwys nag y mae wrth symud i lawr yr allt, a gall ledaenu'n gynt nag y gallwch chi redeg.
- Os ydych chi'n ei gynnau, peidiwch â'i adael! Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich tân wedi'i ddiffodd yn llwyr cyn gadael yr ardal.
- Llosgwch ardal fach y gellir ei rheoli ar y tro yn unig. Mewn amodau lle mae'r llystyfiant yn llosgi'n hawdd, argymhellir y gall un person reoli llinell dân 5 metr yn effeithlon. Mae tanau glaswellt yn hynod anrhagweladwy a gallant fynd allan o reolaeth o fewn munudau.
- Rhowch wybod i'ch Gwasanaeth Tân ac Achub lleol bob amser cyn gwneud gwaith llosgi dan y rheolau yma ac ar ôl i'r gwaith llosgi ddod i ben.
Fel un o bartneriaid Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn croesawu'r ymgyrch a'i amcan o gefnogi cymunedau mwy diogel, tirweddau mwy gwydn a chydweithio agosach er mwyn atal tanau gwyllt ledled Cymru.
Wrth lansio'r ymgyrch newydd, braf oedd clywed cydnabyddiaeth gan y tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru o gyfraniad gwerthfawr ffermwyr wrth ddod o hyd i ddŵr i fynd i'r afael â'r tanau diweddar. Fel sy'n digwydd yn aml iawn, mae'r gymuned amaethyddol yno i gefnogi'r gymuned ehangach pan fo’r angen yn codi.

