CONTACT
Cyfle eto i wylio Teleri Elias, Swyddog Polisi Undeb Amaethwyr Cymru, Hywel Dafis, ffermwr llaeth o Dalgarreg a Llyr Gruffydd, Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd yn Llywodraeth Cymru yn trafod y datblygiadau diweddaraf ar Ffermio.
https://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/p0pbnbyb/ffermio-mon-05-oct-2026
Bu cynrychiolwyr o Undeb Amaethwyr Cymru yng Ngynhadledd Flynyddol Plaid Cymru yn Llandudno yr wythnos diwethaf, lle y buont yn cynrychioli llais ffermydd teuluol Cymru ac yn cyfarfod â gwleidyddion, llunwyr polisi, rhanddeiliaid a chynhadleddwyr.
Cynhaliodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman, y Dirprwy Lywydd Dai Miles a Lauren Price, Swyddog Cyswllt Materion Seneddol yr Undeb, stondin arddangos drwy gydol y gynhadledd, er mwyn codi ymwybyddiaeth am y materion sy'n wynebu ffermwyr Cymru ar hyn o bryd a thrafod yr heriau ymarferol sy'n effeithio ar y sector amaethyddol ehangach.
Trafodwyd ystod eang o faterion, gan gynnwys y pryderon parhaus ynghylch y tafod glas ac effaith y clefyd ar ffermwyr a'r economi Gymreig.
Manteisiodd Undeb Amaethwyr Cymru hefyd ar y cyfle i dynnu sylw at yr angen dybryd i weithredu mesurau lliniaru ar gyfer atal tanau gwyllt cyn y flwyddyn nesaf, gan gynnwys yr angen i wrthdroi'r dirywiad yn niferoedd y da byw ar dir comin a’r ucheldiroedd lle mae diffyg pori yn arwain at gynnydd parhaus yn y deunydd allai losgi.
Ein neges allweddol oedd yr angen i sicrhau bod polisi amaethyddol yn adlewyrchu'r realiti y mae ffermwyr yn ei wynebu ar lawr gwlad.
Pwnc trafod pwysig arall oedd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Gyda ail flwyddyn y cynllun yn agosáu’n gyflym, canolbwynt y drafodaeth oedd yr angen i ystyried ymhellach y newidiadau posibl i’r cynllun i sicrhau ei fod yn gweithio’n effeithiol ac yn wirioneddol hygyrch i bob ffermwr yng Nghymru.
Cododd sawl rhanddeiliad ac Aelodau’r Senedd gwestiynau ynghylch y disgwyliadau cyn cyhoeddi argymhellion ar bolisi TB mewn gwartheg yn fuan. Pwysleisiodd cynrychiolwyr yr Undeb bwysigrwydd dull ymarferol sy’n seiliedig ar dystiolaeth gyda’r parodrwydd i ddefnyddio pob erfyn posib tra’n cydnabod yr effaith sylweddol y mae TB mewn gwartheg yn parhau i’w gael ar deuluoedd ffermio a chymunedau gwledig.
Tynnwyd sylw hefyd at bris uchel disel a’r pwysau ar gostau byw ehangach sy’n wynebu ffermwyr pan yn ystyried y rhybudd o chwyddiant prisiau bwyd sy’n gynyddol debygol.
Mae costau cynyddol tanwydd, cynhyrchu a gweithio o ddydd i ddydd yn parhau i roi pwysau sylweddol ar fusnesau fferm, ar adeg pan fo llawer eisoes yn delio ag ansicrwydd ynghylch argaeledd porthiant, risg clefydau ac amodau tywydd heriol.
Rhoddodd y gynhadledd gyfle gwerthfawr i ymgysylltu â chynrychiolwyr gwleidyddol a sicrhau bod llais ffermwyr Cymru yn parhau’n gadarn ar yr agenda wleidyddol.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad heddiw (Dydd Mercher 23 Medi 2026) gan Llywodraeth Cymru ei bod wedi codi'r gyfradd taliad ymlaen llaw sydd ar gael i ffermwyr o dan y BPS (Cynllun Taliad Sylfaenol) a'r SFS (Cynllun Ffermio Cynaliadwy) o 70% i 80%, ac y bydd yn deddfu i ymestyn y cyfnod agored i ffermwyr daenu slyri a thail tan 15 Tachwedd.
Daw'r cyhoeddiad ddiwrnod ar ôl i gynrychiolwyr yr Undeb gyfarfod â'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch a Chynaliadwyedd Gwledig, Llyr Gruffydd AS, yng Nghaerdydd ddoe ii bwyso am y newidiadau sydd wedi eu hamlinellu heddiw.
Dywedodd Llywydd yr FUW, Ian Rickman:
“Bydd cyhoeddiad heddiw gan Lywodraeth Cymru yn ryddhad i ffermwyr ledled Cymru ar ôl tymor hynod heriol i fusnesau ffermio. Gyda ffermwyr yn wynebu'r dilema o frechu yn erbyn Firws y Tafod Glas neu brynu mwy o borthiant ar gyfer y gaeaf, mae’r cynnydd yn y taliad cymorth fferm ym mis Hydref yn gam pwysig tuag at ysgafnhau’r pwysau ariannol tymor byr.
“Rydym yn croesawu'r camau pragmatig ac amserol y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u cymryd mewn ymateb i'n pryderon. Edrychwn ymlaen at adeiladu ar hyn i gyflawni newidiadau hirdymor i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, gan gynnwys meysydd allweddol sydd angen sylw brys i sicrhau bod haen gyffredinol y Cynllun yn fwy hygyrch ac ymarferol yn 2027.”
Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru hefyd yn dilyn cyhoeddi papur polisi Undeb Amaethwyr Cymru ar Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru), a lansiwyd yn Sioe Brynbuga ar 12 Medi.
Mae'r papur yn dangos sut mae rheoliadau cyfredol wedi cynyddu'r baich gweinyddol ac ariannol ar fusnesau ffermio yn sylweddol; eto i gyd, mae data cydymffurfio Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cefnogi'r pryder bod cyfran sylweddol o achosion o beidio â chydymffurfio yn ymwneud â gofynion gweinyddol neu gadw cofnodion, yn hytrach nag yn dystiolaeth o ddigwyddiadau llygredd neu niwed amgylcheddol.
Ychwanegodd Mr Rickman:
“Yr hydref hwn, mae llawer o ffermwyr yn disgwyl pori a thorri silwair yn llawer hwyrach nag arfer yn dilyn cynhaeaf haf gwael, wrth iddynt geisio mynd i'r afael â'r prinder porthiant gaeaf ac y mae rhai busnesau eisoes yn ei wynebu. Mae ymestyn y cyfnod ar gyfer taenu slyri ar bob math o bridd a thir yn rhoi amser gwerthfawr iddynt wneud gwell defnydd o'r maetholion hyn a gwagio eu storfeydd yn ddiogel wrth i'r gaeaf agosáu.
“Fodd bynnag, mae'r angen i fynd i'r afael â'r heriau mwy hir-dymor yn parhau. Rydym yn galw am ddull mwy cymesur, sy'n seiliedig ar risg. Byddai hyn yn cynnwys ystyried dewisiadau amgen i’r cyfnodau caeedig sefydlog, adolygu’r modd y mae terfynau nitrogen yn cael eu gweithredu, symleiddio cadw cofnodion a gofynion gweinyddol, a galluogi mwy o hyblygrwydd ac arloesedd yn y ffordd y mae'r rheoliadau'n cael eu cymhwyso. Mae'r rheoliadau fel y maent ar hyn o bryd yn rhy gaeth, yn rhy gostus ac yn rhy fiwrocrataidd, ac mae’r flwyddyn hon ar ei phen ei hun wedi dangos nad yw ffermio yn ôl y calendr yn gweithio.”
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi dweud wrth Llywodraeth Cymru fod dirfawr angen cymorth a hyblygrwydd ar ffermwyr Cymru o ran rheolau a rheoliadau wedi tymor hynod heriol.
Wrth i ffermwyr orfod dewis rhwng brechu yn erbyn Feirws y Tafod Glas a phrynu porthiant ar gyfer y gaeaf, bu UAC yn trafod y pryderon ynghylch y cyfyng-gyngor dybryd sy'n wynebu'r diwydiant mewn cyfarfod â Gweinidog y Cabinet dros Wydnwch a Chynaliadwyedd Gwledig, Llyr Gruffydd AS, yng Nghaerdydd yn gynharach heddiw, dydd Mawrth 22 Medi.
Anogodd yr Undeb Llywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ei gallu i gyflwyno mesurau ar unwaith i leihau’r pwysau ar y diwydiant, gan gynnwys camau i gynyddu'r taliadau ymlaen llaw o 70% o gymorth fferm ym mis Hydref, er mwyn cefnogi ffermwyr gyda'u llif arian tymor byr.
Daeth y cyfarfod wedi i gynrychiolwyr yr Undeb alw am gamau gweithredu buan a chynllunio rhagweithiol i baratoi ar gyfer y risg o danau gwyllt yn 2027, ac i Lywodraeth y DU sefydlu Cronfa Argyfwng i gefnogi busnesau ffermio wrth iddynt wynebu argyfyngau tymor byr a heriau ariannol, yn ystod cyfarfodydd â gweinidogion Swyddfa Cymru a DEFRA yn Llundain ar 8 Medi.
Mae’r Undeb hefyd wedi galw eto am fwy o hyblygrwydd ar y rheoliadau llygredd amaethyddol; bydd y rheoliadau hyn yn gwahardd ffermwyr rhag taenu slyri a gwrteithiau organig eraill rhwng 15 Hydref a 15 Ionawr 2027 ar y rhan fwyaf o fathau o bridd a glaswelltir. Gan fod ffermwyr yn cael trafferthion gydag argaeledd porthiant yn dilyn tymor hynod sych, bydd angen i fusnesau ffermio ledled Cymru i bori, taenu slyri a thorri silwair yn llawer hwyrach na'r hyn a gynlluniwyd, a thra bod y tywydd yn caniatáu. Codwyd cwestiynau hefyd ynghylch yr amserlen ar gyfer gwneud newidiadau hirdymor i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, gydag UAC yn tynnu sylw at ei gofynion allweddol am sylw brys i sicrhau bod haen gyffredinol y Cynllun yn fwy hygyrch ac ymarferol erbyn 2027.
Dywedodd Llywydd yr FUW, Ian Rickman: “Mae'r flwyddyn hon wedi bod yn hynod heriol i fusnesau ffermio yng Nghymru. Maent wedi wynebu tywydd eithafol, achosion o glefydau a chostau mewnbwn cynyddol yn ystod y cyfnod trawsnewid mwyaf arwyddocaol o ran polisïau cymorth amaethyddol ers degawdau, ac rydym yn croesawu'r cyfle i drafod yr heriau hyn ac atebion posibl gyda'r Gweinidog Cabinet heddiw.
“Mae'r sefyllfa o ran clefyd y Tafod Glas yn peri pryder mawr ac mae'r cyfeiriad y mae pethau'n ei gymryd yn Lloegr o ran profi a diagnosis yn destun pryder difrifol, ac yn tanlilellu’r ddiffyg adnoddau yn y DU pan ddaw’n amser taclo achosion o’r clefyd. Mae Undeb Amaethwyr Cymru eisiau gweithio gyda Llywodraethau Cymru a'r DU ar Strategaeth Tafod Glas sy'n ennyn hyder y sector ein bod yn gallu weithio gyda'n gilydd i reoli'r clefydl. Nid ydym am fod yn ôl yn y man cychwyn ym mis Mawrth 2027 lle mae'r broses yn dechrau eto.
“Yn ogystal â phrinder porthiant ar lawer o ffermydd oherwydd y cyfnodau sychder diweddar a'r haf poethaf ar gofnod, mae llif arian cyfyngedig yn golygu bod rhai ffermwyr yn wynebu cyfyng-gyngor dybryd: a ddylent frechu eu hanifeiliaid yn erbyn Tafod Glas neu brynu mwy o borthiant ar gyfer y gaeaf? Dyma pam rydym yn galw am gamau gweithredu ar unwaith i helpu i leddfu'r pwysau hwn; byddai cynyddu Taliadau Ymlaen Llaw cymorth fferm ym mis Hydref yn gymorth mawr i fusnesau ffermio yn y tymor byr.”
Wrth siarad am y cyfnod gwahardd taenu slyri, ychwanegodd Mr Rickman:
“Mae UAC yn cefnogi camau i wella ansawdd dŵr ac yn cydnabod bod gan amaethyddiaeth rôl i'w chwarae wrth leihau llygredd. Fodd bynnag, mae'r rheoliadau presennol yn rhy gaeth, yn rhy gostus ac yn rhy fiwrocrataidd. Mae’r sychder eleni wedi rhwystro taenu slyri ar yr amser priodol, ac mi allai canlyniadau hyn fod yn ddifrifol os na fydd ffermwyr yn gallu gwagio eu storfeydd cyn y gaeaf.
“Dyma pam rydym yn galw am dderogasiwn cyffredinol ar gyfer dechrau'r cyfnod gwaharddedig, er mwyn caniatáu i ffermwyr gymhwyso maetholion yn briodol a chynaeafu cnydau silwair cyn y gaeaf. Mae angen dull gweithredu synhwyrol arnom sy'n seiliedig ar amodau'r tywydd ac anghenion cnydau, a chydnabod pwysigrwydd hyn ar gyfer y cyflenwad porthiant gaeaf a lles anifeiliaid yng Nghymru.”
Mae cangen Caerfyrddin o Undeb Amaethwyr Cymru yn gwahodd enwebiadau ar gyfer Gwobr Undeb Amaethwyr Cymru - Cymdeithas Amaethyddiaeth a Helwyr y Siroedd Unedig 2026, i berson a farnwyd i fod wedi gwneud Cyfraniad Rhagorol i Amaethyddiaeth yn Sir Gaerfyrddin yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Enillwyd y wobr y llynedd gan ffermwr o Sir Gaerfyrddin, Haydn Evans, gan gydnabod ei gyfraniad rhagorol i amaethyddiaeth yn Sir Gaerfyrddin a Chymru. Mae enillwyr blaenorol y wobr yn cynnwys sylfaenydd Castell Howell Foods, Brian Jones (2017), Cyflwynydd Ffermio, Meinir Howells (2018), a Llywydd presennol Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman (2019).
Cyflwynir y wobr yn nigwyddiad mawreddog Noswyl Sioe Laeth Cymru Undeb Amaethwyr Cymru ar ddydd Llun 19 Hydref 2026.
Bydd y beirniaid yn cynnwys cynrychiolwyr o Undeb Amaethwyr Cymru a Chymdeithas Amaethyddol a Helwyr y Siroedd Unedig.
Wrth agor y broses enwebu, dywedodd Rheolwr Gwasanaethau Aelodau Sir Caerfyrddin, David Waters: “Cymuned ffermio Sir Gâr yw asgwrn cefn gwead cymdeithasol ac economaidd ein sir. Mae’r wobr hon yn gyfle gwych i anrhydeddu a chydnabod cyfraniad unigolyn sydd wedi ymroi’n ddiflino i hyrwyddo’r diwydiant hanfodol hwn a chefnogi ei gyd-ffermwyr.”
Ychwanegodd Mr Roger Evans, Cadeirydd Cymdeithas yr Helwyr a’r Siroedd Unedig: “Mae Cymdeithas Amaethyddol a Helwyr y Siroedd Unedig yn falch o barhau â’n partneriaeth gyda Undeb Amaethwyr Cymru wrth anrhydeddu unigolion nodedig sy’n asgwrn cefn ein cymuned wledig. Mae’r wobr hon yn dyst i’r gwaith caled a’r ymroddiad sy’n gyrru’r sector amaethyddol yn Sir Gâr ac edrychwn ymlaen at ddathlu cyfraniad unigolyn arall sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’n diwydiant.”
Dylai enwebiadau fod ar ffurf llythyr neu ddyfyniad yn rhoi manylion llawn am waith a chyfraniad yr enwebai a dylid eu hanfon drwy e-bost at swyddfa Undeb Amaethwyr Cymru Caerfyrddin sef

