Undeb Amaethwyr Cymru i gynnal Sioe Deithiol ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Bydd Undeb Amaethwyr Cymru yn cynnal cyfres o un ar ddeg o ddigwyddiadau ledled Cymru i gyflwyno gwybodaeth i ffermwyr am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) a'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael gan yr Undeb i’w cefnogi.
Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn dechrau ar 1 Ionawr 2026. Hwn fydd y newid mwyaf arwyddocaol ym mholisi amaethyddol Cymru ers blynyddoedd. Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau ledled Cymru er mwyn sicrhau bod ffermwyr yn barod i wynebu’r newidiadau a'r heriau sydd o'u blaenau.
Mewn cyfres o gyfarfodydd agored ar gyfer ffermwyr a thir feiddianwyr fe fydd staff yr Undeb yn canolbwyntio ar ddarparu canllawiau clir ac ymarferol ar agweddau allweddol o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, gan gynnwys y strwythur talu newydd a’r modd y gall ffermydd gymhwyso ar gyfer y cynllun. Fe fyddem hefyd yn trafod disgwyliadau’r Undeb o'r Cynllun.
Wedi'i gyflwyno gan Adran Bolisi’r Undeb a’r Swyddogion Sir lleol, bydd y digwyddiadau yn cynnig cyfle i ffermwyr ofyn cwestiynau am y Cynllun, y broses drawsnewid a'r ffordd y bydd y Taliad Sylfaenol (BPS) hanesyddol yn cael ei leihau'n raddol.
Bydd y digwyddiadau hefyd yn gyfle i Undeb Amaethwyr Cymru amlinellu ein gwasanaethau cymorth er mwyn cynorthwyo ffermwyr gyda'r Cynllun newydd. Bydd y gwaith hwn yn adeiladu ar saith degawd o brofiad yr Undeb o gefnogi ffermwyr Cymru trwy waith ein staff arbenigol sy’n gweithio o swyddfeydd ym mhob rhan o Gymru.
Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman: "Mae'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cynrychioli newid aruthrol i'n diwydiant ac mae'n ddealladwy y bydd gan lawer o ffermwyr gwestiynau am y dyfodol.
Bydd y Cynllun hwn yn wahanol i'r hyn yr ydym wedi'i ystyried yn hanesyddol fel cymorth fferm uniongyrchol, a thros y blynyddoedd diwethaf mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi gweithio’n ddiflino er mwyn cael cynllun fydd yn gallu gweithio i'n haelodau a ffermwyr Cymru.
Gyda ffermwyr nawr ar groesffordd, bydd y digwyddiadau hyn yn darparu cyfle i ddeall yr opsiynau sydd ar gael. A ydynt am ddewis ymuno â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy neu parhau gyda’r Taliad Sylfaenol fydd yn lleihau dros gyfnod? Dyma gyfle i ffermwyr ofyn cwestiynau a chael dealltwriaeth o sut y gall y cynllun newydd effeithio dyfodol eu busnesau."
Ychwanegodd Prif Weithredwr Grŵp Undeb Amaethwyr Cymru, Guto Bebb: “Wrth i Undeb Amaethwyr Cymru ddathlu 70 mlynedd o wasanaethu ffermwyr Cymru ‘rydym yn ymfalchïo yn y gwaith di-flino da ni’n wneud i gefnogi aelodau ledled Cymru.
"Yn ogystal â chanolbwyntio ar y Cynllun newydd, bydd y cyfarfodydd hyn yn rhoi cyfle i amlinellu’r cymorth ymarferol gall ein staff sirol ymroddedig ei gynnig i gefnogi busnesau amaethyddol.
"O ddeall y rheolau newydd i gwblhau’r gwaith papur angenrheidiol, mae ein rhwydwaith o swyddfeydd lleol a staff profiadol yr Undeb yn ein rhoi mewn sefyllfa unigryw i gefnogi ffermwyr p’un a ydynt yn dewis trosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy neu barhau â’r Cynllun Talu Sylfaenol fydd yn lleihau i ddim dros bedair blynedd.”
Nododd Pennaeth Polisi Undeb Amaethwyr Cymru, Gareth Parry: “Dros y blynyddoedd diwethaf mae swyddogion a staff Undeb Amaethwyr Cymru wedi buddsoddi adnoddau ag amser er mwyn lobïo a herio Llywodraeth Cymru er mwyn trio sicrhau Cynllun ymarferol ar gyfer dyfodol llewyrchus a chynaliadwy ar gyfer ein ffermydd lleol a chynhyrchiant bwyd yng Nghymru.
"Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, rydym wedi mynychu dros 60 o gyfarfodydd a chyfanswm o dros 300 awr o drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru. Mae hyn wedi arwain at fuddugoliaethau allweddol i ffermwyr Cymru gan gynnwys gostyngiad yn nifer y Camau Gweithredu Cyffredinol, eithriadau allweddol i denantiaid a dileu’r Rheol Cynllun gorchudd coed 10% oedd yn hollol anymarferol.
"O Fôn i Fynwy, o Benfro i Glwyd, bydd y cyfarfodydd hyn yn rhoi dealltwriaeth i ffermwyr o’r opsiynau a’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt.”
Bydd cyfle gan y rhai sy’n mynychu’r cyfarfodydd u i siarad yn uniongyrchol â staff Undeb Amaethwyr Cymru a’r swyddogion lleol yn ogystal â rhwydweithio â ffermwyr eraill yn eu hardal.
Dyddiadau a lleoliadau isod.
- Brycheiniog a Maesyfed - Pafiliwn Undeb Amaethwyr Cymru, Llanfair ym Muallt, 23/09/2025, 19:00
- Sir Drefaldwyn - Elephant & Castle, Y Drenewydd, 24/09/2025, 19:30
- Ynys Môn - Canolfan CFfI, Maes Sioe Ynys Môn, 25/09/2025, 19:30
- Meirionnydd - Clwb Rygbi Dolgellau, 30/09/2025, 19:30
- Sir Benfro - Neuadd Goffa Ffordd Clarbeston, SA63 4AA, 01/10/2025, 11:00
- Caerfyrddin - Marchnad Gaerfyrddin, 01/10/2025, 19:30
- Dinbych a Fflint - Ocsiwn Ffermwyr Rhuthun, 06/10/2025, 19:30
- Ceredigion - Clwb Rygbi Aberaeron, 07/10/2025, 19:30
- Caernarfon - Glynllifon, 08/10/2025, 19:30
- Gwent - Marchnad Raglan, 09/10/2025, 19:30
- Morgannwg - Clwb Rygbi Pencoed, 16/10/2025, 19:00

