CONTACT

Undeb Amaethwyr Cymru yn croesawu adroddiad ASau ar fewnforion cig anghyfreithlon

Undeb Amaethwyr Cymru yn croesawu adroddiad ASau ar fewnforion cig anghyfreithlon

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu adroddiad gan Aelodau Seneddol sy’n tynnu sylw at y peryglon difrifol sy’n gysylltiedig â mewnforion cig anghyfreithlon, ac wedi galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau pendant i ddiogelu ffermio, iechyd y cyhoedd a’r economi ehangach.

Mae adroddiad Pwyllgor Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (EFRA) San Steffan yn rhybuddio am “niferoedd mawr a chynyddol” o gig anghyfreithlon sy’n dod i mewn i’r DU trwy borthladdoedd, meysydd awyr a Thwnnel y Sianel. Mae’r adroddiad yn disgrifio’r sefyllfa fel un “annerbyniol”, gan nodi diffyg data clir, gorfodaeth gwan ar y ffin, a’r risg uchel y gallai cynhyrchion o’r fath achosi clefydau anifeiliaid difrifol.

Mae’r adroddiad yn rhoi enghreifftiau syfrdanol, gan gynnwys mochyn cyfan wedi’i stwffio i mewn i gês dillad, ac yn codi pryderon ynghylch yr adnoddau cyfyngedig sydd ar gael i awdurdodau iechyd porthladdoedd a Llu’r Ffiniau i atal mewnforion peryglus. Mae hefyd yn pwysleisio’r gost economaidd bosibl o reolaeth ddiofal, gan nodi bod un achos o glwy’r traed a’r genau yn yr Almaen eleni wedi costio biliwn ewro i’r wlad honno.

Yn eu casgliad, mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno cynllun clir i ddirwyo ac erlyn troseddwyr a smyglwyr difrifol, i sefydlu strategaeth genedlaethol ar gyfer mynd i’r afael â smyglo cynnyrch sy’n tarddu o anifeiliaid, ac i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r risgiau i iechyd anifeiliaid a’r rheolau ar fewnforion personol.

Dywedodd Is-lywydd Rhanbarthol Undeb Amaethwyr Cymru, Alun Owen: “Mae’r adroddiad hwn yn cadarnhau’r hyn y mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi bod yn ei rybuddio ers amser maith – bod mewnforion cig anghyfreithlon yn peri bygythiad sylweddol i ffermio Cymru, iechyd y cyhoedd ac economi’r DU. 

Mae ffermwyr ledled Cymru yn gweithio’n ddiflino i gynnal safonau uchel o ran iechyd anifeiliaid, diogelwch bwyd ac olrheinedd. Mae’n annerbyniol ac yn beryglus fod y llif hwn o gig anghyfreithlon yn parhau i danseilio’r ymdrechion hynny ac yn peryglu cyfanrwydd ein cadwyn fwyd.”

Ychwanegodd Swyddog Polisi Undeb Amaethwyr Cymru, Elin Jenkins: “Gallai lledaeniad clefydau anifeiliaid trwy fewnforion o’r fath gostio biliynau i economi’r DU, dinistrio cymunedau gwledig a bygwth ein diogelwch bwyd. Ac eto, bob dydd mae cynnyrch anghyfreithlon yn llithro trwy’n porthladdoedd. 

Ni all Llywodraeth y DU barhau i eistedd ar eu dwylo, ac mae’n hanfodol eu bod yn gweithredu ar yr argymhellion hyn, yn cryfhau rheolau gorfodaeth, ac yn darparu’r arweinyddiaeth a’r adnoddau i fynd i’r afael â’r bygythiad hwn.”

Bydd Maniffesto Senedd 2026 Undeb Amaethwyr Cymru, a gyhoeddir yn ddiweddarach y mis hwn, yn atgyfnerthu’r alwad ar Lywodraeth Cymru i weithio’n agos gyda Llywodraeth y DU a rhanddeiliaid allweddol er mwyn dwysáu’r ymdrechion i atal ac atafaelu mewnforion cig anghyfreithlon sy’n bygwth iechyd y cyhoedd, lles anifeiliaid a bioamrywiaeth.

Newyddion Diweddaraf

Cysylltwch â ni

Ffôn : 01970 820820

Ebost : post@fuw.org.uk

Cyfryngau Cymdeithasol

  • fas fa-x
  • fab fa-facebook-f
  • fab fa-instagram
Image