CONTACT

Anrhydeddu Dei Davies, ffermwr llaeth o Sir y Fflint, fel Aelod Oes Undeb Amaethwyr Cymru

Anrhydeddu Dei Davies, ffermwr llaeth o Sir y Fflint, fel Aelod Oes Undeb Amaethwyr Cymru

Mae Dei Davies, ffermwr llaeth amlwg o Sir y Fflint, wedi derbyn yr anrhydedd o gael ei benodi’n Aelod Oes o Undeb Amaethwyr Cymru yn dilyn cyfarfod diweddar o Gyngor yr Undeb. Mae’r cydnabyddiaeth hon yn tystio i’w ddegawdau o wasanaeth ffyddlon i amaethyddiaeth Cymru, yn enwedig y sector llaeth.

Ganwyd a magwyd Dei ym Metws-yn-Rhos, Conwy, lle y datblygodd gariad at amaethyddiaeth o oedran ifanc. Gadawodd yr ysgol yn bymtheg oed i weithio ar fferm laeth leol, cyn mynd ymlaen i astudio yng Ngholeg Llysfasi yn 1970. Ymhen blwyddyn, daeth yn rhan o’r garfan gyntaf o fyfyrwyr yng Ngholeg Amaethyddol Cymru, Aberystwyth.

Yn ystod ei astudiaethau, treuliodd gyfnod yn gweithio i Mr Thomas Rees yng Nglasfryn Fawr, Pwllheli – profiad daniodd ei ddiddordeb yn Undeb Amaethwyr Cymru. Ym 1974, ehangodd ei weledigaeth amaethyddol ymhellach wrth dreulio chwe mis ar fferm laeth yn Seland Newydd. Wedi dychwelyd penodwyd ef yn rheolwr fferm yng Nglasfryn Fawr, gan ymgartrefu gyda’i wraig Heulwen a’u plant, Rhys a Catrin.

Ym 1983, symudodd y teulu i Brook Farm, Saltney, fel tenantiaid fferm gyngor gan symud ddegawd yn ddiweddarach i Moor Farm, Treffynnon, lle bu’r teulu’n ffermio buches Friesian lwyddiannus. Bellach mae Moor Farm yn cael ei redeg gan eu mab Rhys, cyn-ddarlithydd yng Ngholeg Llysfasi, tra bod Dei a Heulwen wedi ymddeol i fyw yng Nghaerwys.

Ymunodd Dei ag Undeb Amaethwyr Cymru ym 1983, ar ddechrau ei denantiaeth yn Brook Farm. Ers hynny, mae wedi bod yn llais blaenllaw dros ffermwyr llaeth, gan wasanaethu am dri thymor fel Cadeirydd Pwyllgor Llaeth yr Undeb ac fel Cadeirydd Sir y Fflint.

Daw ei benodiad yn Aelod Oes yn dilyn marwolaeth y diweddar Lorraine Howells, aelod dylanwadol o’r Undeb, ym mis Hydref 2024.

Wrth ymateb i’r penodiad dywedodd Dei: “Mae’n fraint cael fy ethol yn Aelod Oes o Undeb Amaethwyr Cymru. Mae amaethyddiaeth, yn enwedig y sector llaeth, wedi bod yn greiddiol i’m bywyd, ac mae’r gwerthoedd a’r gwersi a ddysgais wedi siapio pwy ydw i.

"Gydag Undeb Amaethwyr Cymru yn dathlu pen-blwydd yn 70 oed eleni, mae’r gydnabyddiaeth hon yn arbennig o arwyddocaol. ‘Rwyf bob amser wedi credu fod ffermwyr yn gryfach pan fyddwn yn sefyll gyda’n gilydd – ac mae’r Undeb yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau dyfodol ein ffermydd teuluol a’r cymunedau gwledig sy’n dibynnu arnynt.”

Wrth ei longyfarch, dywedodd cyn-Lywydd ac Aelod Oes Undeb Amaethwyr Cymru, Gareth Vaughan OBE: “Ers degawdau, mae Dei wedi bod yn aelod ymroddedig a pharchus iawn o Undeb Amaethwyr Cymru. Mae ei ymrwymiad, ei ddycnwch a’i angerdd dros y diwydiant llaeth wedi bod yn ysbrydoliaeth. Mae’r anrhydedd hwn yn haeddiannol iawn.”

Newyddion Diweddaraf

Cysylltwch â ni

Ffôn : 01970 820820

Ebost : post@fuw.org.uk

Cyfryngau Cymdeithasol

Image