fas fa-person-walking-dashed-line-arrow-right

JOIN

CONTACT

Sut fedrwn ni hyrwyddo brand Cymru?

Sut fedrwn ni hyrwyddo brand Cymru?

Cynhaliodd cangen Meirionnydd Undeb Amaethwyr Cymru ei Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol yng Nghlwb Rygbi Dolgellau ddiwedd Ionawr, gyda phanel arbenigol yn trafod ffyrdd o gryfhau a hyrwyddo brand Cymru ar gynnyrch amaethyddol.

Roedd y panel yn cynnwys Wyn Williams, Cyfarwyddwr Ffermwyr Undeb Amaethwyr Cymru; Emlyn Roberts, Aelod o Fwrdd Hybu Cig Cymru a ffermwr o Feirionnydd; ac Elain Gwilym, Ysgrifennydd Cymdeithas Defaid Mynydd Cymru. Cadeiriwyd y drafodaeth gan Lywydd UAC Meirionnydd, Siôn Ifans.

Trafodwyd ystod eang o faterion, gan gynnwys yr angen i hyrwyddo cig oen a gwlân Cymru mewn modd cryfach a mwy effeithiol, ynghyd â phwysigrwydd hanfodol sector amaethyddol ffyniannus wrth gynnal economi, cymunedau a hunaniaeth ddiwylliannol cefn gwlad Cymru.

Dywedodd Heledd Teleri Williams, Swyddog Gweithredol Sirol Undeb Amaethwyr Cymru Meirionnydd: “Rydym yn hynod ddiolchgar i’r panelwyr am rannu eu harbenigedd a’u mewnwelediadau gwerthfawr, a ysgogodd drafodaeth fywiog a chadarnhaol ar bwysigrwydd hyrwyddo cynnyrch Cymru a sicrhau dyfodol cynaliadwy i gefn gwlad Cymru.”

Newyddion Diweddaraf

Cysylltwch â ni

Ffôn : 01970 820820

Ebost : post@fuw.org.uk

Cyfryngau Cymdeithasol

  • fas fa-x
  • fab fa-facebook-f
  • fab fa-instagram
Image