Gweinyddwr Yswiriant - Morgannwg / Gwent

Gwasanaethau Yswiriant FUW yw un o brif froceriaid yswiriant Cymru. Trwy weithio’n agos gyda phanel o gwmnïau yswiriant amaethyddol a masnachol arbenigol, mae modd i ni dargedu ystod eang o bolisiau sydd ar gael yn y farchnad gan sicrhau gwerth am arian i’n cwsmeriaid. ‘Rydym wedi meithrin enw da am gynnig gwasanaeth gwybodus a phroffesiynol i gwsmeriaid amaethyddol, cwmnïau bychain, masnachol a chwsmeriaid yswiriant personol ar draws Cymru.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog ac yn ddelfrydol profiad o weithio yn y maes gwasanaethau cwsmeriaid, yswiriant neu wasanaethau ariannol. Byddwch yn gyfrifol am gysylltu wyneb yn wyneb, ar lafar ac yn ysgrifenedig gyda chwsmeriaid presennol a newydd Gwasanaethau Yswiriant FUW.

Fe fyddwch yn ymwneud a phrosesu ac ymdrin â gweithrediadau polisïau yswiriant yn ogystal â dyletswyddau swyddfa cyffredinol.

Pa un ai ydych chi’n berson sydd â phrofiad o’r maes yswiriant neu’n chwilio am her newydd mewn maes newydd, cysylltwch â ni.

Math o swydd: Llawnamser, Parhaol

Cyflog: Dechrau £18,000 y flwyddyn

Tâl ychwanegol:

  • Cynllun bonws
  • Bonws chwarterol
  • Cyfraniad at bensiwn

Trefn gweithio: Llun i Gwener

Iaith: Mae bod yn rhugl yn y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn fantais bendant ar gyfer y swydd hon

I wneud cais, anfonwch eich CV a'ch llythyr eglurhaol at This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.