CONTACT
Undeb Amaethwyr Cymru a'r Heddlu yn tynnu sylw at fesurau llymach ar ymosodiadau ar dda byw
Wrth i’r tymor wyna ddechrau, trefnodd Undeb Amaethwyr Cymru gyfarfod ar y cyd â chynrychiolwyr o Heddlu Dyfed-Powys a Chydlynydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt Cymru i drafod deddfwriaeth newydd a ddaw i rym yn ddiweddarach y mis hwn gyda’r bwriad i amddiffyn ffermwyr rhag ymosodiadau cŵn ar dda byw.
O dan y Bil Cŵn (Diogelu Da Byw) (Diwygio) 2025, rhoddir pwerau ychwanegol i’r heddlu feddiannu a chadw cŵn sy’n cael eu hamau o ymosod ar dda byw. Bydd swyddogion hefyd yn gallu gwneud cais am warantau i fynd i mewn i eiddo lle mae sail resymol i gredu bod ci sy’n gysylltiedig â throsedd yno, gan gryfhau eu gallu i gasglu tystiolaeth a chefnogi erlyniadau.
O 18 Mawrth 2026 ymlaen, bydd y Ddeddf hefyd yn dileu’r uchafswm blaenorol o £1,000 ar ddirwyon am droseddau poeni da byw yng Nghymru a Lloegr. Bydd hyn yn agor y drws i ddirwyon diderfyn, gan greu rhwystr llawer cryfach yn erbyn perchnogaeth anghyfrifol o gŵn.
Cynhaliwyd y cyfarfod ym Mryn Gido, Llanarth, Ceredigion – cartref is-lywydd rhanbarthol Undeb Amaethwyr Cymru, Anwen Hughes. Yn ystod y drafodaeth, rhannodd Anwen ei phrofiad personol o ymosodiadau cŵn ar ei defaid, gyda’r digwyddiad mwyaf diweddar ym mis Ebrill y llynedd pan laddwyd tri oen.
Wrth fyfyrio ar y profiad, pwysleisiodd yr effaith ddofn y gall digwyddiadau o’r fath gael ar deuluoedd fferm – nid yn unig o ran y colledion ariannol uniongyrchol, ond hefyd y straen emosiynol a meddyliol sylweddol sy’n dilyn.
Ymhlith y rhai a oedd yn bresennol roedd Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, Ifan Charles; Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn; ac aelodau o Dîm Troseddau Gwledig yr heddlu. Rhoddodd y cyfarfod gyfle gwerthfawr i drafod y ffordd orau o godi ymwybyddiaeth o’r ddeddfwriaeth newydd ymhlith ffermwyr a’r cyhoedd yn ehangach.
Roedd Cydlynydd Troseddau Gwledig a Bywyd Gwyllt Cymru, Rob Taylor, hefyd yn bresennol, gan gynnig mewnwelediad yn seiliedig ar flynyddoedd o ymgyrchu dros fesurau cryfach i fynd i’r afael ag ymosodiadau cŵn ar dda byw, yn enwedig yn ystod ei rôl ddiweddar fel Arweinydd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion Heddlu’r DU ar gyfer y mater hwn.
Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Anwen Hughes, is-lywydd rhanbarthol Undeb Amaethwyr Cymru:
“Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi ymgyrchu ers amser maith am bwerau heddlu a chyfreithiol cryfach i fynd i’r afael ag ymosodiadau cŵn ar dda byw. Felly, rydym yn croesawu cyflwyno’r ddeddfwriaeth hir-ddisgwyliedig yma fydd – gobeithio – yn gam pwysig ymlaen o ran amddiffyn da byw, cefnogi ffermwyr a chryfhau cymunedau gwledig.
“Yn y cyfamser, mae’n hanfodol bod perchnogion cŵn yn ymddwyn yn gyfrifol pan fyddant allan ger caeau a da byw. Ni ddylai neb gamfarnu beth all ci ei wneud; mae gan hyd yn oed y cŵn mwyaf cyfeillgar reddf naturiol i erlid, ac mae’n allweddol bod perchnogion yn gweithredu’n gyfrifol pan fyddant yng nghefn gwlad.”
Ychwanegodd Cydlynydd Troseddau Gwledig a Bywyd Gwyllt Cymru, Rob Taylor:
“Mae ymosodiadau gan gŵn ar dda byw yn parhau i fod yn broblem ddifrifol i’n cymunedau ffermio, gydag effeithiau sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i golled ariannol - gan gynnwys straen emosiynol sylweddol i ffermwyr a’u teuluoedd.
“Mae’r ddeddfwriaeth newydd hon yn rhoi pwerau cryfach i’r heddlu a’r llysoedd ymchwilio i ddigwyddiadau a dwyn troseddwyr i gyfrif, gan ymestyn amddiffyniad i anifeiliaid nad oeddent wedi’u cynnwys o dan y Ddeddf flaenorol. Rydym yn gobeithio, ochr yn ochr â’n cwrs perchnogaeth gyfrifol o gŵn, y bydd hyn o gymorth i leihau nifer yr achosion ac yn amddiffyn ein cymunedau gwledig yn well.”
Cynhaliwyd y cyfarfod cyn lansio Strategaeth a Chynllun Cyflawni Troseddau Gwledig a Bywyd Gwyllt newydd Heddlu Dyfed-Powys ar gyfer 2026–2030, sy’n nodi sut y bydd yr heddlu’n atal, lleihau ac ymateb i droseddau gwledig a bywyd gwyllt ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.

