CONTACT

Yr Undeb a fi: Swancott Pugh

Yr Undeb a fi: Swancott Pugh

Ein Pennaeth Cyfathrebu, Aled Morgan Hughes fu’n hel atgofion gydag un o Aelodau Oes yr Undeb, Swancott Pugh…

Cefais fy ngeni a’m magu yn Henblas, Llwyngwril, yn unig blentyn. Roedd bod allan ar y fferm yn rhan annatod o’m magwraeth - boed hynny’n dreifio’r tractor neu’n treulio oriau yng nghwmni’r anifeiliaid, gyda’r gwartheg duon yn apelio’n fwy na’r defaid. Mae gennyf atgofion melys o’m mhlentyndod yn Henblas, a ffordd o ffermio sydd bellach wedi hen ddiflannu: arogl olew’r injan ddyrnu, a’r cynnwrf a’r cyfeillgarwch pan fyddai cymdogion yn dod ynghyd adeg y dyrnu, y cneifio neu ladd mochyn.

Es i’r ysgol yn Llwyngwril, ac ymlaen wedyn i Ysgol Ramadeg Tywyn. Er ystyried am gyfnod i fynd ymlaen i astudio yng Ngholeg Radbrook, yn Swydd Amwythig, dewisais aros adref i ffermio, gan weithio cyfochr â’m rhieni yn Henblas.

Wrth aros adref, bûm yn aelod gweithgar o Glwb Ffermwyr Ifanc Bryncrug, gan fwynhau’r cyfleoedd i goginio, eisteddfota a dawnsio gwerin. Trwy’r cymdeithasu y deuthum i gwrdd â  Evan, ffermwr mynydd o Fuchesydd, Llanfachreth. Priodasom ym 1962, gan ffermio yn Henblas a magu tri o blant yno.

Daeth fy mhriodas ag Evan â mi i gysylltiad ag Undeb Amaethwyr Cymru. Yn Dori rhonc, aelod o’r NFU bu fy Nhad; i’r gwrthwyneb, roedd Evan a’i dad wedi bod yn aelodau o’r Undeb ers ei ddyddiau cynnar, er na fu naill yn weithgar iawn gyda’r mudiad.

Sbardunodd fy mhrofiad gyda’r Ffermwyr Ifanc ddiddordeb pellach yn Sefydliad y Merched, gan gael fy ethol yn aelod o Bwyllgor Gweithredol Meirionnydd yn 1976, ac yn Llywydd cangen Llwyngwril yn 1979.

Yn ystod yr un cyfnod, dechreuwyd arallgyfeirio’r fferm i fyd twristiaeth. Yn 1974 agorwyd busnes gwely a brecwast ar y fferm, ac erbyn 1981 troswyd hen feudy ag adeiladau fferm yn llety hunanarlwyo. Er bod nifer ym Mhen Llŷn eisoes wedi troi at dwristiaeth fel ffynhonnell incwm, prin oedd y diwydiant yn ardal Llwyngwril ar y pryd.

Drwy’r gwaith arallgyfeirio, tyfodd fy niddordeb yn y diwydiant twristiaeth, ac erbyn 1985 cefais y fraint o gynrychioli Meirionnydd ar Bwyllgor Twristiaeth ac Arallgyfeirio’r Undeb, gan deithio’n rheolaidd i Aberystwyth ar gyfer cyfarfodydd - ymhell cyn dyddiau Zoom! Yn 1987 fe’m penodwyd yn gadeirydd, gan ddod i gynrychioli’r Undeb ar bwyllgorau’r Bwrdd Twristiaeth hefyd.

Erbyn 1992, i’m syndod mawr, cefais fy ethol yn Is-Lywydd yr Undeb. Prin oedd y merched mewn rolau blaenllaw o fewn y mudiad bryd yno, ac rwy’n cofio Mrs Davies o Sir Drefaldwyn yn dod ataf ar ddiwrnod yr etholiad gan ddweud, “fe gewch chi’r parch mwyaf gan y dynion os eich ethol” - ac felly y bu. Rwy’n cofio gyda chynhesrwydd y cwmni a’r cyfeillgarwch a feithrinwyd gyda chymeriadau blaenllaw megis Alcwyn James a Myrddin Evans.

Bu’r cyfnod fel Is-Lywydd yn un ddigon prysur a heriol, gan gyd-fynd ag argyfwng BSE. Rwy’n cofio’n bod yn Llundain ymhlith 300 o ffermwyr o Gymru - dynion yn bennaf - yn trafod pryderon dybryd y diwydiant. Mae geiriau gwleidydd Llafur o’r Cymoedd yn dal i atseinio yn fy nghof: “Don’t you let what’s happened to the coal industry happen to you,” cyn i’r neuadd ffrwydro mewn canu ysgytwol o “Mae Hen Wlad fy Nhadau.”

Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd y berthynas rhwng yr Undeb a’r NFU ei bortreadu’n aml fel un o anghydweld, er mai’r wasg oedd yn corddi yn bennaf. Rwy’n cofio cytuno i gael fy nghyfweld yn Y Sioe gan un o gyflwynwyr S4C ar yr amod na fyddai cwestiynau’n cael eu holi am y berthynas rhwng y ddwy Undeb - ond dyna fu’r cwestiwn cyntaf pan ddechreuodd y camera recordio! Yn y bôn, gwnaeth y wasg ormod o hel bwganod, a gwbl gyffredin oedd hi ar draws Ewrop i gael mwy nag un undeb yn cynrychioli llais ffermwyr.

Yn dilyn fy nghyfnod fel Is-Lywydd, camais yn ôl ychydig o’r gwaith ar lefel genedlaethol, gan barhau i gefnogi’r Undeb yn lleol, gan gael fy ethol yn Llywydd Meirionnydd rhwng 1998 a 2000. Yn 2014 cefais yr anrhydedd o’m mhenodi yn Aelod Oes o’r Undeb.

Drwy fy nghyfnod a’m gwaith gyda’r Undeb, daeth yn amlwg pa mor unigryw yw ffermydd Cymru o ran eu maint, eu natur a’u diwylliant o’u cymharu â’r rheini yn Lloegr. Yn sgil hynny, deallais mor hollbwysig yw cael Undeb sydd yma i gynrychioli buddiannau penodol ffermwyr Cymru, a rhoi llais iddynt ar eu telerau eu hunain.

Newyddion Diweddaraf

Cysylltwch â ni

Ffôn : 01970 820820

Ebost : post@fuw.org.uk

Cyfryngau Cymdeithasol

  • fas fa-x
  • fab fa-facebook-f
  • fab fa-instagram
Image