CONTACT
Undeb Amaethwyr Cymru yn amlygu ei blaenoriaethau i ymgeiswyr Plaid Cymru Sir Gâr
Wrth i etholiad y Senedd nesáu, cynhaliodd Undeb Amaethwyr Cymru gyfarfod ag ymgeiswyr Plaid Cymru dros etholaeth Sir Gaerfyrddin i drafod blaenoriaethau allweddol yr Undeb ar gyfer dyfodol amaethyddiaeth a chymunedau gwledig Cymru.
Cafodd y cyfarfod ei gynnal ar fferm Cadeirydd Undeb Amaethwyr Cymru Sir Gaerfyrddin, Huw James, ffermwr trydydd genhedlaeth sy’n rhedeg menter cig eidion ger Llanwinio wedi ôl cyfnod yn y sector laeth. Hefyd yn cynrychioli’r FUW oedd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman, Cadeirydd Pwyllgor Iechyd Anifeiliad a Llaeth yr Undeb, Gerwyn Williams ac aelod oes yr Undeb, Brian Thomas.
Yn ystod y trafodaethau gyda’r ymgeiswyr – Cefin Campbell, Nerys Evans, Adam Price a Mari Arthur – pwysleisiodd Undeb Amaethwyr Cymru yr angen am sefydlogrwydd drwy’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ynghyd â chyllid teg a digonol i’r sector amaeth. Amlygwyd hefyd bwysigrwydd dull cymesur, sy’n seiliedig ar dystiolaeth a dealltwriaeth o risg wrth weithredu rheoliadau ansawdd dŵr.
Bu TB buchol yn bwnc canolog i’r drafodaeth, gyda’r Undeb yn tynnu sylw at effaith economaidd ac emosiynol yr aflwydd ar deuluoedd ffermio. Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn galw am strategaeth gyfannol, wyddonol ei sail er mwyn mynd i’r afael â phob ffynhonnell haint tra’n sicrhau bod ffermydd teuluol yn parhau’n hyfyw. Pwysleisiwyd hefyd yr angen am gyllid digonol a system iawndal deg.
Yn dilyn yr ymweliad, dywedodd Huw James, Cadeirydd Undeb Amaethwyr Cymru yn Sir Gaerfyrddin:
“Roedd hi’n bleser croesawu’r ymgeiswyr i Dyddyn a chael trafodaeth am yr heriau sy’n wynbeu ffermydd teuluol yma yn Sir Gaerfyrddin.
Mae ansicrwydd yn parhau i wynebu ffermwyr – o newidiadau i gynlluniau cymorth i effaith ddinistriol TB buchol – ac mae angen polisïau clir sy’n cynnig sefydlogrwydd a gweledigaeth hirdymor.
Mae ffermio’n ganolog, nid yn unig i gynhyrchu bwyd ond i fywyd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ein cymunedau gwledig. Mae cefnogi’r sector yn golygu cefnogi’r cymunedau hynny.”
Ychwanegodd Ian Rickman, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru:
“Rydym yn ddiolchgar i ymgeiswyr Plaid Cymru am eu hamser, ac i Huw a Meryl am y croeso cynnes a’r cyfle i amlygu’r heriau niferus sy’n wynebu ffermwyr Cymru.
Gyda’r 7 o Fai yn brysur agosáu , byddwn yn parhau i ymgysylltu â phob plaid er mwyn sicrhau bod blaenoriaethau’r sector yn cael eu clywed a’u cydnabod.”
Bydd etholiad y Senedd eleni yn gweld nifer y seddi’n cynyddu o 60 i 96. Bydd etholaeth newydd Sir Gaerfyrddin - sy’n cyfuno etholaethau San Steffan presennol Caerfyrddin a Llanelli - yn ethol chwe Aelod o’r Senedd drwy system bleidleisio gyfrannol.

