CONTACT

Undeb Amaethwyr Cymru yn croesawu Cod Ymarfer Tenantiaid

Undeb Amaethwyr Cymru yn croesawu Cod Ymarfer Tenantiaid

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu cyhoeddiad o God Ymarfer newydd ar gyfer Landlordiaid a Thenantiaid Amaethyddol Cymru, fel cam tuag at wella cysylltiadau a chynaliadwyedd hirdymor tenantiaid o fewn y sector amaethyddol.

Daw cyhoeddi'r Cod Ymarfer yn dilyn proses gyd-weithio dan arweiniad Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys Undeb Amaethwyr Cymru.

Mae ffermwyr tenant yn rhan hanfodol o’r sector amaeth yng Nghymru gyda tua traean o holl dir fferm y wlad yn cael ei ffermio drwy gytundebau tenantiaeth.    Mae’r sector yn darparu cyfleoedd i newydd-ddyfodiaid na fyddai gyda’r cyfalaf neu gysylltiadau teuluol i brynu tir.  Y mae trefniadau tenantiaeth hefyd yn galluogi busnesau fferm sefydledig i ehangu'n hyblyg.  Ar yr un pryd, mae trefniadau tenantiaeth yn caniatáu i berchnogion tir gadw incwm o'u tir gan sicrhau ei fod yn parhau i gael ei ffermio'n weithredol - hyn eto’n cefnogi economïau gwledig, ein cymunedau a'r iaith Gymraeg.

Mae'r adroddiad yn cydnabod, er gwaethaf ei bwysigrwydd, y gall y sector denantiaeth wynebu heriau o ran cyfathrebu, tryloywder a thegwch rhwng landlordiaid a thenantiaid. Mewn ymateb, mae'r Cod Ymarfer yn nodi fframwaith gwirfoddol sydd â'r nod o feithrin cysylltiadau gweithredol cryfach ac adeiladol ar draws y sector.

Yn ei hanfod, mae'r Cod wedi'i seilio ar dair egwyddor allweddol: eglurder, cyfathrebu a pharch at ein gilydd. Mae'n pwysleisio'r angen am sgwrs agored, disgwyliadau wedi'u diffinio'n glir, yr angen i ddatrys problemau wrth gydweithredu gan gydnabod y gallai fod gan landlordiaid a thenantiaid fuddiannau gwahanol ond cyfiawn.

Mae'r adroddiad yn gwneud cyfres o argymhellion sy'n cynnwys pob cam o denantiaeth. Mae'r rhain yn cynnwys sicrhau tryloywder a datgeliad llawn wrth gynnig tenantiaethau, annog trafodaethau cynnar ac adeiladol ar adolygiadau ac adnewyddiadau rhent ac hyrwyddo ymgysylltiad rheolaidd rhwng landlordiaid a thenantiaid drwy gydol oes y cytundeb. Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd cytuno a nodi’r cyfrifoldebau ar gyfer atgyweiriadau, gwelliannau a buddsoddiad, yn ogystal â chefnogi mynediad tenantiaid at gynlluniau arallgyfeirio ac amgylcheddol lle bo'n briodol.

Yn ogystal, mae'r Cod yn annog dwy ochr unrhyw gytundeb i fynd i'r afael ag anghydfod mewn modd amserol a chymesur, gan ddefnyddio prosesau datrys anghydfodau amgen lle bo modd i leihau costau a chynnal y berthynas. Disgwylir i ymgynghorwr proffesiynol hefyd chwarae rhan allweddol wrth hyrwyddo a chynnal egwyddorion y Cod.

Er nad yw'r Cod yn cyflwyno rhwymedigaethau cyfreithiol newydd, y nod yw codi safonau ymddygiad ar draws y diwydiant a symud y tu hwnt i'r gofynion statudol. Drwy hyrwyddo tegwch, tryloywder a chydweithrediad, mae'n ceisio sicrhau dyfodol mwy gwydn a blaengar i’r sector ffermio tenant sy’n hanfodol i amaethu yng Nghymru.

Wrth drafod cyhoeddi’r adroddiad, dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman: “Mae ffermwyr tenant yn chwarae rhan allweddol yng ngwead strwythur ffermydd teuluol Cymru, ein cymunedau gwledig a’r economi’n ehangach. Fodd bynnag, dros y blynyddoedd mae llawer o denantiaid wedi wynebu heriau wrth sicrhau cytundebau teg, sefydlogrwydd hirdymor a’r hyder i fuddsoddi yn eu busnesau.

"Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r cyfle i gyfrannu at ddatblygiad y Cod Ymarfer hwn, ac mae cyhoeddi’r fframwaith yma yn gam pwysig tuag at feithrin cysylltiadau tecach, cliriach ac adeiladol rhwng landlordiaid a thenantiaid. Mae’n hanfodol bod yr argymhellion hyn yn gymorth i adeiladu hyder o fewn y sector tenantiaid gan sicrhau y gall ffermwyr tenant barhau i ffynnu fel rhan annatod o’r sector amaeth yng Nghymru.”

Gellir darllen Cod Ymarfer Landlordiaid a Thenantiaid Amaethyddol Cymru yn llawn yma.

Newyddion Diweddaraf

Cysylltwch â ni

Ffôn : 01970 820820

Ebost : post@fuw.org.uk

Cyfryngau Cymdeithasol

  • fas fa-x
  • fab fa-facebook-f
  • fab fa-instagram
Image