45fed Diwrnod Amgylchedd y Byd y Cenhedloedd Unedig: Ffermydd Teuluol Cymru yn ganolog i'r ateb

Gall teuluoedd ffermio chwarae rhan ganolog wrth helpu i gwrdd â heriau amgylcheddol mawr ein hoes, meddai Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) ar y 45fed Diwrnod Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig, yfory (04.06.19).

Wrth siarad o fferm fynydd ei deulu yng ngogledd Eryri, dywedodd Llywydd FUW Glyn Roberts: “Rhaid i bawb a phob busnes, ble bynnag y maent a beth bynnag a wnânt, chwarae rôl wrth fynd i'r afael â'r bygythiadau i'n hinsawdd a'n hamgylchedd.

“Teuluoedd ffermio sydd yn y sefyllfa orau i chwarae rhan ganolog mewn cynnal a gwella cynefinoedd gwerthfawr, gan leihau ein hôl-troed carbon a gwella effeithlonrwydd ffermydd, gan sicrhau ein bod yn parhau i gynhyrchu bwyd o ansawdd ar gyfer poblogaeth gynyddol y byd.”

Mae ffermio eisoes wedi lleihau ei allyriadau nwyon tŷ gwydr 16% ers 1990, sy'n golygu bod y diwydiant bellach yn cyfrannu 65 gwaith yn llai o nwyon tŷ gwydr na ffynonellau an-amaethyddol Cymru. Mae’r defnydd o nitrogen wedi gostwng 55 y cant ers 1990.

“Fel diwydiant rydym wedi ymrwymo i gyflymu ein cyfraniad at Gymru yn dod yn garbon niwtral a gwella amgylchedd Cymru,” dywedodd Mr Roberts. “Mae'r rhan fwyaf o gynhyrchu ynni adnewyddadwy Cymru yn digwydd ar dir ffermio, ac mae'r rhan fwyaf o'r carbon sy'n cael ei storio yn ein coed a'n priddoedd hefyd ar dir fferm, ond mae cymaint mwy y gellir ei wneud.

“Fodd bynnag, byddai polisïau cul neu ddelfrydol, sy’n tanseilio'r fferm deuluol Gymreig yn y pen draw, yn achosi niwed enfawr i'n cymdeithas a'n diwylliant, yn ogystal â'n gallu i ymateb i'r her a gwneud y gwaith sydd angen ei wneud.”

Dywedodd Mr Roberts fod rhai o'r polisïau eithafol sy'n cael eu trafod, fel ail-wylltio, yn adlewyrchiad trist o gyn lleied o ddealltwriaeth sydd gan bobl o fywyd gwledig.

“Efallai na ddylem synnu at gysyniadau mor eithafol o gofio bod tri chwarter poblogaeth y DU bellach yn byw mewn ardaloedd trefol, ond y gwir amdani yw y byddai ail-wylltio yn niweidio ecosystemau sydd eisoes wedi dioddef oherwydd colli anifeiliaid fferm yr oedd rhywogaethau a chynefin yn dibynnu arnynt. Byddai hefyd yn achosi niwed economaidd a diwylliannol i gymunedau sydd wedi dibynnu ar amaethyddiaeth ers miloedd o flynyddoedd.”

Datgelodd 276 o astudiaethau ar yr effeithiau o golli tir fferm a gynhaliwyd yn 2014 gan Stockholm Resilience Centre bod nifer fawr o ardaloedd ddim wedi gweld cynnydd mewn bioamrywiaeth, yn enwedig yn Ewrop.

Mae hyn oherwydd bod tirweddau ffermio traddodiadol yn creu brithwaith o gynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt sy'n diflannu pan fydd ardaloedd yn 'wyllt'.

“Y math hwn o golli cynefinoedd a rhywogaethau yw'r union beth y mae ein haelodau wedi'i weld mewn ardaloedd yng Nghymru lle mae niferoedd da byw wedi cael eu lleihau'n sylweddol drwy reolau cynllun. Mae ymchwil hirdymor a gynhaliwyd ym Mhwllpeiran hefyd yn amlygu effeithiau negyddol dileu ffermio o'r sefyllfa,” meddai Mr Roberts.

“Mae angen i ni ganolbwyntio ar osod cynaliadwyedd amgylcheddol ac ariannol ein ffermydd teuluol wrth wraidd polisïau'r dyfodol,” ychwanegodd.

Diwedd

 

  • Created on .