UAC yn atgoffa ffermwyr bod hi’n ‘iawn i ddweud’ ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd

Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, mae ffermwyr ar draws Cymru yn cael eu hatgoffa bod hi’n ‘iawn i ddweud’ ac mae Undeb Amaethwyr Cymru yn eu hannog i beidio anwybyddu problemau, na’i cuddio rhag eu teuluoedd a'u ffrindiau ac i siarad am eu teimladau personol.

Yn ystod y Sioe Frenhinol ym mis Gorffennaf ymrwymodd UAC i barhau i godi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig ac felly’n adnewyddu'r alwad i’r rhai a allai fod yn dioddef o broblemau iechyd meddwl i ofyn am help.

"Ffocws Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni yw iechyd meddwl o fewn y gweithle a dyna’n union beth yw ffermydd. Yn ein lleoedd gwaith rydym wedi wynebu ambell i gyfnod reit isel yn ystod yn y blynyddoedd diwethaf. TB mewn gwartheg, ansefydlogrwydd prisiau ac ansicrwydd ynghylch ein dyfodol ar ôl Brexit, mae hyn oll yn ychwanegu pwysau ac yn arwain at nifer yn teimlo baich enfawr,” dywedodd Llywydd yr Undeb Glyn Roberts.

"Ond mae'n rhaid i ni dorri'r stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl, felly os ydych chi'n teimlo'n fregus, ewch i siarad â rhywun. Nid yw hynny’n berthnasol am heddiw’n unig, ond bob amser. Mae angen i ffermwyr a theuluoedd amaethyddol barhau i siarad yn agored am eu profiadau ac mae UAC yn annog unrhyw un sy'n poeni am eu hiechyd meddwl nhw neu rywun o’r teulu, i ofyn am gymorth gan y Farming Community Network, Tir Dewi, The DPJ Foundation, Mind Cymru neu Call Help Wales," ychwanegodd Glyn Roberts.