Ymosodiadau ar dda byw yn achosi gofid mawr i ffermwr o Forgannwg

Mae cyfres o ymosodiadau trychinebus ar dda byw wedi arwain at un ffermwr o Forgannwg yn cyrraedd pen ei dennyn.Mae Ben Jones, sy’n rhedeg fferm defaid tenant 65 erw ar gyrion Hensol ym Mro Morgannwg gyda'i wraig Julia, wedi colli bron i bumed o'i stoc oherwydd ymosodiadau c?n.

Treuliodd y cwpwl, sydd â merch pum mis oed, flynyddoedd yn adeiladu eu busnes, ond erbyn hyn maent yn agos i anghofio am y cyfan.Dechreuodd Ben rentu tir yn Nyffryn ac yno lladdwyd dwy ddafad gan gi ac achosodd straen yr ymosodiad i’r rhan fwyaf o'i ddiadell erthylu eu h?yn.

“Roedd llwybr cerdded yn mynd trwy’r cae, ac mae llawer o bobl yn ei ddefnyddio i gerdded eu c?n.  Roedd dod o hyd i'r defaid fel hyn yn drychinebus.  Nid wyf yn deall pam na all y rhai sy'n cerdded yng nghefn gwlad gadw eu c?n ar dennyn. Roedd yr ymosodiadau hyn yn hollol ddiangen," meddai Ben Jones.

I geisio osgoi unrhyw ddigwyddiadau pellach, dechreuodd rentu tir ar denantiaeth flynyddol yn Hensol ym mis Mai 2015 ond ers hynny mae wedi gorfod dioddef tri ymosodiad ar wahân ar ei ddefaid yno.

"Roeddwn i'n meddwl bod y tir yma yn fwy addas oherwydd nad oes hawl dramwy gyhoeddus drwy'r caeau. Felly, gallwch chi ond dychmygu ein siom a’n gofid wrth i ni weld bod set arall o ddefaid wedi cael niwed gan gi.

Tom Jones, South Wales Farm vets,
Julia and Ben Jones with their daughter Jessica
and FUW Senior Policy Officer Dr Hazel Wright.

"Ym mis Gorffennaf eleni, cafodd chwech o'n defaid eu lladd gan gi ac anafwyd wyth arall. Ni thyfodd yr ?yn i bwysau o werth wedyn ac un o'r defaid a laddwyd oedd Texel oeddwn wedi ei phrynu ond pythefnos cyn hynny” meddai Ben.

Roedd y ddafad Texel wedi cael ei dosio a derbyn bolws cyn cael ei lladd gan y ci. Costiodd yr ymosodiad yna'n unig fwy na £1,800, gan gynnwys colli’r defaid, costau’r milfeddyg a chostau gwaredu.

Digwyddodd ymosodiad arall ar ddechrau mis Hydref, a cafodd naw o ddefaid eu lladd ac anafwyd pedair mor ddrwg na ellir eu defnyddio bellach ar gyfer magu.

Pythefnos yn ddiweddarach lladdwyd tair dafad arall ac anafwyd tair yn wael.

"Nid oes modd magu wrth y defaid sydd wedi cael eu hanafu. Felly, rwyf, nid yn unig wedi colli defaid, ond mae’r rhai sydd gyda fi cael eu niweidio cymaint na allaf fagu oddi wrthynt fwyach," meddai Ben.

Digwyddodd yr ymosodiad diweddaraf ar ddydd Mercher Hydref 18, gan ladd tair dafad ac anafu pedair arall, ac mi welodd Ben yr ymosodiad yn digwydd.

"Am ryw reswm, mae'r ymosodiadau bob amser yn digwydd ar ddydd Mercher. Mae'n eithaf anhygoel. Y tro hwn mi welais y ci yn ymosod ar ddafad. Ceisiais ei ddal ond mi redodd i ffwrdd. Llwyddais i dynnu llun ohono ond nid oes gennyf syniad pwy yw ei berchennog na o ble mae wedi dod. Y cyngor a gefais gan yr heddlu yw saethu’r ci ond nid oes gennyf drwydded g?n ac mae'n cymryd 16 wythnos i gael un. Erbyn i’r amser hynny ddod, efallai na fydd gennyf unrhyw ddefaid ar ôl," meddai.

Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Uwch Swyddog Polisi UAC, Dr Hazel Wright: "Mae angen gwell ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd, cofnod o ddigwyddiadau, rheoleiddio tynnach a gwell gorfodaeth er mwyn diogelu busnesau fferm rhag straen ariannol ac emosiynol difrifol.

"Oherwydd ymosodiadau o'r fath, mae busnesau fferm fel un Ben yn colli stoc, mae cynhyrchu'n lleihau oherwydd straen ar yr anifeiliaid, ac mae'n rhaid i ffermwyr ymdopi gyda’u hanifeiliaid yn erthylu ?yn a lloi ac yn ei dro, colli elw o stoc yn y dyfodol.

"Rwy'n annog y rhai sy'n cerdded eu c?n yng nghefn gwlad i roi eu c?n ar dennyn ac mae'n hanfodol hefyd bod ffermwr yn rhoi gwybod i’r heddlu am ddigwyddiadau o'r fath."