Cofiwch nid yw da byw ac anifeiliaid anwes yn hoff o Dachwedd 5ed

Gyda noson tân gwyllt ar y gorwel, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn annog pobl i gofio bod tân gwyllt a llusernau awyr yn aflonyddu da byw ac anifeiliaid anwes ac yn atgoffa hefyd o beryglon coelcerthi.

“Gofynnwn i bobl gofio’r cod diogelwch tân gwyllt bob amser, yn enwedig dros gyfnod tân gwyllt a chalan gaeaf er mwyn lleihau’r perygl i dda byw, anifeiliaid anwes a phobl,” dywedodd Swyddog Polisi UAC Charlotte Priddy.

"Mae amser hyn o'r flwyddyn yn llawn peryglon ar gyfer anifeiliaid a phlant - felly peidiwch â gadael i esgeulustod ac anwybodaeth arwain at sefyllfa drychinebus," ychwanegodd Mrs Priddy.

Yn gyffredinol, nid yw anifeiliaid yn hoff o s?n tân gwyllt ac mae modd iddynt ddychryn yn ystod y cyfnod hwn o'r flwyddyn. Felly, mae UAC yn annog pobl i fod yn ystyriol a pheidio â'u tanio’n agos at dda byw.

"Mae hefyd yn syniad da sicrhau bod eich anifeiliaid anwes wedi cael eu microsglodio gan filfeddyg a bod y manylion ar y sglodion yn iawn cyn noson tân gwyllt, rhag ofn iddyn nhw fynd ar goll," meddai Mrs Priddy.

Mae UAC yn awgrymu bod pobl yn ymweld ag arddangosfa swyddogol, ond os ydych chi'n cael arddangosfa gartref, gwnewch yn si?r eich bod yn dilyn y cod tân gwyllt bob amser i leihau'r straen ar anifeiliaid y fferm a phlant.

Mae hefyd yn ddoeth rhoi rhybudd ychydig o ddyddiau ymlaen llaw i'ch cymdogion os ydych yn bwriadu cynnal arddangosfa tân gwyllt, yn enwedig os ydynt yn h?n, gyda phlant bach neu anifeiliaid anwes.

"Rydym yn annog pobl i beidio â defnyddio llusernau awyr bellach, sydd wedi cael eu gwahardd gan bron i hanner y cynghorau sir yng Nghymru, gan eu bod yn berygl sylweddol i dda byw ac, wrth gwrs, maent yn berygl sylweddol o ran tân," ychwanegodd Mrs Priddy.