UAC Sir Gaernarfon yn cynnal Cyfarfod Blynyddol

Mae cangen Sir Gaernarfon o Undeb Amaethwyr Cymru yn cynnal cyfarfod blynyddol dydd Gwener, Tachwedd 10 i drafod materion o bwys gyda’r aelodau yn y sir.

Cynhelir y cyfarfod yng Ngwesty Nanhoron, Nefyn am 7.30yh.

Y gw?r gwadd fydd Rheolwr Adran Amaeth Gogledd Cymru HSBC Bryn Edmunds, Pennaeth Adran Polisi UAC Dr Nick Fenwick, yr Aelod Cynulliad lleol Dafydd Elis Tomos, ac Wyn Williams o Gwmni Dunbia.

Dywedodd Cadeirydd Sir cangen Caernarfon o UAC Tudur Parry: “Bydd cyfle i aelodau drafod nifer o bynciau ac #AmaethAmByth, gan gynnwys effaith Brexit ar y diwydiant amaethyddol a materion polisi amaethyddol yn gyffredinol gyda’r siaradwyr.  Bydd sesiwn holi ac ateb yn dilyn y cyflwyniadau.

"Rydym yn gobeithio y bydd cynifer o aelodau â phosibl yn mynychu'r cyfarfod diddorol hwn ac rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi ar y noson."