Ffermwyr Meirionnydd yn dysgu am ddiogelwch ac atal troseddau ar ffermydd

Daeth ffermwyr Meirionnydd ynghyd yn ddiweddar i drafod diogelwch ar ffermydd ac atal troseddau gwledig.

Trefnwyd y digwyddiad gan gangen Meirionnydd o Undeb Amaethwyr Cymru, ac fe’i cynhaliwyd ar ddydd Iau, Tachwedd 9 yng Nghefn Creuan Isaf, Rhydymain drwy garedigrwydd Robin Lewis.

Bu cyflwynydd Ffermio Alun Edwards, Daltons ATV Llanbedr Pont Steffan a DH Jones, Bala yn dangos sut i ddefnyddio beiciau cwad yn gywir a dangos pa mor ansefydlog y gallant fod os ydynt yn cael eu gyrru'n ddiofal.

Dywedodd Swyddog Gweithredol cangen UAC Meirionnydd: “Roedd hi'n bwysig i ni ddangos pa mor beryglus yw beiciau cwad os ydynt yn cael eu trin yn anghywir ac roedd yn dda i ni weld beth yw'r ffordd gywir o’i defnyddio nhw.

“Dangosodd Alun y pwysigrwydd o gadw beiciau cwad mewn cyflwr da, gan ofalu bod lefel y gwynt yn gywir yn y teiars, a bod y brêcs, throtl ayyb yn gweithio’n iawn.”

Bu’r ffermwyr yn trafod sut i leihau’r perygl o gael niwed wrth drin gwartheg, lleihau’r perygl wrth weithio’n uchel a defnyddio cemegau yn ddiogel.

Yn anffodus mae sawl achos o ladrata wedi digwydd yng Nghefn Creuan Isaf, ac felly’n falch o groesawu’r Heddwas Dewi Rhys Evans o Dîm Troseddau Gwledig Heddlu Gogledd Cymru a bu’n rhoi esiamplau o sut i atal troseddau gwledig.

Yn siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd cadeirydd cangen UAC Meirionnydd Geraint Davies: “Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at lwyddiant y digwyddiad heddiw.

"Bob blwyddyn, mae troseddau gwledig yn costio miliynau o bunnoedd ac yn achosi pryder i ffermwyr a busnesau gwledig. Cynigiodd digwyddiad heddiw ffyrdd o gynorthwyo ffermwyr a'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig. Gwyddom fod y mwyafrif o ladrata o ffermydd yn gyfleus, gan fod y lladron yn gweld yr hyn sydd ar gael ac mae’r cyfle i’w dwyn yn rhwydd.

"Mae'r cyngor i ffermwyr yn glir: peidiwch gadael allweddi peiriannau a beiciau cwad yn y golwg a sicrhewch fod offer o dan glo pan na chaiff eu defnyddio. Hefyd, mae cloi gatiau yn rhwystr da yn ogystal â theledu cylch cyfyng.

"O ran diogelwch fferm, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i dynnu sylw at ba mor beryglus gall ffermio fod. Mae pawb yn ymwybodol o rywun sydd wedi'i anafu neu ei ladd mewn damwain. Y ffaith yw bod ffermwyr yn aml yn cymryd risg, ond mae diogelwch ar ffermydd yn hollbwysig. Rwy'n falch bod cymaint o ffermwyr lleol yn bresennol yma heddiw i weld beth y gallant ei wneud i gadw'n ddiogel ar y fferm. Os gellir osgoi un damwain bychan, a hynny diolch i ddigwyddiad heddiw, yna’n sicr mae wedi bod yn llwyddiant."