UAC yn dweud bod cau banciau ar draws Cymru yn drychinebus i fusnesau gwledig

Mae’r newyddion bod 20 o fanciau ar draws Cymru i gau ym 2018 wedi ysgogi beirniadaeth gan Undeb Amaethwyr Cymru, sy'n disgrifio'r cau fel newyddion trychinebus i fusnesau gwledig.

Y canghennau banc NatWest sy'n wynebu cau yw Porthcawl; Yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd; Llandaf yng Nghaerdydd; Ystâd Trefforest;  Rhydaman; Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd; Aberteifi; Y Bont-faen ym Mro Morgannwg; Dolgellau; Cas-gwent; Llanbedr Pont Steffan; Maesteg; Pencoed; Llandeilo, Tredelerch yng Nghaerdydd; Aberdaugleddau; Tonysguboriau, y Mwmbwls yn Abertawe ac Arberth.

Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: "Bydd cau'r 20 banc hyn yn cael effaith niweidiol ar y trefi, nid yn unig oherwydd bod nhw’n gwasanaethu’r pentrefi, ond bod nhw hefyd yn gwasanaethu llawer iawn o’r ardaloedd cyfagos hefyd, yn ogystal â chyflogi pobl leol.

“Trethdalwr y DU sy’n berchen ar 70% o’r banciau yma, felly mae'n rhaid i ni ofyn pam nad oes unrhyw amodau i'r rhyddhau sy'n sicrhau mynediad at wasanaethau o'r fath. Mae'n amlwg bod yn rhaid i lywodraethau wneud mwy ar gyfer Cymru wledig. "

Hefyd, mae UAC yn pryderu bod bancio ar-lein ddim ar gael ym mhob ardal wledig ar draws Cymru, gan nad oes gan lawer o bobl y cysylltiad rhyngrwyd priodol - os oes ganddynt gysylltiad o gwbl, ac efallai y bydd eraill yn poeni am fancio ar-lein am resymau seiber diogelwch.

"Rydym wedi cynnal gweithdai diogelwch seiber mewn cydweithrediad â banc Barclays dros y misoedd diwethaf, a dylai hyn helpu ein haelodau i fod yn fancwyr rhyngrwyd mwy deallus, ond mae’r broblem o gael mynediad i'r rhyngrwyd yn parhau i fod yn broblem fawr i'r ardaloedd gwledig hyn.

"Gyda mwy a mwy o wasanaethau a busnesau gwledig yn cau, mae'n rhaid inni gydnabod hefyd ei bod hi’n dod yn llai a llai deniadol i deuluoedd ifanc a pherchnogion busnes i aros mewn ardaloedd gwledig.

"Os na roddir sylw ar frys i’r broblem o ddiboblogi, gallai hyn arwain at  oblygiadau difrifol i'n cymunedau gwledig a hefyd ein heconomi wledig.

"Mae'n amlwg, os ydym am sicrhau bod Cymru'n datblygu i’w llawn botensial fel pwerdy economaidd gwledig, mae’n rhaid i ni sicrhau bod hi’n ddeniadol i deuluoedd sy'n gweithio medru aros yma a hefyd annog gwasanaethau hanfodol fel bancio busnes i barhau i fod ar gael," ychwanegodd Mr Roberts.