Ffermwyr b?ff a defaid o Feirionnydd yw arweinydd newydd Pwyllgor Llais yr Ifanc dros Ffermio UAC

Mae Geraint Davies, ffermwr bîff a defaid ac aelod o gangen Meirionnydd o Undeb Amaethwyr Cymru wedi cael ei benodi fel Cadeirydd Pwyllgor Llais Yr Ifanc Dros Ffermio UAC.

Ynghyd â'i wraig Rachael, mae'n ffermio yn Fedw Arian Uchaf, Rhyduchaf, Y Bala.  Yn fferm organig ers 2005, mae wedi bod yng nghynllun Glastir Sylfaenol ers 2013 ac yn y cynllun Uwch ers 2014.

Mae'r tir, sy'n gorwedd tua 900 troedfedd uwchben lefel y môr, gyda llawer ohono'n cyrraedd hyd at 2200 troedfedd, yn ymestyn i 1200 erw, yn dir mynydd yn bennaf gyda thua 200 erw o dir is, ac mae 70 erw yn cael ei gadw fel silwair bob blwyddyn.

Yma mae Geraint a Rachael yn cadw 1000 o famogiaid Mynydd Cymreig a Hwrdd Mynydd Cymreig, sy'n cael ei droi at y mwyafrif, tra bod oddeutu 300 o famogiaid yn cael eu croesi â hwrdd Innovis Aberfield.  Mae’r cwpwl bellach yn gwerthu ?yn organig i Dunbia.

Mae yna fuches fasnachol o 40 o fuchod sugno, ac mae'r mwyafrif ohonynt yn Wartheg Duon Cymreig pur ac yn cael eu croesi â tharw Limousin. Caiff y lloi eu gwerthu yn stôr rhwng 8-15 mis i brynwyr preifat. Mae'r rhan fwyaf o'r ?yn yn cael eu gwerthu ym marchnadoedd da byw y Bala a Rhuthun.

Er mwyn sicrhau bywyd gwyllt ffyniannus a phoblogaeth adar prin, tra hefyd yn cynhyrchu cig coch ym Medw Arian - sy'n cynnwys safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig - mae Geraint a Rachael yn cydweithio'n agos â FWAG Cymru, RSPB Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru.

Yn siarad am ei benodiad, dywedodd Geraint: “Yn gyntaf, rwyf am ddiolch i’r cyn Gadeirydd Darren Williams am ei holl ymroddiad a gwaith caled ers i’r pwyllgor gael ei sefydlu yn 2012, bydd hi’n dipyn o gamp i’w ddilyn!

"Wrth edrych i'r dyfodol, mae gan y pwyllgor hwn lawer o waith i'w wneud, yn sicrhau bod lleisiau ieuengaf ein diwydiant yn parhau i gael eu clywed ledled Cymru a'r DU. Mae'n bwysig cynnwys barn aelodau iau a newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant yn ein gwaith, a thrwy'r pwyllgor hwn gallwn ddarparu llwyfan arall i’w barn a’u safbwyntiau.

"Un o brif flaenoriaethau'r Undeb bob amser yw sicrhau bod modd i aelodau iau gyfrannu at drafodaethau ar faterion o bwys a gyda dyfodol trwblus i'r diwydiant ar y gorwel, bydd y pwyllgor hwn yn gwneud popeth o fewn gallu i gadw'r lleisiau ifanc yn rhan o bopeth.”