Ffermwr o Sir Benfro yn rhoi cig dafad nôl ar fwydlenni’r cogyddion enwog

Mae Robert Vaughan, ffermwr biff a defaid o Gwm Gwaun, wedi rhoi cig dafad ar frig bwydlen y cogydd teledu enwog Jamie Oliver, sy’n serennu yn y gyfres teledu ‘Jamie and Jimmy’s Friday Night Feast’ sydd ar Sianel 4 ar hyn o bryd.

Mae Robert, ffermwr mynydd o Sir Benfro ac aelod o Undeb Amaethwyr Cymru yn awyddus i bwysleisio pa mor amlbwrpas a blasus yw cig dafad ac yn falch o gael y cyfle i ddangos y fferm i Jamie a Jimmy.

“Un noson, heb rybudd, cefais alwad ffôn oddi wrth dîm cynhyrchu Jamie Oliver i gael sgwrs am fy fferm a chig dafad ar gyfer y gyfres newydd, gyda'r bwriad o bosibl i ymweld â’r fferm. Doeddwn i ddim eisiau cymryd yn ganiataol y byddai hyn yn digwydd wrth gwrs. Rydym wedi cymryd rhan yn ychydig o raglenni teledu o'r blaen ond mae'n debyg i gyfweliad am swydd newydd, chi byth yn gwybod 100% os byddwch chi'n llwyddiannus. Roedd yna lawer iawn o gwestiynau dros gyfnod o sawl wythnos, ond yn sydyn reit, mi roedd yna ddyddiad wedi ei drefnu.

“Roedd yr holl beth yn mynd yn gyffrous ond roeddwn yn nerfus hefyd erbyn y pwynt hwnnw. Ond mi ddywedais fy hanes, ac nid esgus fy mod i’n rhywun nad ydw i, ac wrth ddangos y fferm iddynt, eglurais ein dull ni o ffermio ac am ba mor hir yr ydym wedi bod yma. Ac fe benderfynon nhw weithio gyda ni."

Mae Carn Edward Meats yn rhan o fferm fynydd teuluol yng Ngogledd Sir Benfro, ac yn cynnwys 3 fferm da byw yn gweithio fel un yng nghysgod mynydd Carn Edward, sy’n uno ffermydd Llannerch, Penrhiw a Gerddi ac Ystafelloedd Te enwog Penlan Uchaf.

Brodyr Robert a Richard sydd wrth y llyw o dan arweiniad agos eu rhieni Dilwyn a Suzanne Vaughan.

Mae fferm Llannerch ar lawr Cwm Gwaun, a bu pwynt uchaf y fferm unwaith yn llwybr prysur i’r porthmyn ac yn ffordd allan i bererinion o Ogledd Sir Benfro.  Dyma le bu Tad-cu a Mam-gu Robert a Richard unwaith yn byw a ffermio a dyma le cafodd eu tad, Dilwyn, ei eni. Dros y blynyddoedd bu'n helpu i gadw’r gwartheg godro a'r defaid yn ogystal â phrynu fferm gyfagos Penlan Uchaf a oedd yn wag ac wedi cael ei hesgeuluso.

Treuliwyd llawer o flynyddoedd yn clirio eithin, drain duon a chwyn o’r tir pori, gyda chymorth amhrisiadwy gan ei rieni yn Llannerch, gan arwain at beth sydd bellach yn fferm fynydd llwyddiannus - wedi'i adeiladu o ddim byd.

“Cyn i'r ffilmio ddechrau, anfonais ychydig o’r cynnyrch iddynt i flasu yn Llundain. Anfonais y cig dafad a cefais wybod bod y cig wedi gwneud argraff ar Jamie Oliver ac yna daeth nifer o syniadau gwych o'r hyn ellid ei wneud gyda’r cig. Ac erbyn dechrau mis Mai roeddem yn ffilmio. Y cynllun gwreiddiol oedd bod nhw’n gwneud profion blasu gan ffrio darn o gig oen a darn o gig dafad yn gloi, a'i roi i rywfaint o bobl i weld beth oedd y farn. Gwnaethpwyd hyn ac i ffwrdd a nhw, ond oherwydd bod stori’r cig dafad wedi gwneud cymaint o argraff arnynt, daethant yn ôl am ddiwrnod cyfan er mwyn coginio gwahanol bethau.

“Rwy’n gyfarwydd â chig dafad, ond os nad ydych wedi ei flasu o’r blaen, yna mae’n rhywbeth arbennig iawn.  Roedd Jamie a Jimmy yn brysur yn coginio llwyni wedi'u ffrio, prydau pasta gyda chig mochyn, peli kofta a lolipops cig dafad. Mae’n werth rhoi cynnig arnynt, a’r ffordd orau o ddisgrifio nhw yw bwyd cyflym ar gyfer pobl ifanc - a dyma’r bobl yr ydym yn ceisio eu targedu. Beth sy’n grêt am Jamie a Jimmy yw bod nhw’n hyrwyddo'r bobl sy'n cynhyrchu'r bwyd yn ogystal â’r rhai sy'n bwyta'r bwyd. Maent yn bobl ddiffwdan, yn bleser llwyr ac yn brofiad gwych o’i cael nhw yma," meddai Robert Vaughan.

Yn ôl yn y 1980au cynnar, pan oedd Robert a Richard yn blant, cyrhaeddodd ffermio bwynt isel iawn; roedd yr elw’n wael a'r cyfraddau llog yn uchel. Er mwyn medru goroesi a thalu'r biliau, fe anogwyd ffermwyr i arallgyfeirio. Arweiniodd hyn at Dilwyn yn cael ei ysbrydoli gan ei angerdd at arddio, a ddysgwyd gan ei fam, ac aeth ati i ddechrau creu gerddi Penlan Uchaf.

Daeth y drydedd fferm Penrhiw, sy'n ffinio â Llannerch ac yn cwmpasu hanner arall mynydd Carn Edward, ar werth ym mlwyddyn olaf coleg Robert a Richard a phrynwyd hi y flwyddyn honno.

Felly, roedd gan y bechgyn 500 mlynedd o hanes teulu’r Vaughan yng Nghwm Gwaun, y wybodaeth addysgol, yr ysbrydoliaeth, angerdd a gafwyd gan eu rhieni a'u neiniau a theidiau a’r cariad tuag at y cynefin, a dyna gychwyn ar stori ffermydd Carn Edward.

Heddiw mae'r fferm fynydd nodweddiadol yn cadw diadell gaeedig o 750 o ddefaid magu pedigri Lleyn a buches frodorol o 200 o wartheg Hirgorn pedigri, gyda’r tymor wyna a lloia’n digwydd yn ystod y gwanwyn a’r oll yn cael eu magu ar borfa.  Ym mherfeddion gaeaf, maent o dan do ac yn cael eu bwydo gyda silwair a gynhyrchwyd ar ddechrau’r haf.

Yn 2001 sefydlodd y fferm eu buches gwartheg Hirgorn, brid brodorol sy’n cael eu magu ar borfa, yn ddelfrydol ar gyfer y tywydd eithafol sy'n wynebu fferm yng ngogledd Sir Benfro.

Mae marchnadoedd ffermwyr a gwyliau bwyd, ynghyd â'r gerddi a'r ystafelloedd te, wedi cynnig cyfle i hybu twf gwerthiant cig Carn Edward.

"Rydw i wedi gorfod dysgu sut i gael y gorau o garcasau defaid - nid ydych chi eisiau haen fawr o fraster arno heddiw oherwydd ni fydd pobl yn eu prynu. Yn draddodiadol, cawsant eu prosesu yn fraster, ac roedd hynny’n addas ar gyfer cael eu hongian am gyfnodau hir gan nad oedd oergelloedd bryd hynny. Felly rydym yn prosesu ein cig dafad fel y mae, yn gig goch, ac yn uwch mewn protein ac rydym yn ychwanegu at ei werth, gan gynhyrchu'r hyn y mae ein cwsmeriaid ei eisiau," meddai Robert Vaughan.

Wrth ddisgrifio’r gwahaniaeth rhwng cig dafad a chig oen, a pam ddylid rhoi cynnig arno, ychwanegodd Robert: “Mae’r ansawdd yn wahanol ac mae llawer mwy o flas - mae bron fel y cig tywyll sydd ar gyw iâr ond mae mwy ohono. Mae’r defaid yn cael mwy o amser i bori ac mae'r cig yn fwy cadarn a coch. Gallwch ei ddisgrifio bron fel cacen Nadolig da - mae angen amser arno a dim brys.

"Fel diwydiant, rydym wedi canolbwyntio cymaint ar gig oen y gwanwyn nes ein bod wedi anghofio am bethau arall. Mae’r sefyllfa’n fwy na hynny, ac mae’r pryniant o gig oen yn cwympo, ac mae hynny’n bryder i ni gyd. Felly mae stori’r cig dafad yn ffordd o danio diddordeb newydd ac yn ffordd wych o hyrwyddo ein diwydiant defaid.

"Roedd y cyfle i rannu fy mywyd ffermio gyda ‘Friday Night Feast’ a chymeriadau mor adnabyddus yn brofiad gwych a chofiadwy. Fel ffermwyr yn yr oes sydd ohoni, mae angen inni weithio’n fwy agos gyda’n cwsmeriaid a mynd y tu hwnt i giât y fferm.

"Os oes gyda chi ddiddordeb mewn blasu rhywfaint o'r gig a ddangosir yn y rhaglen deledu, gallwch ei brynu o'n gwefan http://www.carnedward.co.uk a gallwch ddod o hyd i mi ym Marchnadoedd Ffermwyr ar ddydd Llun yn Nhrefdraeth o 9am - 1yp, dydd Mawrth yn Llandudoch o 9am - 1yp, dydd Sadwrn (1af a 3ydd y mis) ym Marchnad Ffermwyr Aberystwyth ac ar ddydd Sadwrn olaf y mis ym Marchnad Uplands, Abertawe," ychwanegodd Robert.