Nadolig cyntaf yn Llyndy Isaf

Mae'r Nadolig yn amser gwych o'r flwyddyn i lawer ohonom - amser i ymlacio, rhoi ein traed i fyny, treulio amser gyda theulu a ffrindiau, cymryd mantais o’r  holl fwyd gwych sydd ar gael a bydd arogleuon coginio hyfryd yr ?yl yn llenwi nifer o gartrefi.

Unwaith bydd y swyddfeydd a’r siopau ar draws y wlad wedi cau a’r llonyddwch i’w deimlo o’n cwmpas; bydd y llefydd tân yn eu hanterth, y dadlau am bwy sy'n cael rhoi'r seren ar frig y goeden Nadolig eleni a’r rhan fwyaf yn gobeithio deffro i olygfa aeafol glasurol.

Ond os oes gyda chi fferm i redeg, pa mor wahanol yw’r Nadolig? Mae Teleri Fielden, ysgolhaig diweddaraf Llyndy Isaf, a chyn-reolwr Marchnata ac Aelodaeth Undeb Amaethwyr Cymru, yn edrych ymlaen at ei Nadolig cyntaf ar fferm fynydd 614 erw yn Nant Gwynant, wedi'i leoli yng nghanol Eryri.

Ar ôl treulio ychydig o flynyddoedd dramor, mae Teleri yn gyffrous i dreulio’r Nadolig yma ar y fferm: "Mewn gwirionedd, dyma fy Nadolig cyntaf yng Nghymru ers blynyddoedd, felly rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fod gyda fy nheulu (a’r c?n!) – mae’n mynd i fod yn Nadolig Cymreig arbennig iawn. Yr unig drafferth yw - mae'n rhaid i mi ei drefnu y tro hwn!

"Ond rwy'n credu y bydd cael y teulu a’r c?n yma ar gyfer y Nadolig yn fwy cartrefol gyda’r goleuadau Nadolig a’r llanast! Mae'n dy eithaf mawr i un person ac un ci, felly bydd hi'n braf cael llond t?. Ar ôl dweud hynny, byddaf mwy na thebyg yn edrych ymlaen at gael llonydd unwaith eto ar ôl y Nadolig!”

Mae'r fferm yn ymestyn o lannau hardd Llyn Dinas hyd at gopa Moel y Dyniewyd ac mae'n cynnwys cymysgedd o gynefinoedd rhostir, cors a choetir sy'n gyfoethog mewn bywyd gwyllt.

Yn ogystal â rheoli diadell o ddefaid Mynydd Cymreig a buches o wartheg Duon Cymreig, mae’r fferm yn rhan o gynllun Amaeth-Amgylcheddol Glastir ac yn cynnwys sawl Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, felly mae pwyslais mawr ar ffermio cadwraethol.

Wrth sôn am ei chynlluniau ar gyfer diwrnod Nadolig, dywedodd “Rwy’n mynd i gymryd mantais o gymorth a thaldra Dad i wneud llawer o dasgau!  Na, o ddifrif, mae fy chwiorydd yn gweithio mewn ysbytai (fi yw’r unig sy’n wahanol wrth fod yn ffermwr!), felly bydd pawb yn cyrraedd ar wahanol adegau yn ystod Noswyl Nadolig.

“Mae'r GIG ychydig bach yn debyg i ffermio yn y cyswllt hwnnw - nid yw byth yn stopio. Byddaf yn bwydo'r gwartheg ar ddiwrnod Nadolig, gan fod nhw bellach mewn o dan do, ond yna bydd y drefn arferol yn parhau - Capel, y bwyd, dadlau dros Monopoly a gwylio Call the Midwife!".

Beth fydd ar y fwydlen ar ddiwrnod Nadolig? Cig oen Teleri wrth gwrs. "Yn gynharach eleni pan symudais yn ôl adref, fe brynais ddiadell fechan (iawn) i bori 6 erw o dir fy rhieni, ac rwyf bellach wedi rhoi cynnig ar gynhyrchu bocsys cig oen, ac mae gen i stoc dda iawn yn y rhewgell hefyd. Nid oes popty fawr iawn gennyf ond rwy'n gwybod yn union beth i’w wneud gyda chig oen. Rwy'n ceisio hyrwyddo cig oen lle bynnag bosib oherwydd safon y cig sydd o’r ansawdd gorau posib, felly cig oen fydd ar y fwydlen gyda ni.

"Ac o ran y coginio, rwy'n si?r bydd pawb yn gwneud eu rhan. Fel arfer rydym yn treulio’r Nadolig gyda gweddill teulu mawr Mam ym Meifod. Roedd 24 ohonom un tro, felly roedd rhaid cael trefn lem a rhannu'r tasgau allan! Felly, rydym wedi hen arfer a bod yn drefnus a rhannu’r gwaith" meddai.

Ar ôl bron iawn 3 mis o’r ysgoloriaeth, mae Teleri yn esbonio bod y tywydd wedi bod yn her: "Mae'r glaw ... yn ddifrifol. Bu Ysgolor Nuffield o Awstralia yma yn ddiweddar - ac roedd e’n meddwl bod hi’n ddoniol fy mod wedi dweud bod e’n lwcus bod hi ddim yn bwrw’n drwm wrth edrych ar y tywydd.

"Fodd bynnag, mae'n lle mor brydferth, mae'r mynyddoedd yn syfrdanol. Mae ffermio’r ucheldir yn anodd mewn nifer o ffyrdd - mae'r tywydd a'r dirwedd yn ddwy esiampl. Ac ar hyn o bryd - mae’r ansicrwydd ynghylch Brexit (tariffau, taliadau cymorth ac ati), a'r ffaith nad oes llawer o opsiynau arallgyfeirio gyda ffermio defaid a gwartheg o’r math sydd gyda ni yma- yn sicr ni allaf besgi gwartheg na mynd ati i gynhyrchu llysiau ar Lyndy heb achosi rhywfaint o niwed amgylcheddol!

“Ond mae modd cymryd mantais o gynlluniau amgylcheddol.  Mae yna naws gymdeithasol arbennig o fewn y gymuned amaethyddol yma, mae pawb yn helpu ei gilydd, yn enwedig o gwmpas amser hêl y defaid.”

Er nad yw Teleri wedi cal ei magu ar fferm, mae hi bob amser yn chwilio am gyfleoedd i fagu profiad o ffermio. O oedran cynnar, roedd hi’n helpu ar fferm ei thaid a’i nain, ac yn fwy diweddar bu'n gweithio ac yn astudio ar fferm ymchwil gymysg yn yr Alpau Rhone yn Ffrainc, a oedd yn golygu bugeilio ar fynydd 3,000 troedfedd! Roedd Teleri hefyd ar y rhestr fer a cafodd ei chyfweld ar gyfer fferm yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar y Gogarth.

Wrth siarad am heriau'r ysgoloriaeth, dywedodd Teleri: "Mae llawer ohono wedi bod yn heriol mewn ffordd wych! Mae’r elfen gorfforol wedi bod yn sialens - gorfod trin defaid sydd yr un pwysau a mi, ceisio peidio â chael fy ngwthio gan y gwartheg, ac mae cerdded tir Llyndy yn eithaf heriol, (er fy mod yn dod yn fwy ffit!).

Rydw i hefyd wedi gweld hi’n anodd gorfod gofyn am gymaint o gymorth gan griw Hafod y Llan - er bod hynny hefyd yn brofiad gwych oherwydd dwi'n dysgu cymaint oddi wrthynt. Mae fy nyled yn fawr iddynt. Mae’r dasg o hyfforddi’r ci wedi bod yn anodd hefyd - mae’n bosib cael diwrnod da pan fydd Roy (y ci) yn gweithio'n dda iawn ac yn gwella, ac yna bydd diwrnod arall lle mae popeth wedi mynd o'i le a’r defaid yn y llefydd anghywir!

“Mae’n cymryd amser i ddeall Glastir a’r holl opsiynau rheolaeth a lefelau stocio.  Mae sylw’r cyfryngau hefyd wedi bod yn brofiad diddorol – ond mae'n cymryd llawer o amser hefyd. Ond rwy'n ceisio cymryd mantais o bob cyfle i hyrwyddo storïau positif am ffermio - mae gormod lawer o sylw negyddol am ein diwydiant.

"Rydw i mor ffodus i gael y cyfle i ganolbwyntio ar ffermio, ynghyd â'r holl ddysgu a’r hyfforddiant hefyd. Y troeon arall rwyf wedi bod yn ffermio,  rwyf wedi bod yn brysur gyda phethau eraill hefyd - swyddi llawn amser, astudio ac ati, sydd oll yn gwneud y dasg yn anoddach. Mae gen i lawer o syniadau nawr oherwydd mae gen i amser i feddwl amdanynt am unwaith!

"Rwy'n credu pe bawn i'n mynd mewn i denantiaeth ni fyddwn yn cael y rhyddid /amser hwnnw oherwydd mwy na thebyg y byddai'n rhaid i mi fod yn gweithio i wneud iddo dalu ffordd. Rwyf hefyd wedi mwynhau'r cyfle i gwrdd â thrafod pethau gyda phobl trwy’r profiad sy’n deillio o fod yma yn Llyndy.