Ydych chi wedi cwblhau’r Stocrestr Flynyddol Defaid a Geifr?

Mae pawb sy’n cadw defaid a geifr yng Nghymru yn cael eu hatgoffa i gyflwyno eu stocrestr flynyddol erbyn 1 Chwefror, er mwyn osgoi cosbau posibl.

Gellir cyflwyno'r ffurflen naill a’i trwy fynd i wefan EID Cymru (www.eidcymru.org), neu drwy ddychwelyd y ffurflen bapur yn yr amlen ragdaledig.

Unwaith y bydd y ffurflen wedi'i chyflwyno, bydd ceidwaid yn derbyn derbynneb, a dylid ei gadw’n ddiogel at ddibenion cadw cofnodion. Os nad ydych yn cadw defaid a geifr bellach, a bod chi ddim yn bwriadu cadw dim yn y 12 mis nesaf, mae angen i chi ddadgofrestru fel ceidwad gydag APHA (0300 3038268).

Dywedodd Swyddog Polisi UAC, Charlotte Priddy: "Mae'r stocrestr flynyddol o ddefaid a geifr yn ofyniad cyfreithiol ac mae'n hanfodol eich bod wedi cofnodi'r holl ddefaid a geifr yr ydych chi'n cadw, yn ôl daliad y CPH ar 1 Ionawr 2018. Mae rhaid i’r nifer o ddefaid/geifr rydych chi'n eu datgan gynnwys defaid magu, hyrddod, ?yn hyrddod, ?yn stôr ac ?yn tew, hen ddefaid a hyrddod i'w difa, geifr ac unrhyw ddefaid arall.

"Mae'n bwysig eich bod chi'n gwneud hyn i osgoi cosb croesgydymffurfio posib a siawns cynyddol o archwiliad.”

Os ydych angen cymorth, cysylltwch â llinell gymorth gwasanaeth EIDCymru ar 01970 636959 neu anfonwch e-bost at This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.