Ffermwyr Meirionnydd yn mwynhau brecwastau blasus

Cafodd pobl Meirionnydd wledd o frecwastau ar ddiwedd mis Ionawr, gyda thîm lleol Undeb Amaethwyr Cymru yn cynnal pedwar brecwast ffermdy.

Cynhaliwyd y digwyddiadau fel rhan o ymgyrch Wythnos Brecwast Ffermdy UAC, gan godi proffil cynnyrch Cymru a chael gwleidyddion, rhanddeiliaid allweddol a'r cyhoedd yn gyffredinol i ddeall rôl bwysig y sector bwyd a diod yn ein bywydau bob dydd.

"Fe wnaethom adeiladu ar lwyddiant y blynyddoedd blaenorol ym Meirionnydd, ac roedd ein 4 digwyddiad brecwast yn llwyddiant mawr. Unwaith eto, rydym yn ddiolchgar i bawb am y gefnogaeth a'r cydweithrediad, ac wrth gwrs i'r rhai fu’n noddi’r digwyddiadau, yn ogystal â'n prif siaradwyr sef Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd, Glyn Roberts, Llywydd UAC, y tenor adnabyddus Aled Wyn Davies, Pentremawr, Llanbrynmair a Liz Saville Roberts AS Dwyfor Meirionnydd," dywedodd Huw Jones, Swyddog Gweithredol Sirol cangen Meirionnydd o UAC.

Cynhaliwyd y brecwastau yng Nghaffi Frongoch, ger Y Bala; yn Tymawr, Carrog, Corwen; yn y Llew Coch, Dinas Mawddwy ac yng Nghanolfan/Siop y Pentref, Llanfrothen.

"Yn ogystal â phwysleisio rôl bwysig y mae'r gymuned ffermio yn ei chwarae o ran cynhyrchu bwyd, diogelwch bwyd, yr economi wledig a chyflogaeth, fe wnaethom hefyd godi swm gwych o £1459 ar gyfer achosion elusennol UAC, sef Cymdeithas Alzheimer Cymru a'r Farming Community Network (FCN).

"Hoffwn ddiolch i'r staff a'r rhai hynny a oedd yn paratoi brecwast i ni am eu cymorth ac wrth gwrs ein haelodau am godi swm anhygoel o arian i elusen," ychwanegodd Huw Jones.