Croeso gofalus gan UAC i gydnabyddiaeth Gove o ddatganoli a chanolbwyntio ar gadwyni cyflenwi

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu ymrwymiadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol Michael Gove i ganolbwyntio ar bolisïau'r gadwyn gyflenwi a'i gydnabyddiaeth o'r angen am gydbwysedd priodol rhwng datganoli a fframweithiau cyffredin y DU ar ôl Brexit.

Wrth siarad yng nghynhadledd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ym Mirmingham, rhoddodd Michael Gove nifer o ymrwymiadau i ffermwyr yn Lloegr, a hefyd yn cydnabod yr angen i Brexit gael ei ystyried o ran cadwyni cyflenwi cyfan sy'n gweithredu ledled y DU.

Wrth ymateb, dywedodd Llywydd UAC, Glyn Roberts: "Yn sgil Brexit, mae ffocws clir ar bolisïau ffermio, amgylcheddol a defnydd tir, ond mae'r Undeb wedi bod yn dadlau bod angen ystyried y cadwyni cyflenwi cyfan - boed yn gadwyn gyflenwi ar gyfer bwyd, carbon, ynni gwyrdd neu fywyd gwyllt.

"Mae ffermwyr yn gysylltiadau allweddol o fewn cadwyni cyflenwi hir sy'n cynnwys pob math o ddiwydiannau ac yn darparu llu o fanteision cyhoeddus - yn enwedig y bwyd sy'n cyrraedd silffoedd yr archfarchnad bob dydd. Mae angen polisïau Llywodraeth gyfannol sy'n darparu buddion i gwsmeriaid a thegwch i  ffermwyr, ac ymyrraeth lle mae methiant yn y farchnad."

Dywedodd Mr Roberts ei fod felly'n croesawu bod Llywodraeth y DU wedi derbyn yr angen i ystyried cadwyni cyflenwi cyfan, gan gynnwys y rhai sy'n ymestyn ledled y DU ac ymhellach i ffwrdd.

"Rydym wedi croesawu’r trafodaethau rhwng Llywodraeth y DU â chyrff ffermio ac amgylcheddol yn ystod y deunaw mis diwethaf, ond mae angen rhagor o ymgysylltiad rhwng y llywodraeth â phobl eraill ar hyd cadwyni cyflenwi," ychwanegodd.

Hefyd, croesawodd Mr Roberts cydnabyddiaeth yr Ysgrifennydd Gwladol o'r angen am bwerau datganoledig dros amaethyddiaeth i aros yn gadarn yn nwylo Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon - ond bod angen cydbwysedd rhwng pwerau a fframweithiau o'r fath sy'n atal gwyrdroadau ym marchnadoedd y DU ac yn ehangach.

"Mae UAC yn gefnogwr pendant o ddatganoli, ond mae'r holl lywodraethau yn cydnabod pwysigrwydd cytuno ar fframweithiau â chenhedloedd a gwledydd eraill. Y dewis arall yw rhyddid i bawb sy’n gwyrdynnu marchnadoedd ac yn arwain at anghydraddoldeb rhwng cynhyrchwyr sy'n niweidio cysylltiadau ac yn cyfaddawdu masnach.”

Dywedodd Mr Roberts fod angen cytuno ar fframweithiau o'r fath ar frys o gofio’r tri mis ar ddeg cyn i'r DU adael yr UE. Felly, croesawodd sicrwydd Mr Gove bod Llywodraethau'r Deyrnas Unedig "yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau y bydd fframweithiau ledled y DU ar gyfer meysydd o bryder cyffredin fel iechyd anifeiliaid a phlanhigion, a bod dim un penderfyniad yn cael ei wneud i niweidio ein marchnad fewnol yn y DU."

Wrth ymateb i gynllun Llywodraeth y DU i gyflwyno cap ar daliadau fferm Lloegr, dywedodd Mr Roberts bod capio taliadau wedi bod ym mholisi UAC ers 2007, ac o ganlyniad, ers 2015, mae taliadau yng Nghymru wedi cael eu capio o dan reoliadau newydd.

"Fodd bynnag, yr ydym eisoes wedi ysgrifennu at weinidog DEFRA, George Eustice, i dynnu sylw at ein pryderon yngl?n â cholli manteision capio os na fydd unrhyw gyfyngiad yn cael ei gymhwyso i daliadau amaeth-amgylcheddol, gan y byddai ystadau ac elusennau mawr yn manteisio ar arian a fyddai'n cael ei wario'n well ar ffermydd teuluol, " ychwanegodd.