Gwd thing UAC yn Sioe Frenhinol Cymru

Baler cord, cap stabal, rigger boots a mwstash - delwedd weddol gyffredin o ffermwyr yng Nghymru dros y degawdau, ond diolch i un dyn o Gwmfelin Mynach, mae’r ddelwedd bellach yn un eithaf eiconig...dyma’r Welsh Whisperer.

Mae’r dyn sy’n prysur wneud enw iddo’i hun fel perfformiwr, cyflwynydd radio a phersonoliaeth deledu boblogaidd yn ymuno gydag Undeb Amaethwyr Cymru yn Sioe Frenhinol Cymru.

Yn perfformio yn arbennig ar gyfer UAC, nos Lun Gorffennaf 23 ym mhafiliwn yr Undeb ar faes y sioe, edrychwn ymlaen at glywed y ffefrynnau megis Loris Mansel Davies, Bois y JCB, Bois y Loris, Classifieds y Farmers Guardian a Ni’n Belo Nawr.

Bydd y noson yn dechrau am 6.30yh gyda chŵn poeth am ddim a bar.

Dywedodd Geraint Davies Cadeirydd Pwyllgor Llais yr Ifanc Dros Ffermio UAC: “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r Welsh Whisperer i’n pafiliwn ac yn gobeithio y gall llawer ohonoch ymuno â ni!

“Un peth sy’n sicr, mae’r Welsh Whisperer yn denu sylw pob oedran, ond yn bwysicaf oll, y to ifanc.  Dyna’n union beth sydd angen ar hyn o bryd, ynghanol ansicrwydd beunyddiol Brexit, mae angen i gefn gwlad fod yn ddeniadol ac mae’r Welsh Whisperer yn diwallu’r angen hynny.  Felly allan a’r baler cord, a’r crys siec, ac ymunwch gyda ni am noson o hwyl”.

Gellir prynu tocynnau ar gyfer y digwyddiad o'ch swyddfa UAC leol am £15 yr un ar gyfer oedolion a £5 i blant, gyda 50% o bris y tocynnau'n mynd tuag at elusennau UAC - Cymdeithas Alzheimer Cymru a FCN (Farming Community Network).